{"id":5431,"date":"2022-03-31T11:45:37","date_gmt":"2022-03-31T10:45:37","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/pat-denham-obe-is-bennaeth-new-college-swindon\/"},"modified":"2022-04-07T11:56:47","modified_gmt":"2022-04-07T10:56:47","slug":"pat-denham-obe-is-bennaeth-new-college-swindon","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/pat-denham-obe-is-bennaeth-new-college-swindon\/","title":{"rendered":"Pat Denham OBE, Is-Bennaeth, New College Swindon"},"content":{"rendered":"\n<p>Ganwyd Pat yn Solihull ac aeth i&#8217;r ysgol a&#8217;r brifysgol yn y De Ddwyrain.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Pat wedi dysgu mewn gwahanol ysgolion a cholegau yn y De-ddwyrain a&#8217;r De-orllewin ac yn Neo Liosia, Athen. Penodwyd Pat yn uwch reolwr yng Ngholeg Ynys Wyth yn 1990, gan gefnogi\u2019r paratoadau ar gyfer Ymgorffori. Penodwyd Pat yn Enwebai&#8217;r Coleg a pharat\u00f4dd y coleg ar gyfer ei arolygiad cyntaf gan y Cyngor Cyllido Addysg Bellach (FEFC). Yn ystod y cyfnod hwn, hyfforddodd fel arolygydd FEFC rhan-amser. Cwblhaodd Pat ei chymwysterau Meistr mewn Gweinyddu Busnes ac IPD yn llwyddiannus.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaeth Pat gais llwyddiannus i fod yn Bennaeth Staff a Gwasanaethau Ansawdd yng Ngholeg Bridgwater, Gwlad yr Haf yn ystod mis Ionawr 1996. Rhwng 1996-2003 enillodd y coleg statws Beacon ac fe&#8217;i cydnabuwyd yn genedlaethol fel un o&#8217;r sefydliadau addysg bellach mwyaf llwyddiannus yn Lloegr. Penodwyd Pat yn Enwebai&#8217;r Coleg a pharat\u00f4dd y coleg ar gyfer arolygiad yn 2002 a arweiniodd at raddau rhagorol ym mhob maes. Roedd y ei rolau eraill yn cynnwys Clerc Archwilio, Adolygydd Sefydliadol ar gyfer dau adolygiad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Sgoriodd y ddau adolygiad QAA 23 allan o uchafswm o 24 pwynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod mis Ionawr 2004, gwnaeth Pat gais am swydd Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg South Devon, gan ymateb i&#8217;r heriau o baratoi ar gyfer arolygiad OFSTED a symud i amgylchedd dysgu ysbrydoledig newydd. O dan ei harweiniad hi, a chyda chefnogaeth uwch d\u00eem Rheoli eithriadol, symudodd Coleg South Devon o statws \u2018anfoddhaol\u2019 i \u2018da\u2019 ac yna \u2018rhagorol\u2019 ym mis Rhagfyr 2008. Penodwyd Pat yn Ddirprwy Bennaeth a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol yn 2009.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Pat wedi arwain y Coleg at wobrau a llwyddiannau eraill, gan gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<p>2014 Treialu Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd llwyddiannus Ofsted<\/p>\n\n\n\n<p>2011 a 2014 Hyrwyddwr a Statws Aur Buddsoddwyr mewn Pobl<\/p>\n\n\n\n<p>2-11 Statws STEM Assured<\/p>\n\n\n\n<p>2010 a 2013 Safon Matrix ar gyfer gwybodaeth\/cyngor ac arweiniad<\/p>\n\n\n\n<p>2010 Gwobr Sports Focus College<\/p>\n\n\n\n<p>2007 a 2010 Safon Ansawdd Hyfforddiant<\/p>\n\n\n\n<p>2007 i 2014 8 Gwobr Beacon<\/p>\n\n\n\n<p>2009 Statws Beacon<\/p>\n\n\n\n<p>2008 a 2009 Statws BECTA Technology Exemplar<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Pat yn arolygydd OFSTED sydd wedi&#8217;i hyfforddi&#8217;n llawn ac mae wedi cynnal arolygiadau o wahanol golegau a sefydliadau addysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyfarnwyd OBE i Pat yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2012 am ei Gwasanaethau i Addysg Bellach. Mae gan Pat ddau o blant ac mae&#8217;n mwynhau cerdded a bod \u00e2\u2019i theulu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Pat wedi cael y fraint o weithio&#8217;n agos gyda Huw Lewis MBE, ei staff a&#8217;i fyfyrwyr yn MPCT ers 2011. Mae hi\u2019n falch o fod yn Noddwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn ymddeoliad cynnar ym mis Awst 2015, mae Pat yn parhau i gefnogi a gweithio \u00e2 sefydliadau addysgol i wella ansawdd a phrofiad dysgwyr ymhellach. Ym mis Hydref 2015 daeth Pat yn Gyfarwyddwr Cwmni PRTD LTD. Mae hi bellach yn cynghori ac yn cefnogi uwch dimau rheoli i weithredu strategaethau gwella yn llwyddiannus.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwasanaethodd Pat fel Is-Bennaeth dros dro Dysgu ac Ansawdd yng Ngholeg Highbury, Portsmouth cyn cael ei phenodi&#8217;n Is-Bennaeth New College, Swindon yn 2021.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote\"><p>&#8220;Rwy&#8217;n falch iawn o fod yn Noddwr MPCT. Ar \u00f4l cwrdd \u00e2 llawer o&#8217;r dysgwyr, y staff a&#8217;r rheolwyr yn MPCT, mae eu cymhelliant a&#8217;u hymroddiad i gyflawni wedi creu argraff fawr arnaf erioed. Mae MPCT yn sefydliad rhagorol sy&#8217;n sicrhau bod pob dysgwr yn dysgu sgiliau newydd, yn gwella eu sgiliau Mathemateg a Saesneg, ac yn cyflawni eu potensial llawn bob amser. Nid llwyddiant \u00e2 chymwysterau yw\u2019r unig fesur o lwyddiant, mae angen ystyried pen y daith i\u2019r dysgwr hefyd. Mae MPCT yn gosod pob dysgwr ar lwybr clir tuag at ddyfodol llwyddiannus. Mae\u2019r ethos cryf o ddisgwyliadau uchel yn gyson ar draws y sefydliad.<\/p><p>Mae boddhad dysgwyr yn uchel iawn ac mae\u2019n amlwg bod dysgwyr a rhieni\/gwarcheidwaid yn cael eu hysbrydoli gan y profiad dysgu yn MPCT. A minnau wedi arsylwi ar ansawdd yr addysgu a&#8217;r dysgu, mae ysfa\u2019r timau i wella wastad yn gwneud argraff arnaf. Mae&#8217;r t\u00eem arweinyddiaeth rhagorol yn sicrhau bod strategaeth glir yn cael ei rhoi ar waith a bod cynllun hunanasesu trwyadl yn cael ei ddefnyddio i gynnal perfformiad uchel. Mae MPCT yn sefydliad hynod lwyddiannus a fydd yn parhau i dyfu ac ymateb i&#8217;r newid yn y tirlun addysgol&#8221;.<\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"featured_media":5003,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5431"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5431\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5554,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5431\/revisions\/5554"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5003"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5431"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}