{"id":5270,"date":"2022-03-31T10:57:31","date_gmt":"2022-03-31T09:57:31","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/yr-arglwyddes-bathurst\/"},"modified":"2022-04-07T11:52:26","modified_gmt":"2022-04-07T10:52:26","slug":"yr-arglwyddes-bathurst","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/yr-arglwyddes-bathurst\/","title":{"rendered":"Yr Arglwyddes Bathurst"},"content":{"rendered":"<p>Ganwyd yr Arglwyddes Bathhurst ym Marlborough, Wiltshire yn 1965, i Christopher a Marguerite Chapman, a magwyd hi a\u2019i brawd h\u0177n Mark yn Lyme Regis, Dorset, ar \u00f4l i&#8217;w rhieni symud i fod yn agosach at &#8216;HQ&#8217; y teulu yn Nwyrain Dyfnaint pan oedd hi\u2019n fychan. Cafodd addysg breifat a magwraeth mewn cartref gwladgarol \u00e2 gwerthoedd hen ffasiwn, magwraeth a feithrinodd ysbryd elusengar a chydwybodol ynddi yn ogystal \u00e2 dos swmpus o annibyniaeth. Yr annibyniaeth yma a&#8217;i hanogodd i fentro ymhellach oddi cartref, ac ar \u00f4l gadael yr ysgol, yn hytrach na dilyn yr un cwys a\u2019i chyfoedion a derbyn swydd fwy traddodiadol yn Llundain, penderfynodd y byddai antur dramor yn cynnig mwy o her. Teithiodd i&#8217;r Unol Daleithiau, gan setlo yn Chicago yn 1986. Bu\u2019n byw yn yr Unol Daleithiau am bum mlynedd, yn crwydro cymaint o&#8217;r wlad ag y gallai, a chael modd i fyw yn cefnogi ei hun drwy weithio mewn rolau amrywiol, gan gynnwys cyfnod \u00e2 chyfreithiwr o fri yn Chicago. Mae gan yr Arglwyddes atgofion melys o\u2019i chyfnod yn America, a gwerthfawrogiad enfawr gan iddi enill &#8216;gwerth oes a mwy o brofiadau a gwybodaeth&#8217;. Ar \u00f4l dychwelyd i&#8217;r DU yn 1991 aeth i weithio fel partner ym musnes y teulu, cadwyn o siopau llyfrau annibynnol yn y De Orllewin, a dychwelodd i Lyme Regis am gyfnod i redeg y brif gangen. Cwrddodd \u00e2&#8217;i g\u0175r Allen, yr Arglwydd Apsley ar y pryd, yn 1993, a phriododd y ddau dair blynedd yn ddiweddarach a symud i&#8217;r Cotswolds \u2013 roedd hi wastad wedi dweud ei bod am briodi ffermwr! Ers hynny mae hi\u2019n treulio ei hamser yn cadw\u2019r t\u0177 ym Mharc Cirencester, yn cefnogi ei g\u0175r, ac yn ymwneud \u00e2 chymuned Swydd Gaerloyw mewn nifer o rolau, yn bennaf ag elusennau ledled y sir. Ers marwolaeth ei thad-yng-nghyfraith, yr 8fed Iarll Bathurst, mae\u2019r Arglwyddes wedi dod yn Llywydd a\u2019n Noddwr i lawer mwy o elusennau a chymdeithasau lleol. O blith ei diddordebau niferus, mae ei ch\u0175n, cefn gwlad a ffermio yn arbennig o annwyl iddi.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":663,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5270"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5270\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5540,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5270\/revisions\/5540"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/663"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5270"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}