Ein Staff
Mae MPCT yn gyflogwr arobryn sydd wedi cael ei gydnabod fel cyflogwr Platinwm gan Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP).
Mae cryfder yr arweinyddiaeth yn MPCT wedi’i nodi fel uchafbwynt, ac mae cyflogeion yr MPCT yn aml yn crybwyll am yr ymddiriedaeth sydd ganddynt yn eu harweinwyr, a’u cred bod arweinwyr yn awyddus i wneud y peth iawn yn eu gwaith, gan gael yr effaith fwyaf cadarnhaol posibl ar eu cydweithwyr a’r rhai y mae MPCT yn eu gwasanaethu. Mae’r ffocws hwn wedi’i fodelu a’i lywio gan uwch arweinwyr, ond yn fwy na hynny mae’r diwylliant hwn o ymddiriedaeth, gofal a pharch wedi ei sefydlu ar bob lefel ac ym mhob tîm sy’n rhan o’r sefydliad.


UWCH DÎM ARWEINYDDIAETH
-
Huw Lewis MBE
Prif Swyddog Gweithredol MPCT
-
Brian Edwards
Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol
-
Huw Moores
Cyfarwyddwr Datblygu Partneriaethau
-
Emma Lambert
Cyfarwyddwr Cyllid
-
Donna Briggs
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
-
Tim Williams
Cyfarwyddwr Contractau
-
Dan Shooter
Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
-
Steve Williams
Cyfarwyddwr Rheoli Risg
-
Mike Ronan
Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau
Huw yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol yr MPCT.
Ymunodd Huw â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn 17 oed ac erbyn diwedd ei yrfa filwrol roedd yn Gapten â’r Cymry Brenhinol. Ar ôl gadael y Fyddin, buan iawn y daeth Huw i amlygrwydd am ei angerdd a’i allu i ymwneud â phobl ifanc, gan feithrin penderfynoldeb a chymhelliant a’u galluogi i gyflawni eu huchelgeisiau. Yn 2001, derbyniodd Huw MBE am ei waith gyda phobl ifanc.
Yn 2014 sefydlodd Huw yr Ymddiriedolaeth Cymhelliant a Dysgu (MLT) sydd wedi codi tua £460,000 hyd yma. Mae’r MLT yn cefnogi dysgwyr MPCT ac yn rhoi cynnig ystod eang o gymorth a gweithgareddau cyfoethogi addysgol mawr iddynt; gan eu galluogi i gyflawni eu gwir botensial.
Mae Huw a’i dîm wedi gweithio’n galed i sicrhau bod MPCT yn le gwych i weithio, ac mae’r ymdrechion hyn wedi’u cydnabod trwy gael eu cynnwys yn rhestr Sunday Times Top 100 Best Small Companies to Work For 2017. Ynghyd â hyn, dyfarnwyd statws Achrediad 3 Seren i MPCT gan arbenigwyr ymgysylltu Best Companies, sy’n nodi lefelau eithriadol o ymgysylltu, a dyfarnwyd statws ‘World Class’ Best Companies iddynt yn 2021.
Ym mis Awst 2014, dyfarnwyd y radd perfformiad uchaf posibl i MPCT gan Arolygiaethau Ei Mawrhydi, sef OFSTED, sef Gradd 1 Eithriadol ar draws pob maes. Cydnabuwyd bod sgiliau arwain a rheoli MPCT yn rhagorol, a’i fod yn gwmni lle mai “prif flaenoriaeth yr uwch arweinwyr yw cefnogi llwyddiant pob Dysgwr”.

Yn 2017, cafodd MPCT ei enwi’n “Ddarparwr Hyfforddiant y Flwyddyn” gan TES – dyma un o’r gwobrau mwyaf mawreddog y gall darparwr hyfforddiant ei dderbyn. Cafodd Huw ei enwi’n Gyfarwyddwr y Flwyddyn Cymru 2017 gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr hefyd.
Mae Huw a’i dîm wedi helpu oddeutu 4,190 o bobl ifanc i ymuno â’r Lluoedd Arfog. Yn 2018 ymrwymodd MPCT i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn cydweithio’n agos gyda Grŵp Recriwtio’r Fyddin.
Yn 2019, derbyniodd yr MPCT wobr aur y Defence Employer Recognition Scheme, a hynny i gydnabod eu hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd gyrfa rhagorol i gyn-aelodau’r lluoedd arfog.
Mae MPCT wedi bod yn hynod lwyddiannus ers ei sefydlu ym 1999 ac mae wedi ennill Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP) deirgwaith, a’n fwy diweddar maent wedi cael y wobr Platinwm.
Yn 2020 llofnododd MPCT femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol i ddatblygu eu perthynas waith ymhellach ac i gefnogi ymgeiswyr i fod yn gwbl barod ar gyfer gyrfa yn y gwasanaethau milwrol.
Trwy weithgarwch ac ymroddiad parhaus Huw i helpu pobl ifanc, mae MPCT bellach wedi hyfforddi dros 22,000 o ddysgwyr rhwng 16 a 23 oed ledled Cymru a Lloegr. Mae’r cwmni wedi ehangu i 35 o leoliadau ledled y DU, gan gyflogi dros 170 o staff llawn amser.
Ganwyd Huw yng Ngogledd Cymru yn 1968 ac mae bellach yn byw yn Nhrefynwy. Mae Huw yn feiciwr, yn gerddwr a’n yn rhedwr brwd. Yn 2017, cwblhaodd y Marathon des Sables. Mae Huw hefyd wrth ei fodd yn treulio ei amser hamdden gyda’i bartner Mel a’i fab Charlie, sy’n 10 oed, ac mae’n hyfforddwr brwdfrydig i dîm rygbi Trefynwy.
Ganwyd Brian yng Nghwm Rhondda yn 1977. Ei ddwy nod oedd chwarae rygbi ac ymuno â’r Fyddin Brydeinig. Yn 17 oed ymunodd â Chatrawd Frenhinol Cymru, ac yn ystod ei 10 mlynedd o wasanaethu bu ar Weithrediadau Milwrol yng Ngogledd Iwerddon, Bosnia, a Kosovo ac ar ddyletswydd yn yr Almaen, Llundain, Affrica, a Belize. Yn ystod ei gyfnod yn y Fyddin, bu’n ddigon ffodus i chwarae rygbi i’r Gwasanaethau Cyfunol ar lefel o dan 21 oed ac i’r Fyddin Brydeinig ar lefel uwch.
Yn ystod ei wasanaeth cafodd ei bostio i Gaerdydd i chwarae rygbi lled-broffesiynol yn ogystal â bod yn Gydlynydd Milwrol yn MPCT. Yn y cyfnod hwn daeth i garu ethos y sefydliad, ac yn y pen draw gadawodd y Fyddin i weithio’n llawn amser yn MPCT fel Rheolwr Ffitrwydd a Hyfforddwr BMF. Nes ymlaen, aeth ar gyfnod sabothol a dychwelyd i’r Brifysgol i astudio addysg ar lefel meistr. Yn fuan ar ôl graddio penodwyd Brian yn Gyfarwyddwr Ansawdd yn MPCT i helpu’r sefydliad i barhau â’i waith gwych mewn cymunedau lleol.
Angerdd proffesiynol Brian yw helpu MPCT i ddod yn esiampl ddisglair o fframweithiau Estyn ac Ofsted. Mae Brian wedi bod yn enwebai ansawdd ar gyfer 4 arolygiad AEM, a chael canlyniadau da neu ragorol. Yn arolygiad diweddaraf Ofsted yn 2014, derbyniodd MPCT statws Rhagorol ym mhob maes, ac yn 2020 dyfarnwyd yr achrediad 3 seren uchaf i MPCT gan Best Companies.
Yn 2017 cafodd Brian ei anrhydeddu i dderbyn gwobr Darparwr Hyfforddiant AB y flwyddyn ar ran MPCT gan FE Times Education Supplement (TES).
Ym mis Ionawr 2021 dechreuodd Brian ar gwrs Arweinyddiaeth Effaith Uchel ym Mhrifysgol Caergrawnt lle bydd yn derbyn achrediad DPP.
Mae Brian yn briod a chanddo 1 plentyn, Samuel, sy’n astudio i fod yn athro Addysg Gorfforol. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau hyfforddi rygbi ac roedd yn arfer chwarae ar safon broffesiynol a lled broffesiynol.
Cwblhaodd Brian ras Marathon Des Sables yn anialwch y Sahara ym mis Ebrill 2017, sy’n ras hunangynhwysol o 6 marathon mewn 5 diwrnod, a hynny mewn gwres tanbaid. Am ryw reswm anhysbys i Brian, mae wedi cofrestru i wneud unwaith eto pan gynhelir y ras nesaf, pryd bynnag y daw.
Mae gan Brian ddiddordeb mawr mewn rheoli busnes ar bob lefel ac mae hyn yn rhywbeth y bydd yn ei archwilio’n broffesiynol ar lefel meistr yn y dyfodol.
Ces fy ngeni ym mis Ionawr 1966 yn Hannover, yr Almaen, gan fod fy nhad yn gwasanaethu dramor gyda’r Fyddin. Treuliais yr 16 mlynedd nesaf yng nghanol y bwrlwm a’r amrywiaeth cymdeithasol sy’n rhan o fywyd plentyn milwr sy’n symud o amgylch y byd.
Yna dilynais yn ôl traed fy nhad gan ymuno â’r Fyddin yn 16 oed yng Ngholeg Prentisiaid y Fyddin yng Nghas-gwent. Yno, cwblheais brentisiaeth 2 flynedd fel gwneuthurwr weldio cyn mynd ymlaen i gwblhau gweddill fy hyfforddiant Peirianneg Filwrol a pharatoi i ymuno â Byddin y Maes. Roedd fy swydd gyntaf yn Iserlohn yn yr Almaen, lle cefais fy nhaflu i fywyd anodd a gwych Peiriannydd Milwrol yn ystod y Rhyfel Oer, yn ogystal â gorfod dysgu’r sgiliau bywyd hanfodol eraill y mae llanc 18 oed eu hangen i oroesi yn yr Almaen! Caniataodd rôl newidiol a heriol Peiriannydd Brenhinol i mi brofi ystod o wahanol gyfleoedd gyrfa, chwaraeon a datblygiad personol. Cynrychiolais y Peirianwyr Brenhinol a’r Fyddin mewn sboncen, ac fe’m cyflogwyd mewn llawer o wahanol rolau, gan gynnwys Brwydro, Awyr Symudol, Cymorth Awyr, Amffibiaidd, Arfog ac Ymosodiadau Awyr, a hynny mewn amgylcheddau gwahanol ledled y byd.
Parodd fy ngyrfa â’r Fyddin am bron i 30 mlynedd, a’m swydd olaf oedd Swyddog Warant Dosbarth 1 (WO1) i Dîm Cynghori Recriwtio’r Frigâd, sy’n gyfrifol am baratoi a darparu hyfforddiant, monitro safonau recriwtio a rhoi cymorth MIS i’r fframwaith recriwtio rhanbarthol ledled Cymru. Pan oeddwn yn y rôl hon aildaniwyd fy mherthynas ag MPCT, perthynas a oedd wedi dechrau ym 1999 yn ystod camau cychwynnol ei weithredu.
Ar ôl ymddeol o wasanaeth milwrol llawn amser yn 2011, roeddwn yn falch iawn o gael fy nghyflogi gan MPCT a chael y cyfle i ddatblygu a chanolbwyntio ar ail yrfa o fewn sefydliad deinamig a blaengar. Rwyf wedi ffynnu ar yr heriau a’r cyfleoedd a gynigiwyd gan yr ail yrfa hon, ac mae bod ymhlith pobl o’r un anian sydd a’r un brwdfrydedd am fywyd wedi ei gwneud yn bleserus dros ben. Rwyf wedi mwynhau adeiladu, datblygu a meithrin y berthynas fasnachol a phroffesiynol rhwng MPCT a’n partneriaid presennol yn arbennig. Yn 2019, ymunais â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (SLT) fel y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfathrebu ac rwy’n parhau i gynrychioli ein Hymddiriedolaeth Elusennol (Yr MLT) fel un o’r Ymddiriedolwyr.
Fy niddordebau yw golff (ei chwarae), rygbi (ei wylio) ac rwy’n parhau i chwarae, hyfforddi a dyfarnu gemau sboncen, sef fy mhrif ffocws chwaraeon dros y blynyddoedd. Ar hyn o bryd rwy’n un o’r Dyfarnwyr Cenedlaethol sydd â’r anrhydedd i gynrychioli Cymru fel swyddog yn nigwyddiadau Sboncen y Byd ac Ewrop. Rwyf hefyd yn mwynhau gwrando ar lyfrau sain, gan fod darllen wastad wedi bod yn anodd i mi.
Rwyf wedi bod yn briod â Karen ers 1992, a ni yw rhieni balch iawn Rhianydd ac Alys.
Mae Emma yn gyfrifydd cymwysedig ac yn gyd-aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig a Siartredig (ACCA) ers 2006.
Yn nyddiau cynnar ei gyrfa, hyfforddodd i arbenigo mewn gwaith sy’n gysylltiedig â’r gyflogres, gan arwain at swydd gyda chwmni lleol o Gyfrifwyr Siartredig fel Rheolwr Swyddfa’r Gyflogres. Arweiniodd hyn yn ei dro at hyfforddi i fod yn gyfrifydd cymwysedig. Cafodd Emma ei dyrchafu i swydd Rheolwr Gwasanaethau Busnes, lle bu’n arbenigo mewn archwiliadau cwmni, cyfrifon rheoli ac aseiniadau i helpu cwmnïau i sefydlu swyddogaethau cyfrifyddu effeithlon. Gadawodd Emma’r rôl hon yn 2009 er mwyn ennill profiad fel cyfrifydd yn gweithio mewn diwydiant, a derbyniodd swydd Rheolwr Ariannol gyda dosbarthwr cydrannau cyfrifiadurol, cyn ymuno ag MPCT ym mis Mehefin 2014 fel Pennaeth Cyllid a chael dyrchafiad i’r swydd Cyfarwyddwr Cyllid ym mis Rhagfyr 2015.
Mae Emma wedi bod yn briod â Vernon ers 2017 ac mae ganddyn nhw un mab gyda’i gilydd, Cassian.
Ganwyd Donna Louise Briggs yn 1967 yn Sblot, Caerdydd. Aeth i Ysgol Uwchradd Willows cyn mynd ar brentisiaeth gyda Trust House Forte a chael hyfforddiant i fod yn gogydd.
Wrth weithio fel cogydd mewn gwahanol sefydliadau yng Nghaerdydd, cysylltodd cwmni hyfforddi â Donna a chynnig iddi ddod yn Asesydd/Tiwtor NVQ i roi hyfforddiant arlwyo i bobl ifanc sydd wedi dadrithio. Sylweddolodd Donna mai hyfforddi pobl fanc oedd ei galwedigaeth.
Mae Donna wedi gweithio ym maes hyfforddiant ers iddi fod yn 20 oed, gan ennill profiad helaeth ym mhob agwedd ar Hyfforddiant a ariennir gan y Llywodraeth. Mae’r swyddi y mae hi wedi’u cyflawni’n cynnwys Asesydd/Dilysydd, Rheolwr Prosiect, swyddog datblygu’r Fargen Newydd, Rheolwr Contract Oedolion, Cydlynydd Cwricwlwm Amgen, a Rheolwr Sicrhau Ansawdd.
Roedd Donna, ynghyd â Huw Lewis, yn rhan o egin y rhaglen paratoi milwrol nôl yn 1999. Yn ystod dyddiau cynnar MPCT roedd Donna a Huw yn aml yn ymwneud â’r ddarpariaeth o bob agwedd ar hyfforddiant, boed yn feithrin y tîm corfforaethol neu drefnu teithiau dros nos i fyfyrwyr, staff a chwsmeriaid.
Mae Donna wedi bod yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol ers 2004 ac mae’n gyfrifol am bob agwedd ar Adnoddau Dynol ar draws holl weithredoedd MPCT.
Mae Donna yn briod, a chanddi ddau o blant a dau wyr, mae hi’n mwynhau treulio amser gyda’r teulu ynghyd â’i gyrfa heriol.
Tim yw Cyfarwyddwr Contractau MPCT (APCymru), mae’n gweithio o’r Brif Swyddfa, ac mae wedi bod yn rhan o’r cwmni o’r dechrau, yn 2002. Mae ganddo wybodaeth a phrofiad helaeth o reoli contractau’r llywodraeth, gan gynnwys rhai ariannol a rhai seiliedig ar berfformiad. Ar hyn o bryd, ef sy’n uniongyrchol gyfrifol am bortffolios yr adrannau TG a Chymorth i Ddysgwyr.
Cafodd ei eni yn Aberdâr ym 1975, ac astudiodd Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ennill Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc) ag anrhydedd. Ar ôl gadael y Brifysgol ym 1996, ac yntau heb lwyddo i gael swydd yn y Diwydiant Fferyllol fel y dymunai, parhaodd Tim â’i swydd ran-amser fel bwci a’n fuan iawn daeth yn Rheolwr yno.
Ym 1997, cafodd swydd yn adran hawliadau Cyngor Hyfforddiant a Menter De Morgannwg, a dyna sut dechreuodd ei gysylltiad â Dysgu Seiliedig ar Waith.
Ym 1999 gadawodd Cynghorau Hyfforddi a Menter Cymru i ymuno â NEWAY Training yng Nghaerdydd fel Rheolwr Gweinyddol. Roedd ei gyfrifoldebau’n cynnwys ymdrin â hawliadau i gyrff dyfarnu, Cynulliad Cymru a rheoli contractau. Dyma ble daeth i gysylltiad â Huw Lewis a’r Cwrs Paratoi Milwrol gyntaf, a chynhaliwyd y cwrs cyntaf ym mis Medi’r flwyddyn honno.
Yn 2002 symudodd i APCymru i weithio gyda Huw Lewis fel Rheolwr Busnes, gan gymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros Gyllid a Gweinyddiaeth y cwmni. Datblygodd y rôl yn fuan iawn i fod yn Gyfarwyddwr Cyllid. Yn 2014, cafodd y swydd ei mireinio i fod yn Gyfarwyddwr Contractau.
Yn ei amser hamdden, mae Tim yn mwynhau bywyd teuluol, cymdeithasu, cerddoriaeth a phêl-droed, mae’n ddeiliad tocyn tymor CPD Dinas Caerdydd.
Cafodd Dan Shooter ei eni, ei fagu a’i addysgu yn Sir Benfro. Yn 2003, aeth i Gaerdydd i gwblhau gradd BSc (Anrh) mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol yn Athrofa Prifysgol Cymru.
Yn 2006, aeth i’r Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst (RMAS), a phan gwblhaodd yr hyfforddiant yn llwyddiannus cafodd ei gomisiynu fel Swyddog i Fataliwn 1af Y Cymry Brenhinol, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gynt.
Ar ôl RMAS, cwblhaodd hyfforddiant pellach yn yr Infantry Battle School yn, Aberhonddu, cyn gwasanaethu fel Comander Platŵn mewn Bataliwn yng Nghyprus a Chaer ac ar deithiau gweithredol yn Irac ac Afghanistan. Aeth ymlaen i ymgymryd â rôl gyfarwyddo yn yr Infantry Training Centre, Catterick, lle’r oedd yn gyfrifol am nifer o dimau hyfforddi, yn goruchwylio perfformiad a datblygiad y maes llafur hyfforddi. Yn 2010, gadawodd y Fyddin fel Capten, ac aeth i yrfa ym maes addysg a rheolaeth.
Bu Dan yn gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn Uned Cyfeirio Disgyblion ym Mhenarth, Caerdydd, yn cefnogi pobl ifanc â phrofiad o drawma datblygiadol cynnar a phobl ifanc â diagnosis o Gyflyrau’r Sbectrwm Awtistig. Yn dilyn y swydd hon aeth Dan i Brifysgol Bath i gwblhau ei Dystysgrif Addysg i Raddedigion Addysg (TAR) ar Lefel Meistr, ynghyd â chael Statws Athro Cymwysedig (SAC). Yn 2011, roedd yn athro Addysg Gorfforol mewn Ysgol Uwchradd yng nghanol Bryste, a datblygodd ei rôl i feysydd rheolaeth ganol, cyfrifoldeb bugeiliol allweddol, ymarferydd arweiniol y ddarpariaeth i ddisgyblion dawnus a thalentog, ac ymrwymiadau addysgu uwchradd ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth.
Yn 2015, ymunodd Dan ag MPCT fel Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer yr Ysgol Baratoi Filwrol, sef darpariaeth ysgol cyn-16 MPCT, cyn symud ymlaen i’r Uwch Dîm Rheoli fel Pennaeth Ysgolion ac yna i Uwch Dîm Arweinyddiaeth MPCT fel Dirprwy Gyfarwyddwr.
Ar hyn o bryd mae Dan yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes yn MPCT, a’i brif gyfrifoldebau yw darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddeb ar bob agwedd ar farchnata i gefnogi recriwtio strategol a gweithredol ar draws holl ddarpariaethau MPCT, gwelededd allanol ac ymwybyddiaeth brand. Hefyd, Dan sy’n arwain ar fentrau a chyfleoedd busnes newydd a phresennol, o’r cysyniad hyd at ei weithredu, ac ef sy’n arwain ar dwf strategol, datblygu busnes a recriwtio ar gyfer darpariaethau cyn-16 MPCT; sef Ysgolion MPCT ac Arweinwyr Ifanc MPCT.
Hefyd, Dan sy’n arwain ar fentrau a chyfleoedd busnes newydd a phresennol, o’r cysyniad hyd at ei weithredu, ac ef sy’n arwain ar dwf strategol, datblygu busnes a recriwtio ar gyfer darpariaethau cyn-16 MPCT; sef Ysgolion MPCT ac Arweinwyr Ifanc MPCT.
Mae Dan yn aelod allweddol ac yn Gyfarwyddwr enwebedig ar Brotectors Ltd. Mae Brotectors, a sefydlwyd yn Ne Cymru yn 2017, yn gwasanaethu fel sefydliad cymorth iechyd meddwl. Mae’r sefydliad yn cefnogi pobl ar draws pob rhanbarth yn y DU, gyda’r prif nod o gefnogi dynion sydd mewn perygl o hunanladdiad. Mae Dan yn frwdfrydig dros ffitrwydd ac mae’n mwynhau byw bywyd egnïol yn yr awyr agored. Mae wedi chwarae amrywiaeth o chwaraeon ar wahanol lefelau, yn enwedig rygbi, gan chwarae yn Is-adran Gyntaf Cynghrair Genedlaethol Cymru a chynrychioli ei Gatrawd/Bataliwn a Rygbi’r Fyddin yng Nghyprus.
Ganwyd Steve yn Llanelwy yn 1969, ac fe’i magwyd yn Ninbych. Ar ôl ymuno â’r Fyddin fel Milwr Iau yng Nghwrt-y-Gollen (Crughywel) yn 1985, gwasanaethodd am 23 mlynedd gan dreulio ei holl yrfa gyda Bataliwn 1af y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a drodd yn Y Cymry Brenhinol nes ymlaen. Yn y Fyddin, profodd Steve lawer o amgylcheddau gwaith gwahanol, a hynny yn y DU ac ar dymhorau dyletswydd gweithredol.
Yn ystod ei yrfa filwrol, cyflawnodd amrywiaeth o rolau arwain heriol o fewn y Gatrawd yn ogystal ag ar bostiadau, gan gynnwys Rheolwr Meddygfa ar gyfer Canolfan Feddygol, Uwch-ringyll y Cwmni (CSM), Sarsiant Cyflenwi Catrodol (RQMS), Swyddog Lles a Swyddog Rheoli Gyrfaoedd Catrodol (RCMO).
Ymddeolodd yn 2008 ar ôl derbyn anaf, arweiniodd cymhlethdodau meddygol at golli ei goes o dan y ben-glin, a theimlai na allai wireddu’r dyfodol yr oedd ei eisiau yn y Fyddin oherwydd yr amhariad ar ei allu corfforol a’i symudedd.
Ymunodd Steve ag MPCT fel Rheolwr Ardal Gogledd Cymru, a defnyddiodd y wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd o’i yrfa â’r fyddin i wireddu gweledigaeth y Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer y Cwmni.
Cafodd ei wneud yn Gyfarwyddwr (Cyfarwyddwr Gweithrediadau MPCT) yn 2009, ac roedd yn gyfrifol yn weithredol am holl leoliadau’r coleg, gan gynnwys; rhaglennu, datblygu gwersi, iechyd a diogelwch a lles/diogelu, a mynychu cyfarfodydd rhanbarthol allanol a mewnol yn ôl y gofyn.
Yn anffodus, oherwydd rhai cymhlethdodau parhaus o’r anaf a’r haint gwreiddiol, yn 2010 bu rhaid torri yn uwch na’r ben-glin gan leihau ei symudedd ymhellach.
Yn 2013 symudodd Steve i rôl Cyfarwyddwr Rheoli Risg MPCT, gan ganolbwyntio ar Iechyd a Diogelwch, Diogelu a Lles. Mae Steve yn ddiolchgar ei fod yn rhan o dîm sy’n cael effaith gadarnhaol, sy’n cefnogi bywydau pobl ifanc ac yn grymuso i gyrraedd eu nodau personol.
Mae Steve yn un o ymddiriedolwyr Yr Ymddiriedolaeth Ddysgu a Chymhelliant (MLT), sy’n galluogi grwpiau i gymryd rhan mewn ymweliadau addysgol na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall yn ogystal â chefnogi unigolion a allai fod angen cymorth lles.
Mae’n parhau i dyfu gyda’r cwmni ac yn diweddaru ei brofiad a’i gyrsiau i sicrhau bod ei ddatblygiad personol parhaus yn cefnogi’r rolau y mae’n eu cyflawni a’i fod yn parhau i fod yn gyfredol. Mae Steve yn parhau i fod yn aelod o’r SLT (Uwch Dîm Arweinyddiaeth) sy’n helpu’r Prif Swyddog Gweithredol a’r SLT i yrru’r cwmni yn ei flaen a sicrhau ein bod yn parhau i weithio tuag at ragoriaeth ym mhopeth a wnawn.
Mae Steve yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o focsio a chrefft ymladd, ac mae wedi meithrin cariad newydd at gerdded gyda’i gi a’i deulu. Mae’n briod ac mae ganddo un ferch a dau ŵyr.
Ymunodd Mike Ronan â’r Fyddin Brydeinig fel milwr yn 1986 ac ym mis Ebrill 2015 ymddeolodd fel swyddog a gomisiynwyd. Arbenigodd fel hyfforddwr a chynghorydd ar Arfau Milwyr Traed gyda’r Small Arms School Corps (SASC) ym 1994 ar ôl trosglwyddo o’r Royal Irish Rangers.
Cafodd ei ddewis o’r rhengoedd i fod yn swyddog a gomisiynwyd, a chyflawnodd gyfres o rolau arweiniol fwyfwy heriol, gan gynnwys Pennaeth Staff ar weithrediadau yn Afghanistan, Swyddog Staff Gradd 2 o fewn Tîm Cynghori a Hyfforddi Milwrol Prydeinig yn y Weriniaeth Tsiec, Addasydd Corfflu ar gyfer y SASC, Prif Swyddog yn yr Infantry Battle School, Swyddog Hyfforddi mewn coleg hyfforddi recriwtiaid, a Swyddog Cyfnewid gyda’r Australian Defence Corps. Danfonwyd ef dramor i’r Almaen, Canada, Gogledd Iwerddon, Lebanon, Cyprus, Awstralia, Afghanistan, Gweriniaeth Tsiec, Serbia, Kosovo, Uzbekistan, Kazakhstan a Kyrgyzstan.
Ar ôl ymddeol o’r Fyddin yn 2015, cymerodd Mike waith fel Uwch Ymgynghorydd, gan ddarparu gwasanaethau ymgynghori hyfforddi a rheoli ar gyfer y Sector Diogelwch Critigol.
Ymunodd ag MPCT fel y Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol (De) ym mis Hydref 2016. Ym mis Gorffennaf 2019, aeth ymlaen i rôl Pennaeth Gweithrediadau. Mae ei yrfa filwrol a’i brofiad corfforaethol pellach wedi ei gynorthwyo i arwain a datblygu staff MPCT a sicrhau ansawdd eu hallbwn. Mae Mike yn briod â Nicola ac mae ganddo ddau fab, Louis a Daniel.
UWCH DÎM RHEOLI
Rheolwyr Gweithredu Rhanbarthol
Fy Enw i yw Matthew Thacker. Am naw mlynedd roeddwn yn aelod o Fataliwn 1af Y Cymry Brenhinol (RWF) gan ddod yn Gorporal. Bûm yn gwasanaethu mewn llawer o wledydd ar dymhorau dyletswydd, Afghanistan, y Falklands, Cyprus, Kenya ac India. Fy Rôl yn y Fyddin oedd Comander Adran, gan arwain fy milwyr i’r frwydr. Fe wnes i hefyd gwblhau sawl cwrs anodd yn SCBC y Fyddin, fel y cwrs Reece Commanders a’r Cambrian Patrol. Roeddwn hefyd yn Gydlynydd Milwrol yn MPCT Wrecsam cyn i mi adael y Fyddin yn 2014.
Rwy’n frwd dros chwaraeon, ac rwy’n caru pêl-droed. Fy hoff dîm pêl-droed yw Manchester United. Rwy’n caru fy nheulu, fy ngwraig Vicky a fy mhlant Honey and Teddy.
Ymunais â’r Lluoedd Arfog ym 1993 a chyflawni sawl tymor dyletswydd gweithredol. Yn ystod fy ngyrfa filwrol, bues hefyd yn hyfforddi ffitrwydd corfforol recriwtiaid drwy gamau hyfforddiant 1 a 2 yn ITC Catterick.
Yn 2003 des yn un o swyddogion Heddlu Dyfed Powys, lle bûm yn gweithio mewn nifer o adrannau arbenigol megis Plismona Ffyrdd ac Ymateb Arfog ledled De Cymru.
Yna symudais i’r diwydiant Diogelwch Preifat, a gweithiais bedair blynedd fel swyddog amddiffyn agos ar nifer o gontractau preifat a chontractau llywodraeth o fewn amgylcheddau gelyniaethus.
Yn 2015 ymunais ag MPCT fel hyfforddwr yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn 2016 roeddwn yn hynod ffodus o gael y cyfle i ddod yn Rheolwr Canolfan MPCT Abertawe. Rhoddodd y swydd hon gyfle i mi ddatblygu fy sgiliau arwain ac i sicrhau bod gan bob dysgwr lwybr clir i’w ddilyn yn y coleg. Rwy’n chwilio’n ddiflino am bartneriaethau allanol â sefydliadau sydd â’r un weledigaeth ac
ethos ag MPCT, rhai yr wyf mor falch o’u cynrychioli, ac rwy’n sicrhau bod y cysylltiadau a sefydlaf yn cael eu cynnal a bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ragori. Yn 2018 ces ddyrchafiad i’r rôl Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol Cymru, ac mae’r swydd hon yn fy ngalluogi i chwilio am bartneriaethau ac asiantaethau newydd, rhai sy’n ymwybodol o’r coleg a’i Ddysgwyr a rhai sydd ddim.
Cyn ymuno ag MPCT, bûm yn gwasanaethu â’r Fyddin Brydeinig am 13 Mlynedd fel aelod o The Royal Green Jackets, roeddwn yn Hyfforddwr Ymarfer Corff a bûm yn gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, Fiji, Cyprus, Kenya a ledled y DU. Pan adewais y fyddin, cwblheais amrywiaeth o Gyrsiau Hyfforddiant Corfforol gan gynnwys Hyfforddwr Personol, Maethegydd a
Chyrsiau Rheoli. Dechreuais weithio i’r Coleg ym mis Gorffennaf 2006 fel Hyfforddwr Ffitrwydd a Hyfforddwr Ymarfer ac rwyf wedi gweithio fy ffordd drwy’r Llwybrau Dilyniant fel rhan o MPCT. Fy rôl bresennol yn MPCT yw Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol, gyda chyfrifoldeb am Ranbarth y Canolbarth, ac rwy’n cefnogi pob Canolfan o fewn
fy Nghylch Gwaith yn Weithredol ac ar Sail Ansawdd er mwyn Cyflawni Rhagoriaeth.
Ronnie yw Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol MPCT ar gyfer y Gogledd. Mae Ronnie wedi bod yn gwasanaethu gydag MPCT ers mis Ebrill 2018 ac ar hyn o bryd mae’n byw yng Ngarsiwn Catterick yng Ngogledd Swydd Efrog. Ronnie sydd yn gyfrifol am Arwain a Rheoli Ansawdd Addysg ar draws y pedwar Coleg yn y Gogledd Ddwyrain, sydd wedi’u lleoli yn Newcastle, Bishop
Auckland, South Shields a Teesside.
Mae Ronnie yn arwain ac yn rheoli ei ranbarth drwy sicrhau bod staff ar draws ei ranbarth yn cael cyfleoedd hyfforddiant ac addysg rhagorol ac yn derbyn cefnogaeth i dyfu a datblygu i fod yn Hyfforddwyr Eithriadol. Mae hyn yn sicrhau bod pob dysgwr ar draws y rhanbarth yn cael y profiad addysgol gorau posibl wrth fynychu MPCT, gan feithrin pobl ifanc eithriadol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas ac yn dod yn ddinasyddion gwell yn y Deyrnas Unedig.
Cyn ymuno ag MPCT, bu Ronnie yn gweithio fel arweinydd tîm ar Gontract Achredu Hyfforddiant Hyfforddwyr y Fyddin gyda’r Bartneriaeth Colegau a oedd yn rheoli’r tîm o gydlynwyr datblygu addysgu yng Ngogledd Lloegr ac Aberhonddu a oedd yn gyfrifol am ddarparu ystod o gymwysterau i Hyfforddwyr Milwrol, gan gynnwys cymwysterau addysgu L3 hyd Lefel 5, Cymwysterau Hyfforddi a Mentora Lefel 3 i Lefel 5, ac Asesu a Sicrhau Ansawdd Lefel 3 a 4.
Cyn hynny, bu Ronnie yn gweithio am bum mlynedd fel Cydlynydd Prentisiaethau gyda’r Bartneriaeth Colegau yn y Ganolfan Hyfforddi Milwyr Traed yn Catterick, yn cyflwyno rhaglen Brentisiaeth i recriwtiaid Milwyr Traed a oedd yn cynnwys Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Mewn Lifrai, ERR, PLTS a Sgiliau Gweithredol Mathemateg a Saesneg.
Cyn gweithio yn y Ganolfan Hyfforddi Milwyr Traed, bu’n gweithio fel Gweithiwr Cymorth Arbenigol ar gyfer Hyfforddiant Addysg a Chyflogaeth yng nghanolfan y Beacon yng ngarsiwn Catterick, sef canolfan ar gyfer cyn-filwyr digartref.
Mae gan Ronnie 24 mlynedd o brofiad fel milwr troed, o swydd Guardsman hyd at Warrant Officer Class 1. Mae ganddo record filwrol ragorol ac enillodd y fedal gwasanaeth teilwng (MSM) yn 2011.
Mae Ronnie wedi gweithio fel hyfforddwr milwrol mewn nifer o sefydliadau hyfforddi ers 1994, gan gynnwys ITC Catterick, ATR Glencorse, ATR Bassingbourn a’r Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst fel Colour Sergeant Instructor. Treuliodd 6 mlynedd olaf ei yrfa filwrol yn y Ganolfan Hyfforddi Milwyr Traed, fel Uwch-ringyll y Guards Training Company rhwng 2006-2008, fel Master Coach yr 2il Infantry Training Battalion rhwng 2008-2009, ac fel Uwch-ringyll Gatrodol yr All Arms Drill Wing rhwng 2009-2011.
Yn ystod ei wasanaeth cwblhaodd Ronnie 4 dymor dyletswydd gweithredol yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys taith 2 flynedd fel Platoon Sergeant y Close Observation Platoon. Bu hefyd yn gwasanaethu yn Ymgyrch Granby ym 1991 ac fel Uwch-ringyll y Cwmni yn Ymgyrch Telic o 2004-2005.
Mae Ronnie yn angerddol iawn am ffitrwydd corfforol ac yn ddiweddar mae wedi cynrychioli Prydain Fawr yn ei grŵp oedran mewn cystadlaethau Duathlon. Yn 2017 enillodd Fedal Efydd yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol ym Mharc Oulton yn y Sprint Duathlon. Yn 2015 bu’n cynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Sbaen.
Fwyaf diweddar, cystadlodd Ronnie yn Ironman Cymru ym mis Medi 2019. Ei her gorfforol nesaf yw cynrychioli MPCT yn y ras droed anoddaf yn y byd, sef y Marathon Des Sables.
Mae gan Ronnie ferch 18 oed o’r enw Afton a mab 21 oed o’r enw Euan, yn ogystal ag wyres 3 oed o’r enw Annie. Mae Ronnie wedi bod mewn perthynas â’i bartner Lucy ers dros 5 mlynedd bellach ac mae hithau hefyd yn rhannu ei angerdd dros chwaraeon.
Penaethiaid Adrannau
-
Matt Williams
Pennaeth Marchnata
-
Reuben Tucker
Pennaeth Chwaraeon a Ffitrwydd
-
Gary West
Pennaeth Ansawdd a Pholisi
-
Jenny Brophy
Pennaeth Sgiliau
-
Lisa Gill
Pennaeth Sgiliau
-
Jo Cook
Pennaeth Cymorth i Ddysgwyr (Cydymffurfio)
-
Ceri Fuller
Pennaeth Cymorth i Ddysgwyr (Recriwtio)
-
Angus Ritchie
Pennaeth TG
-
Nathan Gibbons
Pennaeth Dysgu a Datblygiad
-
Michael Gawler
Pennaeth Cyllid
-
Richard Erskine
Pennaeth Diogelu a Chydymffurfiaeth Weithredol
Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa hyd yma, ers i mi gymhwyso fel Dylunydd Graffig yn 2003, yn gweithio i gwmni manwerthu ar-lein. Treuliais fy mlynyddoedd olaf yn datblygu a thyfu brand esgidiau a dillad dynion Samuel Windsor, a hynny gyda chryn lwyddiant er gwaethaf fy anwybodaeth o anghenion sartorial gwŷr canol oed.
Y tu allan i’r gwaith mae fy niddordebau yn cynnwys ceir, ffotograffiaeth a cherddoriaeth, rwy’n chwaraewr gitâr hunan-addysgedig ond (yn fy marn i yn) un eithaf hyfedr. Mae gennyf hefyd ddiddordeb mewn hanes a llenyddiaeth Ewropeaidd yn yr 20fed ganrif, ac mae fy niddordeb cynyddol mewn gwleidyddiaeth a materion cymdeithasol wedi arwain at astudio tuag at radd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth gyda’r Brifysgol Agored. Rwy’n cadw fy hun yn heini, gan ffafrio rhedeg a beicio. Rwyf yr un fath ar wyliau hefyd, yr un mor gyfforddus yn cerdded rhewlifau, yn cropian hyd hen losgfynyddoedd, yn mynd ar drywydd y goleuadau’r gogledd ag yr wyf yn gorwedd ar draeth heulog yn y med gyda photel o San Miguel.
Ces fy ngeni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1992, es i Ysgol Gyfun y Bont-faen i gael fy TGAU a Safon Uwch cyn dechrau gradd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012, rwy’n gweithio yno ar brosiect MSc drwy ymchwil ar hyn o bryd.
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn chwarae a hyfforddi rygbi, ac rwyf wedi cynrychioli nifer o dimau gwahanol. Ar hyn o bryd ac rwy’n chwarae i Glwb Rygbi Casnewydd.
Rwyf hefyd wedi treulio peth amser yn gweithio fel hyfforddwr yn Force Strength and Conditioning ac fel arddangoswr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gen i angerdd dros bob maes gwyddor chwaraeon ac rwy’n ymdrechu i ddilyn y diweddaraf o ran tueddiadau a’r llenyddiaeth gyfredol.
Ymunais â MPCT yn ddiweddar i weithio fel hyfforddwr ymarfer corff yn Academi Chwaraeon newydd Caerdydd, ac rwyf yn gweithio gyda grŵp o ddysgwyr sy’n tyfu trwy’r adeg. Mae fy angerdd dros chwaraeon ynghyd â’m dealltwriaeth am hyfforddiant, chwaraeon a ffitrwydd yn helpu i ddatblygu’r unigolion ifanc hyn i fod yn asedau i unrhyw ddarpar gyflogwyr yn y dyfodol. Yn fy amser sbâr rwy’n mwynhau mynd am dro gyda fy spaniel
Reggie.
Ymunodd Gary â’r Fyddin Brydeinig fel Gweithredwr Systemau Cyfathrebu yn y Royal Corps of Signals. Yn ystod ei 24 mlynedd o wasanaeth, cafodd ei bostio i Orllewin yr Almaen, i Loegr ac i Ogledd Iwerddon. Mae Gary wedi cwblhau tymhorau gweithredol yn Kuwait, Irac, Gogledd Iwerddon ac Afghanistan. Mae hefyd wedi bod ar ymarferion yn Singapore, De Affrica, Ascension Island, Cyprus a Bangkok. Ar ôl gwasanaethu cyfran helaeth o’i yrfa mewn swyddi hyfforddi mae gan Gary lawer o gymwysterau hyfforddiant milwrol.
Gadawodd y Fyddin Brydeinig yn haf 2012 ac ymunodd ag MPCT fel Rheolwr Ansawdd Cymru. Yn y cyfnod hwn cwblhaodd Gary gymhwyster Arwain Sicrwydd Ansawdd Mewnol, cymhwyster Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a graddiodd o Brifysgol De Cymru gyda BA(Anrh) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol.
Mae Gary yn frwd dros ddatblygu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o addysg a hyfforddiant, a chwblhaodd raglen Cymrodoriaeth Ymchwil yr Education and Training Foundation yn 2017. Yn ystod rhaglen lefel 7 hon bu Gary yn ymchwilio ac yn adrodd ar ddiben a phwysigrwydd rhaglenni sefydlu mewn addysg ôl-16.
Yn 2017, penodwyd Gary i’w rôl bresennol. Mae wedi rheoli’r newidiadau yn y cwricwla Cyflogadwyedd a Sgiliau Gwaith, gan sicrhau bod cyfraddau cyflawniad sefydliadau yn gyson ragorol.
Yn 2018, ochr yn ochr â’i rôl bresennol, enwebwyd Gary yn Arweinydd Gyrfaoedd, a chwblhaodd y cymhwyster Lefel 6 mewn arweinyddiaeth gyrfaoedd. Bob blwyddyn, Gary sy’n gyfrifol am gaffael a chynnal y Matrix Standard ar gyfer Cyngor ac Arweiniad.
Mae Gary wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu a lansio adnoddau digidol drwy gydol pandemig COVID-19. Gan ganolbwyntio i ddechrau ar yr adnoddau cynefino, cynhyrchodd Gary becynnau dysgu ar-lein a oedd yn caniatáu i ddysgwyr gwblhau eu cyfnod cynefino ac aros yn ddiogel wrth ymuno â’r rhaglen MPCT. Parhaodd Gary i gynhyrchu adnoddau dysgu a oedd yn galluogi staff a dysgwyr i barhau i astudio
i enill cymwysterau galwedigaethol.
Mae Gary yn briod â Claire, ein prif wiriwr mewnol ar gyfer sgiliau, ac mae ganddynt ddau o blant. Mae ei fab, Sam, yn un o gyn-fyfyrwyr MPC Casnewydd ac wedi dilyn ôl troed ei dad a’i dad-cu i’r Fyddin. Mae’n Beiriannydd Systemau Cyfathrebu yn y Royal Corps of Signals Mae ei ferch, Rebecca, yn paratoi i astudio Hanes a Saesneg yn y brifysgol yn yr hydref.
Fi yw’r Rheolwr Ansawdd Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth Sgiliau 3. Rwyf wedi gweithio o fewn tîm sgiliau MPCT ers bron i 6 blynedd, yn wreiddiol fel IQA cyfnod mamolaeth cyn i mi dderbyn swydd barhaol. Es trwy sawl swydd cyn cyrraedd fy rôl i heddiw. Rwy’n cefnogi ac yn datblygu’r ddarpariaeth Saesneg a Mathemateg o fewn y rhanbarth, a hynny trwy gefnogi a rheoli perfformiad gyda’r nod o
sicrhau’r cyflawniad mwyaf posibl, yn ogystal â gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff dyfarnu i ymdrin â materion sy’n ymwneud â Dysgwyr a datblygiadau yn y cwricwlwm.
Rwyf wedi gweithio rolau amrywiol o fewn y diwydiant hyfforddi dros yr 16 mlynedd diwethaf, gan gynnwys rolau Asesydd, Dilysydd, Hyfforddwr Staff, Adnoddau Dynol, Rheolwr Datblygu Gyrfa, Brocer Swyddi a Rheolwr Rhaglen, a hynny gydag amrywiaeth o gwmnïau oherwydd ailstrwythuro a diswyddo. Cyn hynny, roeddwn yn Rheolwr Bwyty gyda chwmni cadwyn poblogaidd, yn rheoli tîm o 40+ o bobl ac yn rheoli cyllidebau, amserlenni hyfforddi, Adnoddau Dynol a mwy.
Rwy’n berson positif a brwdfrydig sydd ag ysfa i lwyddo, ac rwy’n hoffi helpu a chefnogi eraill i gyflawni eu potensial hefyd, ac iddynt gynnal safonau uchel a ffocws trwy’r adeg. Rwy’n ddadansoddol ac yn mwynhau datrys pam fod pethau’n digwydd a’u cywiro. Mae MPCT yn cefnogi ac yn datblygu’r holl Staff a Dysgwyr i fod cystal ag y gallent fod, ac rwy’n teimlo’n lwcus iawn i weithio i sefydliad o’r fath.
Cafodd Lisa ei geni a’i magu yng nghwm Rhondda ac aeth i Ysgol Gyfun Sir y Porth, lle cafodd ei brwdfrydedd dros ffitrwydd a bywyd egnïol ei atgyfnerthu gan athro Addysg Gorfforol ysbrydoledig. Treuliodd ei hieuenctid yn yr awyr agored ac yn mwynhau bod yn egnïol. Mynychodd Lisa lawer o glybiau, o ddawnsio i athletau, a daeth yn angerddol dros bêl-rwyd yn 7 oed, gan fynd ymlaen i gynrychioli ei gwlad ar lefel ryngwladol.
Ymunodd Lisa ag MPCT yn 2012 fel rheolwr sgiliau ac fe’i penodwyd yn bennaeth sgiliau hyd at 2019. Lisa fu’n arwain y ddarpariaeth Saesneg a mathemateg ar draws
Cymru a Lloegr, ac mae bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu ansawdd y ddarpariaeth ymhellach
yng Nghymru. Mae Lisa wedi gweithio yn y sector hyfforddiant ac addysg ers blynyddoedd lawer ac mae wedi
yn gwneud y swyddi canlynol: darlithydd addysg bellach ac uwch yn y blynyddoedd cynnar, asesydd rheoli, asesydd STLS, rheolwr hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer y STLS, CCLD, Rheoli, Arwain Tîm, Gweinyddu Busnes, Warysau, a llwybrau Gwasanaethau Cwsmeriaid. Mae Lisa hefyd wedi rheoli’r prosiect Adduned Cyflogwr (menter gan Lywodraeth Cymru) sy’n darparu datrysiadau llythrennedd a rhifedd i fusnesau yn ardal De Cymru a’r cyffiniau.
Cyn mynd i fyd hyfforddiant ac addysg bellach, bu Lisa’n rheoli darpariaethau ar gyfer blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys gwasanaeth unigryw sy’n darparu gofal a chymorth i blant ag AAAA a chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ynghyd â’u teuluoedd.
Mae hobïau a diddordebau Lisa yn cynnwys pêl-rwyd (chwarae, hyfforddi a dyfarnu), mynd i’r gampfa, bod yn yr awyr agored a darllen.
Ces fy ngeni yn y Cymoedd ac rwyf wedi byw yn Nhredegar drwy gydol fy mywyd. Es i Ysgol Gyfun Tredegar, cyn mynd ar gwrs ysgrifenyddol yng Ngholeg Gwent Glynebwy. Dyna arweiniodd at fy rôl weinyddol gyntaf yng Nghanolfan Hyfforddi Victoria. Yn 2001 cymerodd APCymru yr awenau yng Nghanolfan Hyfforddi Victoria, a dyna pryd y gwnes i gyfarfod Huw Lewis gyntaf a dod yn rhan o’r maes Hyfforddiant Milwrol.
Ymunais ag MPCT am yr eildro ym mis Tachwedd 2017, ar ôl seibiant o 10 mlynedd. Rwyf wedi gweithio yn y sector hyfforddi ers 20 mlynedd, felly mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad ym maes dysgu seiliedig ar waith, gan gynnwys rheoli pobl, rheoli data, cysylltu â Llywodraeth Cymru a rheoli archwiliadau Llywodraeth Cymru.
Yn ystod y cyfnod hwn, bues yn cyflawni rolau amrywiol ym maes gweinyddiaeth, gan ddechrau fel cynorthwyydd gweinyddol, cyn symud ymlaen i lefel reoli. Fy swydd bresennol yw Pennaeth Cydymffurfio â Chontractau. O fewn y rôl hon, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod cydymffurfiaeth gytundebol yn cael ei gynnal ar draws yr holl systemau a gweithdrefnau gweinyddol.
Rwy’n briod ac mae hen i 2 blentyn ifanc, a nhw sy’n cymryd y rhan fwyaf o’m hamser. Pan nad wyf yn y gwaith, rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu, yn mynd ar wyliau a chymdeithasu gyda ffrindiau.
Ces fy ngeni yng Nghaerdydd, ac rwyf wedi treulio fy mywyd yn byw ac yn gweithio yn ardal De Cymru, gan gynnwys Cymoedd Gwent, Caerdydd a Bro Morgannwg. Yn ogystal â threulio cymaint o amser â phosibl gyda fy nau blentyn ifanc, rwyf hefyd yn mwynhau mynd i’r gampfa, mynd allan am fwyd, a theithio pryd bynnag y gallaf.
Cyn ymuno ag MPCT fel Pennaeth Cymorth i Ddysgwyr ym mis Awst 2021, bûm yn gweithio o fewn y Gwasanaethau Ariannol a busnesau E-fasnach yn sefydlu timau Cymorth i Gwsmeriaid a thimau Gwerthiannau, gan reoli profiad cyffredinol y cwsmer a strategaethau cyswllt. Mae’r busnesau hyn wedi tyfu o fod yn fusnesau newydd gyda llai na 10 aelod o staff i fod yn rhai gyda thimau Cymorth i Gwsmeriaid o dros 100.
Yn MPCT rwy’n gyfrifol am adran recriwtio’r Tîm Cymorth i Ddysgwyr ac yn sicrhau bod profiad ein dysgwyr o’r broses recriwtio o’r ansawdd uchaf, a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu a’u cefnogi ar ddechrau eu taith gyda’r coleg ac yn eu bywydau milwrol/proffesiynol wrth symud ymlaen.
Fy enw i yw Angus Ritchie ac rwy’n dod o’r Alban. Symudais i’r de 35 mlynedd yn ôl ac rwyf wedi gweithio ym maes TG trwy gydol fy oes. Rwyf wedi bod yn Rheolwr TG ers blynyddoedd lawer, ac wedi gweithio mewn sawl sector busnes gwahanol a diddorol iawn. Mae’r rhain yn cynnwys Awyrofod ac Amddiffyn, Cyflenwadau Adeiladu, Gweithgynhyrchu a Rheoli Digwyddiadau. Bûm yn rhedeg fy musnes fy hun am 10 mlynedd, roedd hynny hefyd yn ddiddorol iawn, yn heriol ac yn werth chweil.
Ar ochr bersonol, mae gen i 3 mab sydd oll mewn addysg llawn amser, ac rwy’n byw ychydig y tu allan i Gaerloyw. Rwy’n mwynhau garddio, DIY, darllen a gwylio chwaraeon o bob math – yn enwedig rygbi. Rwyf yn gefnogwr brwd o’r Alban. Rwy’n dal i chwarae sgitls yng nghynghreiriau Cheltenham. Roedd gen i fusnes garddio fy hun o’r blaen, roedd yn gymorth ariannol drwy fy mlynyddoedd olaf yn yr ysgol a’r coleg.
Un o’m llwyddiannau personol mwyaf yw gorffen marathon llawn Glasgow.
Ganwyd Nathan yng Nghasnewydd, De Cymru yn 1979. Ymunodd â’r Fyddin yn 17 oed gyda Chatrawd Brenhinol Cymru. Yn ystod ei gyfnod gyda’r gatrawd, teithiodd i leoedd fel yr Almaen, Gwlad Pwyl, Canada a Belize a bu’n gwasanaethu mewn theatrau gweithredol fel Gogledd Iwerddon, Bosnia a Kosovo.
Gadawodd y lluoedd arfog ar ôl 8 mlynedd fel Corporal i ddilyn gyrfa mewn Diogelu Agos. Ar ôl 3 blynedd o wneud hyn ac amryw o rolau eraill yn y diwydiant diogelwch, penderfynodd ddychwelyd i’r diwydiant ffitrwydd, ac ymunodd â Choleg Paratoi Milwrol Caerdydd yn 2007 fel hyfforddwr ymarfer corff. Ers ymuno â’r cwmni, mae Nathan wedi bod yn y brifysgol ac wedi ennill TAR. Cymhwysodd fel Hyfforddwr Personol Lefel 3 ac mae wedi ennill Diploma Lefel 5 mewn Dysgu a Datblygu gyda CIPD.
Mae wedi gweithio nifer o swyddi yn MPCT, a bellach mae’n cael ei gyflogi fel Pennaeth Dysgu a Datblygiad. Mae’n mwynhau’r rôl hon gan ei fod yn caniatáu iddo barhau i ysbrydoli pobl ifanc drwy staff.
Mae Nathan yn briod â Lucy ac mae ganddynt dri o blant – Ben, Amber a Reuben.
Ar ôl blynyddoedd o weithio fel rheolwr ym maes manwerthu penderfynais fy mod angen swydd a oedd yn un fwy 9-5. Gan fy mod eisoes wedi bod yn rhan o wneud cyfrifon ar gyfer busnes y teulu, ac yn ei fwynhau’n fawr, penderfynais newid gyrfa a dod yn gyfrifydd. Astudiais AAT pan oeddwn yn fy rôl gyntaf, ac yno des yn Gyfrifydd Ardal cyn symud ymlaen i dderbyn rôl y Cyfrifydd Rheoli yn fy ngweithle blaenorol. Hyd yma, rwyf wedi bod yn gweithio ym maes cyllid am 10 mlynedd.
Y tu allan i’r gwaith rwy’n mwynhau gwylio chwaraeon a rasio ceir, mynd â fy nau gi am dro, a threulio cymaint o amser â phosibl gyda fy nheulu.
Rwy’n unigolyn proffesiynol, ymroddedig a chymwys sydd â dros 33 mlynedd o brofiad plismona a diogelu, a hynny dros amrywiaeth eang o ddisgyblaethau gwhanaol. Ces addysg Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd, ac enillais fy nghradd a’m cymwysterau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
.
Treuliais dros hanner fy ngyrfa â’r heddlu fel Uwch Reolwr ac Uwch Swyddog Ymchwilio, ac mae gennyf gyfoeth o brofiad y maes ymchwilio a rheoli troseddau difrifol a chymhleth ar draws sbectrwm eang. Fel arweinydd arbenigol ym maes cam-drin plant ac oedolion, ces brofiad sylweddol o reoli’r gymysgedd o heriau emosiynol a thechnegol y mae’r troseddau hynny yn eu cynnig. Fel pennaeth troseddau rhanbarthol, bues yn cynnal ymchwiliadau i droseddau difrifol eraill gan gynnwys twyll, lladradau a throseddau cyhuddo eraill. Fel rhan o’m datblygiad proffesiynol parhaus, rwyf wedi cwblhau’r holl gyrsiau ymchwilio proffesiynol ar gyfer Uwch Swyddogion, gan gynnwys cwrs y Swyddogion Adolygu Cenedlaethol sy’n caniatáu i mi wneud adolygiadau cymheiriaid ar ymchwiliadau difrifol eraill.
Yn ogystal â’m profiad o ymchwilio, treuliais flynyddoedd fel Pennaeth Hyfforddiant Cychwynnol yr Heddlu hefyd, ac es ar secondiadau i’r Swyddfa Gartref a Hyfforddiant Cenedlaethol yr Heddlu lle datblygais becynnau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer y rôl PCSO newydd ac ar gyfer yr Heddlu Arbennig. Gyda fy mhrofiad helaeth o hyfforddiant a datblygiad hefyd rwyf wedi datblygu ffyrdd creadigol newydd ac arloesol o reoli ac i ddatblygu swyddogaethau diogelu effeithiol o fewn y cymunedau rwyf wedi’u gwasanaethu.
Mae gennyf brofiad sylweddol o weithio mewn partneriaeth yn y maes difrifol a chymhleth o ymchwilio i gam-drin a diogelu plant, ac rwyf wedi rheoli, datblygu a gweithredu Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol gyntaf Cymru (MASH) sydd hefyd wedi ymgorffori’r newid i’r gofynion cyfreithiol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Ar ôl ymddeol o Wasanaeth yr Heddlu, rwyf bellach wedi parhau â’m datblygiad personol ac wedi symud i faes diogelu addysgol lle rwy’n darparu arweiniad strategol a diogelu ar gyfer MPCT. Rwyf hefyd wedi cymhwyso fel Ymarferydd GDPR ac rwyf wedi cofrestru gyda’r ICO fel Dirprwy Lywydd y Cwmni.

Best Companies
Mae achrediad Best Companies yn dangos bod ymgysylltu yn y gweithle yn cael ei drin fel mater o bwys, gan gynhyrchu amgylcheddau ‘da iawn’, ‘rhagorol’ ac ‘o’r radd flaenaf’.
Yn 2021 cyrrhaeddodd MPCT ei safle uchaf erioed, sef 791 allan o 900, gan eu gosod yn yr haen uchaf, tair seren. Nid yn unig fod yr achrediad yn uwch na’r ddwy seren a gafwyd yn 2020, sef 720 ar y rhestr, mae’n arbennig o arwyddocaol hefyd gan i’r arolwg gael ei gynnal tra bod cyfyngiadau’r cyfnod clo ar waith. Dangosodd yr arolwg fod 99 y cant o’r staff yn cytuno bod MPCT yn awyddus i helpu pobl o gefndiroedd difreintiedig, a dywedodd 93 y cant eu bod “wrth eu bodd yn gweithio i’r sefydliad hwn”.

Investors In People Platinwm
Ym mis Mai 2019, dyfarnwyd yr achrediad PLATINWM uchaf posibl i ni gan Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP), achrediad a ddelir gan ddim ond 70, neu 1%, o’r 8,300 o gwmnïau yn y DU sydd ag achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Ym mis Mai 2019, dyfarnwyd yr achrediad PLATINWM uchaf posibl i ni gan Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP), achrediad a ddelir gan ddim ond 70, neu 1%, o’r 8,300 o gwmnïau yn y DU sydd ag achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Mae safonau Buddsoddwyr mewn Pobl yn achrediadau a gydnabyddir yn rhyngwladol, a’n rhai a ddelir gan dros 10,000 o sefydliadau ledled y byd. Gan ddefnyddio methodoleg a fframweithiau asesu trwyadl, mae’r Buddsoddwyr mewn Pobl yn gosod meincnod ar gyfer rheoli pobl yn well. Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn diffinio’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn arwain, cefnogi a rheoli pobl mewn ffordd sy’n cynhyrchu canlyniadau cynaliadwy.
Er mwyn ennill y dyfarniad Platinwm mae’n rhaid i gwmnïau gyrraedd safon ‘perfformiad uchel’ mewn o leiaf saith o’r naw dangosydd asesu. Drwy wneud hynny, mae cwmnïau’n dangos bod eu diwylliant a’u prosesau wedi’u seilio ar anghenion y sefydliad, a bod y ddwy agwedd yn cael eu deall, eu parchu, eu mabwysiadu a’u mewnoli gan bob aelod o’u busnes, o aelodau’r bwrdd i’r staff iau.
Rydym wedi cael cydnabyddiaeth barhaus am ein gwaith o reoli pobl, gan dderbyn safon Aur gan Buddsoddwyr mewn Pobl yn 2008, 2012 a 2015. Mae bod ymysg yr ychydig gwmnïau yn y DU sydd â dyfarniad Platinwm yn gadarnhad pellach bod ein diwylliant ac ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir i’n pobl ifanc yn arbennig.
Mae MPCT hefyd yn drydydd yn y sector addysg byd-eang.
Agweddau unigryw a geir yn MPCT:
- Diwylliant heb ei ail, y cryfaf a’r mwyaf ymgysylltiol a welwyd erioed gan y tîm hwn o arbenigwyr Buddsoddwyr mewn Pobl cenedlaethol.
- Fframwaith cymorth sy’n newid ‘bywydau’ Dysgwyr a staff fel ei gilydd.
- Arddull arweinyddiaeth ysbrydoledig ‘Lefel 5’ sy’n ennyn diddordeb pawb, ac sy’n annog lefelau uchel o ‘arweinyddiaeth wasgaredig’.
- Diwylliant Tîm sy’n cwmpasu pawb beth bynnag fo’u rôl/gradd/rhyw.
- Dull o gynllunio strategaeth sy’n gwbl gydweithredol.