{"id":5272,"date":"2022-03-31T10:57:49","date_gmt":"2022-03-31T09:57:49","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/tom-mcclean\/"},"modified":"2022-04-07T11:51:31","modified_gmt":"2022-04-07T10:51:31","slug":"tom-mcclean","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/tom-mcclean\/","title":{"rendered":"Tom McClean"},"content":{"rendered":"<p>Mae gyrfa Tom yn adlewyrchu ei allu eithriadol i lwyddo er gwaethaf pob disgwyl. Magwyd gwytnwch ynddo gan blentyndod anodd mewn cartref plant amddifad a 9 mlynedd o wasanaethu \u00e2&#8217;r Gatrawd Parasiwt, lle&#8217;r oedd yn rhan o ymgyrchoedd milwrol yn Aden, Malaya a Borneo, yn ogystal \u00e2 gwasanaeth gweithredol yn y Gatrawd S.A.S. Tua diwedd ei wasanaeth milwrol, ac yntau\u2019n 26 oed, penderfynodd rwyfo ar ei ben ei hun ar draws gogledd yr Iwerydd, o Ganada i Iwerddon. Ar ei fordaith epig, rhwyfodd trwy rew, gwelodd forfilod, a goroesodd sawl storm \u00e2 thonnau 50 troedfedd o uchder, cyn cyrraedd Iwerddon yn ddiogel, gwlad ei enedigaeth. Ei benderfynoldeb llwyr a berodd iddo i gynllunio a chyflawni hyn, a dyma\u2019r gyntaf o sawl antur iddo fentro arni. Cwblhaodd ei fordaith trwy lywio gyda secstant, ac ef oedd y person cyntaf mewn hanes i rwyfo ar draws Gogledd yr Iwerydd ar ei ben eu hun, o&#8217;r Gorllewin i&#8217;r Dwyrain, a hynny gan osod record byd newydd o 70 diwrnod. Ar \u00f4l y daith, gadawodd Tom y Gatrawd i sefydlu ei Ganolfan Awyr Agored ei hun, gan ganfod y lleoliad perffaith ym Mae Ardintigh, lleoliad gwyllt ar lannau Loch Nevis, ger Mallaig.<strong>&nbsp;<\/strong>Pan ddaeth i Ardintigh yn gynnar yn 1970, cododd babell mewn hen adfail cyn mynd ati i godi adeiladau a datblygu&#8217;r Ganolfan sydd bellach wedi bod ar agor ers 1973.&nbsp; Dros y blynyddoedd, teg dweud bod bron pob math gwahanol o uned filwrol wedi bod yn Ardintigh Highland Outdoor Centre. Mae Tom hefyd yn croesawu llawer o Oedolion a Grwpiau Ieuenctid i&#8217;r Ganolfan, ac mae&#8217;n fodel r\u00f4l i&#8217;r grwpiau o bobl ifanc ddifreintiedig a heriol y mae&#8217;n eu harwain a&#8217;u hannog. Ei arwyddair yw &#8220;Os ydych chi&#8217;n meddwl y gallwch chi, fe fyddwch&#8221;. Ers gadael y fyddin, a rhwng rhedeg ei Ganolfan Awyr Agored yn y West Highlands, mae Tom wedi cyrraedd penawdau hyd a lled y byd gyda&#8217;i gampau rhyfeddol, sy&#8217;n cynnwys pum mordaith rwyfo epig ar draws yr Iwerydd mewn cychod anarferol, gan gynnwys y cwch hwylio lleiaf y byd, sydd dim ond 7&#8242; 9&#8243; o hyd. Taith unigol oedd un o\u2019i anturiaethau eraill hefyd, bu Tom yn byw ar Rockall (pinacl o graig yn yr Iwerydd) am 40 diwrnod i gadarnhau hawliau Prydain i&#8217;r graig a&#8217;r cyfoeth o olew a mwynau gerllaw. Prosiect presennol Tom yw\u2019r cwch a helpodd i adeiladu, sydd ar ffurf morfil sberm ac \u00e2\u2019r enw Moby, Prince of Whales; Bwriad Tom yw gwella ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol drwy ddefnyddio Moby fel llwyfan marchnata. Mae Tom a chriw\u2019r llong wedi cwblhau mordaith 2,000 milltir o amgylch arfordir Prydain, gan angori mewn 50 harbwr ar y ffordd. Mae\u2019n briod \u00e2 Jill a chanddynt dau fab, James a Ryan, a dwy wyres hefyd. Mae teulu Tom yn rhan o&#8217;r criw, gan roi cefnogaeth logistaidd a phersonol, cefnogaeth sy&#8217;n hanfodol i&#8217;w ddiogelwch a&#8217;i lwyddiant.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":671,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5272"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5272\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5538,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5272\/revisions\/5538"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/671"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5272"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}