{"id":5268,"date":"2022-03-31T10:57:15","date_gmt":"2022-03-31T09:57:15","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/dickie-davis-cb-cbe\/"},"modified":"2022-04-07T11:50:52","modified_gmt":"2022-04-07T10:50:52","slug":"dickie-davis-cb-cbe","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/dickie-davis-cb-cbe\/","title":{"rendered":"Dickie Davis CB CBE"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Uwch-frigadydd (ymddeoledig) Dickie Davis CB CBE yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni Nant Enterprises Cyf, yn un o Gyfarwyddwyr Terrain Clothing Cyf, ac yn Gadeirydd Anweithredol i Water to Go Cyf. Ers gadael y Fyddin Brydeinig yn 2015 ar \u00f4l 32 mlynedd o wasanaeth bu hefyd yn gynghorydd arbennig i Sefydliad Brenthurst, yn Affrica Is-Sahara yn bennaf. Yn ystod ei yrfa filwrol, gwasanaethodd yn helaeth ar weithrediadau yn y Balcanau (1995-2002) ac Afghanistan (2003-2010). Yn y DU, bu&#8217;n Gyfarwyddwr Cynlluniau ar gyfer y Lluoedd Tir (2007-2009), yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Recriwtio a Hyfforddi&#8217;r Fyddin (2011-2013) ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Person\u00e9l (2013-14). Mae&#8217;n Is-lywydd Sefydliad y Peirianwyr Brenhinol, yn Gadeirydd Amgueddfa&#8217;r Peirianwyr Brenhinol, a bu&#8217;n Golonel Anrhydeddus ar Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy (milisia) (2014-2019). Mae ganddo radd gyntaf mewn peirianneg sifil, gradd Meistr mewn Technoleg Amddiffyn, ac mae&#8217;n Gymrawd o\u2019r Sefydliad Rheolaeth Siartredig a Sefydliad y Peirianwyr Brenhinol. Ef yw un o gyd-awduron Making Africa Work (Tafelberg 2017), ynghyd \u00e2 Greg Mills, Jeff Herbst ac Olusegun Obasanjo, yn ogystal \u00e2 A Great Perhaps? Colombia: Conflict and Convergence (Hurst, 2015) gyda David Kilcullen, Greg Mills a David Spencer. Mae&#8217;r ddwy gyfrol yn seiliedig ar waith maes helaeth yn Affrica Is-Sahara ac America Ladin.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":654,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5268"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5268\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5536,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5268\/revisions\/5536"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/654"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5268"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}