{"id":5427,"date":"2022-03-31T11:44:45","date_gmt":"2022-03-31T10:44:45","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/uwch-frigadydd-david-wilson-cb-cbe\/"},"modified":"2022-04-07T11:55:25","modified_gmt":"2022-04-07T10:55:25","slug":"uwch-frigadydd-david-wilson-cb-cbe","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/uwch-frigadydd-david-wilson-cb-cbe\/","title":{"rendered":"Uwch-frigadydd David Wilson CB CBE"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae David yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun sy&#8217;n arbenigo mewn arweinyddiaeth strategol a rheoli argyfyngau. Mae\u2019n gysylltiedig \u00e2 nifer o wahanol sefydliadau ymgynghori, ac mae&#8217;n rhannu ei amser rhwng darparu rheolaeth frys o fewn y sector niwclear a gweithio gyda chleientiaid sy&#8217;n awyddus i wella eu harweinyddiaeth gorfforaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn 2009 bu&#8217;n gweithio dramor ar aseiniad tair blynedd gyda&#8217;r Cenhedloedd Unedig yn Afghanistan, lle bu&#8217;n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr ar gyfer rhaglen ddiogelwch a sefydlogi ledled y wlad, gan canolbwyntio ar ddiarddel a diddymu grwpiau arfog anghyfreithlon. Roedd wedi ymgymryd \u00e2 gwaith ymgynghori o&#8217;r blaen ar ran Swyddfa Cymorth Cyfansoddiadol y Cenhedloedd Unedig, lle rhoddodd gyngor i Lywodraeth Interim Irac ar agweddau sifil\/milwrol i&#8217;w cynnwys yn y Cyfansoddiad newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, treuliwyd y rhan fwyaf o&#8217;i yrfa yn y Lluoedd Arfog, yn amlach na pheidio yn arwain, hyfforddi neu&#8217;n cefnogi lluoedd confensiynol ac anghonfensiynol (milwrol a&#8217;r heddlu, cenedlaethol a rhyngwladol) ar draws y byd mewn gweithrediadau a hyfforddiant sy&#8217;n wleidyddol sensitif ac yn aml yn beryglus. Mae\u2019n ymwneud yn rheolaidd \u00e2\u2019r gwaith o reoli\u2019r ymateb cenedlaethol i argyfyngau, yn ogystal \u00e2 gweithrediadau wrth gefn, boed hynny gartref neu dramor, ac mae&#8217;n gyfarwydd iawn \u00e2 llunio a darparu cyngor polisi ar lefel weinidogol, i benaethiaid llywodraeth dramor, ac ar lefel uwch gorfforaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ganddo brofiad helaeth ym maes polisi diogelwch, bu\u2019n Cynrychioli\u2019r DU yn rheolaidd ar weithgorau a seminarau gwrth-derfysgol rhyngwladol, bu\u2019n cyd-gadeirio Pwyllgor Diogelwch Kosovo ac fel dinesydd daeth yn aelod parhaol o Bwyllgor Rheoli Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn Kabul, Afghanistan.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd ei benodiadau gwasanaeth uwch yn cynnwys: Pennaeth Staff yng Nghyd-bencadlys NATO&#8217;r Gogledd, Uwch Gynghorydd Milwrol Prydain i\u2019r US Central Command, Comander Lluoedd Amffibiaidd y Deyrnas Unedig a&#8217;r Commandant General y M\u00f4r-filwyr Brenhinol. Bu hefyd yn gorchymyn y Special Boat Service, y 45 Commando Group, y 3 Commando Brigade, a Llu Amffibiaidd y Deyrnas Unedig\/Iseldiroedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu\u2019n Gyfarwyddwr Person\u00e9l ac yn Llywydd ar yr Admiralty Interview Board, roedd yn siaradwr gwadd rheolaidd yn Ysgol NATO yn Oberammergau a, cyn iddo adael y Gwasanaeth, fe&#8217;i henwebwyd gan staff Pennaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig i ymuno \u00e2 Rhaglen Mentor Uwch a Datblygu Cysyniad NATO. Ar hyn o bryd mae&#8217;n dal y swydd gynrychiadol o Colonel Comandant ar y M\u00f4r-filwyr Brenhinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Y mae wedi bod yn briod \u00e2 Leslie am dros ddeugain mlynedd, ac mae\u2019n dad ac yn dad-cu bellach, mae ei ddiddordebau&#8217;n cynnwys pobl, hanes ac unrhyw beth sy&#8217;n ymwneud \u00e2 d\u0175r neu fynyddoedd.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote\"><p>&#8220;Dyma sefydliad sydd \u00e2 photensial di-ben-draw ar gyfer arallgyfeirio ac ehangu (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol), sefydliad sy&#8217;n deall ei gylch gwaith yn glir, yn cyflawni ei addewidion ac yn cynrychioli buddsoddiad cadarn. Dyma d\u00eem sy&#8217;n argyhoeddi, sydd ag arweinyddiaeth dda, sy\u2019n llawn cymhelliant, ac sydd wastad yn mireinio a gwella&#8217;r ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith.<\/p><p>Mae\u2019r MPCT yn hynod fedrus ac effeithlon o ran yr hyn y mae&#8217;n ei wneud, gan wneud cyfraniad gwirioneddol a thrawiadol i\u2019r gymdeithas yn gyffredinol, ac i bobl ifanc yn enwedig Mae&#8217;n annog gwell dinasyddiaeth, yn hyrwyddo\u2019r gwerthoedd a&#8217;r rhinweddau sy&#8217;n arwain at lwyddiant ac, o ganlyniad, mae\u2019n helpu pobl ifanc i ddod yn fwy hyderus, gan eu galluogi i wynebu heriau bywyd a chyflawni eu disgwyliadau. Mae hyn i gyd yn ymwneud ag ennyn hunangred.<\/p><p>Mae&#8217;r ap\u00eal ar gyfer rhanddeiliaid yn amlwg iawn: unigolion sy\u2019n fwy heini, sy\u2019n ddisgybledig, sy\u2019n ymroddedig, sydd \u00e2 ffocws, ac sy\u2019n fwy tebygol o lwyddo yn y broses ddethol a\u2019r hyfforddiant dilynol o ganlyniad i\u2019w profiad yn MPCT.<\/p><p>Nid dadl gwerth am arian yw hyn yn unig (er bod hynny ynddo&#8217;i hun yn dipyn o gymhelliant), mae\u2019n ymwneud \u00e2 manteisio ar ansawdd graddedigion MPCT i helpu i godi safonau cyfunol&#8221;.<\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"featured_media":4995,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5427"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5427\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5546,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5427\/revisions\/5546"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4995"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5427"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}