{"id":5423,"date":"2022-03-31T11:43:49","date_gmt":"2022-03-31T10:43:49","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/jonathon-poyner\/"},"modified":"2022-04-07T11:55:43","modified_gmt":"2022-04-07T10:55:43","slug":"jonathon-poyner","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/jonathon-poyner\/","title":{"rendered":"Jonathon Poyner"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Jonathon yn gweithio i Gorfforaeth Dinas Llundain fel Cyfarwyddwr Adeiladau a Gweithrediadau ar gyfer y Barbican Centre ac Ysgol Gerdd a Drama Guildhall. Mae Jonathon hefyd yn eistedd ar wahanol Fyrddau yn y Ddinas, gan gynnwys y Bwrdd Prosiectau Corfforaethol, y Bwrdd Categori, Bwrdd Cynghori Diogelwch y Ddinas, y Bwrdd Ynni a&#8217;r Bwrdd Rheoli Asedau Strategol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Jonathon wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi uwch eraill. Bu\u2019n Cyfarwyddwr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, atyniad twristaidd mwyaf poblogaidd Cymru a chartref y Celfyddydau yng Nghymru, yng nghaeau ras Cas-gwent a Henffordd, y Gr\u0175p MEM, lle bu&#8217;n rheoli gr\u0175p o ddeg cwmni a oedd yn darparu gwasanaethau i gleientiaid Blue Chip gan gynnwys British Steel, Interbrew, British Airways ac L&#8217;Oreal, a bu hefyd yn gweithio yn SA Brain &amp; Co., manwerthwyr annibynnol mwyaf Cymru gyda dros 200 o unedau manwerthu, safleoedd gweithgynhyrchu a depos logisteg, lle bu&#8217;n gweithio gyda&#8217;r Bwrdd ar uno a chaffael Crown Buckley.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwasanaethodd Jonathon tua 15 mlynedd yn y fyddin yn bennaf yng Nghatrawd Frenhinol Cymru, (fel mirwl arferol ac wrth gefn) ac bu\u2019n gweithio pyliau gyda&#8217;r UOTC a&#8217;r UDR yng Ngogledd Iwerddon yn ogystal \u00e2\u2019r Prince of &nbsp;Wales Division, lle bu&#8217;n gweithio ar gynllunio a gweithredu CSMR (Maes Llafur Milwrol Cyffredin \u2013 Recriwtiaid) cyntaf erioed y Fyddin.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Jonathon hefyd wedi cynnal nifer o rolau anweithredol a gwirfoddol, gan gynnwys swyddi uwch yn St John Cymru, Clwb Busnes Caerdydd, Ymddiriedolaeth Theatr Dawns Cymru Cyf, Amgueddfeydd Brenhinol Cymru, yr Academi Sgiliau Genedlaethol (Sgiliau Creadigol a Diwylliannol) a phwyllgorau amrywiol ar gyfer Cyngor Caerdydd. &nbsp;Mae hefyd wedi gweithredu fel Asesydd Busnes (Ymgynghorydd) i Gyngor Celfyddydau Cymru ar nifer o brosiectau gweithredu ac adeiladu, gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau Pontio newydd ym Mhrifysgol Bangor.<\/p>\n\n\n\n<p>Derbyniodd wobr Cyfarwyddwr y Flwyddyn gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr (Menter Gymdeithasol, Cymru) a gwobr Cymrawd Siartredig y Flwyddyn gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (Cymru). Mae&#8217;n gymrawd oes o&#8217;r Sefydliad Materion Cymreig ac yn Aelod Ardystiedig o&#8217;r Sefydliad Rheoli Cyfleusterau yn y Gweithle. Mae Jonathon hefyd yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Cymry Llundain.<\/p>\n\n\n\n<p>Ganed Jonathon yn y Fenni, ac fe&#8217;i magwyd yn Llanwytherin a Thyndyrn yn Nyffryn Gwy. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Bechgyn Trefynwy, PDC a&#8217;r Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst. Mae&#8217;n briod ag Amanda, sy\u2019n Bennaeth Cynorthwyol mewn Ysgol Merched, ac mae ganddynt ddwy ferch, ill dwy yn gweithio yn y sector ariannol.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":4987,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5423"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5423\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5548,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5423\/revisions\/5548"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4987"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5423"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}