{"id":5276,"date":"2022-03-31T10:58:21","date_gmt":"2022-03-31T09:58:21","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/roy-noble-obe-dl-k-st-j\/"},"modified":"2022-03-31T10:58:21","modified_gmt":"2022-03-31T09:58:21","slug":"roy-noble-obe-dl-k-st-j","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/roy-noble-obe-dl-k-st-j\/","title":{"rendered":"Roy Noble OBE, DL, K.St.J"},"content":{"rendered":"<p>Mae Roy Noble yn frodor o Frynaman, Sir Gaerfyrddin, yn wreiddiol ond mae wedi byw ers blynyddoedd lawer yn Aberd\u00e2r, ar \u00f4l cael ei ddenu yno gan ei wraig Elaine. Mae ganddyn nhw un mab, Richard, a chi o\u2019r enw Dylan. Er iddo roi ei fryd ar ddod yn beilot \u00e2\u2019r Llu Awyr Brenhinol, cafodd ei ymdrechion eu rhwystro gan glefyd y gwair, felly ymunodd \u00e2&#8217;r Royal Observer Corps yn lle hynny. O ganlyniad, mae&#8217;n dal i wybod lle mae byncer niwclear Gwaun Cae Gurwen wedi&#8217;i leoli, ond wrth gwrs ni allai byth ddatgelu ble. Roedd ei yrfa gynnar ym maes addysg ac, yn erbyn y diwedd, ef oedd Pennaeth dwy ysgol gynradd ym Mhowys. Enillodd sawl bwrsariaeth yn ogystal ag Ysgoloriaeth Page i astudio systemau addysg yn yr Almaen ac mewn wyth rhanbarth yn yr UDA. Ar \u00f4l symud i fyd darlledu \u00e2\u2019r BBC yng Nghymru bu\u2019n gweithio fel cyflwynydd ar y radio a&#8217;r teledu, gan ennill Gwobr Sony am ei waith radio a Gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol fel Cyflwynydd Rhanbarthol y Flwyddyn am ei waith ar y teledu. Mae&#8217;n darlledu yn y Gymraeg a&#8217;r Saesneg. Roedd yn gyd-gyflwynydd rhaglen deledu gylchgrawn i S4C bu\u2019n actio iob o gymydog mewn cyfres gomedi lwyddiannus. Mae wedi bod yn gysylltiedig \u00e2&#8217;r BBC ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac, er ei fod yn cael ei gysylltu\u2019n bennaf \u00e2\u2019i raglenni radio hynod lwyddiannus, mae wedi cyflwyno llawer o raglenni dogfen difyr ar y teledu, gan gynnwys \u2018Noble Trails, Noble Guides a Common Ground&#8217;. Mae&#8217;n siaradwr cyhoeddus poblogaidd ac mae wedi teithio\u2019n eang fel siaradwr gwadd, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, megis i Gymdeithasau Cymru yn Hong Kong, Singapore a Thoronto. Mae\u2019n meddu ar wybodaeth eang am Gymru, yn ddaearyddol ac yn hanesyddol, ac mae wedi cyhoeddi sawl llyfr, gan gynnwys &#8216;Roy Noble&#8217;s Wales&#8217; a &#8216;Noble Ways \u2013 Laybys in my Life&#8217;. Mae hefyd wedi trosleisio llawer o hysbysebion teledu a rhaglenni dogfen. Mae wedi cadeirio nifer o gyrff a chynadleddau dylanwadol ac wedi cyflwyno llawer o ddigwyddiadau o fri. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 llawer o elusennau, ar draws y sbectrwm cyfan o ofal ac angen, a hynny fel Noddwr, fel Llywydd neu fel Is-lywydd, ac mae wedi derbyn OBE am ei wasanaethau i elusennau ac i gymunedau Cymru. Ef yw Is-Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, mae\u2019n farchog Urdd St. John, yn Gymrawd Paul Harris gyda Rotary International, yn Llysgennad Cymru ar gyfer yr RVS, yn Gymrawd o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn ddeiliad Medal y Canghellor ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn aelod o Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef oedd Noddwr canmlwyddiant Trychineb Mwyngloddio Senghennydd, gan y bu\u2019n gweithio fel athro yn y pentref yn ogystal \u00e2 chwarae i\u2019r t\u00eem rygbi lleol. Mae&#8217;n dod o deulu o lowyr, dros ddwy genhedlaeth, a lladdwyd ei daid yn Steer Pit, Gwaun Cae Gurwen. Mae ganddo atgof cryf o gorff ei daid yn cael ei ddwyn adref, er mai dim ond naw mlwydd oedd Roy ar y pryd. Ef oedd yn cyflwyno yn seremoni i ddadorchuddio&#8217;r Ddraig Goch Efydd yn Fflandrys, i anrhydeddu&#8217;r holl filwyr a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ganddo ddiddordebau amrywiol, gan gynnwys chwaraeon, bu\u2019n ddyfarnwr rygbi a ph\u00eal-droed yn y gorffennol, meysydd brwydrau hanesyddol, y mae wedi ymweld \u00e2 llawer ohonynt adre a thramor, teithio mewn ceir, yn enwedig ail-ymweld \u00e2 mannau o&#8217;i orffennol a, coeliwch neu beidio, mae&#8217;n yrrwr bws cymwysedig hefyd.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5276"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5276\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5276"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}