{"id":5274,"date":"2022-03-31T10:58:05","date_gmt":"2022-03-31T09:58:05","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/yr-uwch-frigadydd-rjm-porter-mbe-fcmi\/"},"modified":"2022-04-07T11:52:47","modified_gmt":"2022-04-07T10:52:47","slug":"yr-uwch-frigadydd-rjm-porter-mbe-fcmi","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/yr-uwch-frigadydd-rjm-porter-mbe-fcmi\/","title":{"rendered":"Yr Uwch-frigadydd RJM Porter MBE FCMI"},"content":{"rendered":"<p>Addysgwyd yr Uwch-frigadydd Roddy Porter yn Ysgol Sherborne, yn yr Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst ac ym Mhrifysgol Newcastle-upon-Tyne (lle enillodd gradd BA (Anrhydedd) mewn Almaeneg a Hanes Canoloesol). Ym mis Hydref 2011, ar \u00f4l treulio 31 mlynedd yn y Fyddin Brydeinig, cafodd ei benodi\u2019n Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer The Royal Over-Seas League (ROSL). Sefydlwyd ROSL yn 1910 ac mae&#8217;n sefydliad aelodau preifat dielw ar draws y Gymanwlad sydd \u00e2\u2019r nod o gefnogi dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhyngwladol drwy weithgareddau cymdeithasol, cerddoriaeth, y celfyddydau a lles. Mae ROSL yn cynnig amrywiaeth o fanteision i&#8217;w aelodau gan gynnwys: clybiau preifat mewn lleoliadau canolog, gan gynnwys llety moethus \u00e2 golygfa o Green Park yn Llundain a llety ar Princes Street yng Nghaeredin; trefniadau cyfatebol gyda thros 80 o glybiau ledled y byd; calendr cerddoriaeth, celf a digwyddiadau bywiog; a llawer mwy. Mae&#8217;r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn gyfrifol am reoli, arwain a marchnata pob agwedd ar ROSL yn effeithlon. Mae hefyd yn gyfrifol am gysylltiadau \u00e2 chyrff cenedlaethol, y Gymanwlad a chyrff rhyngwladol. Comisiynwyd yr Uwch-frigadydd Porter i&#8217;r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn 1980, a bu\u2019n gwasanaethu\u2019n weithredol fel Arweinydd Plat\u0175n, Dirprwy, Arweinydd Cwmni a Phrif Swyddog ar sawl tymor dyletswydd yng Ngogledd Iwerddon a chyda&#8217;r Cenhedloedd Unedig ym Mosnia. Gyda\u2019r 4th Armoured Brigade bu&#8217;n gwasanaethu yn Rhyfel y Gwlff yn 1991 (Ymgyrch GRANBY\/DESERT STORM) ac ym Mosnia yn 1993-94; lle derbyniodd MBE am ei wasanaeth. Y mae wedi dal tair swydd yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, a bu&#8217;n gyfrifol am Frig\u00e2d o Filwyr Troed yng Ngogledd Iwerddon. Ar \u00f4l cael ei ddyrchafu\u2019n Uwch-frigadydd yn 2008, gweithiodd flwyddyn ym Mhencadlys Aml-Genedlaethol y Llu yn Baghdad, Irac, yn atebol i\u2019r Cadfridog Cyffredinol a\u2019r Llysgennad Americanaidd am fentrau cymodi gyda\u2019r milisia Shia a Sunni. Ei benodiad milwrol olaf oedd Prif Swyddog Staff (Datblygu Rhyfela Ar y Cyd) yn y Cyd-bencadlys Parhaol yn Northwood, lle bu\u2019n gyfrifol am hyfforddiant gweithredol a pharodrwydd y tri gwasanaeth ac yn GOC ar ganolfannau milwrol y DU dramor (y Falklands, Gibraltar, Cyprus a Diego Garcia). Bu&#8217;n Gyrnol ar Gatrawd Y Cymry Brenhinol am chwe blynedd. Mae General Porter yn briod \u00e2 Marianne, athro ieithoedd a cherddoriaeth, ac mae ganddynt dri mab. Mae&#8217;n mwynhau&#8217;r rhan fwyaf o chwaraeon, yn enwedig golff, criced, hwylio dingis a rygbi. Mae&#8217;n Ddirprwy Lywydd Undeb Rygbi&#8217;r Fyddin ac yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Dyfarnwyr Undeb Rygbi&#8217;r Fyddin a Ffederasiwn Dyfarnwyr Rygbi&#8217;r Gwasanaethau Cyfunol. Mae ganddo ddiddordeb mewn hanes hynafol, canoloesol a milwrol, darllen a cherddoriaeth; mae&#8217;n canu ac yn chwarae&#8217;r git\u00e2r ac wedi dysgu&#8217;r ffidil a&#8217;r sacsoffon yn y gorffennol. Ef yw Llywydd Undeb Cristnogol y Lluoedd Arfog, mae\u2019n Aelod Pwyllgor o\u2019r Soldiers\u2019 and Airmen\u2019s Scripture Readers Association, yn Is-lywydd SANDES Soldiers\u2019 and Airmen\u2019s Centres ac yn Noddwr MPCT.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":680,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5274"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5274\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5541,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5274\/revisions\/5541"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/680"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5274"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}