{"id":5435,"date":"2022-03-31T11:46:43","date_gmt":"2022-03-31T10:46:43","guid":{"rendered":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/patron\/caroline-ansell-as\/"},"modified":"2022-04-07T11:55:53","modified_gmt":"2022-04-07T10:55:53","slug":"caroline-ansell-as","status":"publish","type":"patron","link":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/patron\/caroline-ansell-as\/","title":{"rendered":"Caroline Ansell AS"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Caroline yn gyn-athrawes ac arolygydd ysgol ac yn fam i dri mab. Bu\u2019n ymgyrchydd Ceidwadol am flynyddoedd lawer, yn ogystal \u00e2 bod yn Gynghorydd ar gyfer Meads ar Gyngor Bwrdeistref Eastbourne, yn delio \u00e2 phroblemau pobl, ac o hyd yn ymdrechu i gynnal yr ansawdd bywyd gorau i drigolion lleol.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Caroline, &#8220;Mae bod yn Aelod Seneddol dros fy etholaeth enedigol wir yn anrhydedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae fy ngwreiddiau yn y gymuned hon ac felly yr wyf yn y sefyllfa orau i sicrhau ei ffyniant gan ofalu, bob amser, am y rhai mewn angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n byw yng nghanol ardal yr hen dref, ac wrth fy modd yn bod yn rhan o fywyd y dref gyfan. Mae gan ein cymuned gymaint o\u2019i phlaid, ac rwy&#8217;n benderfynol o&#8217;i gwneud yn lle gwell fyth i fyw.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddaf yn gweithio&#8217;n galed i greu mwy o swyddi drwy gefnogi busnesau lleol ac ymgyrchu dros well cysylltiadau trafnidiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddaf yn gweithio&#8217;n galed am ail redfa yn Gatwick, Wi-Fi ar ein holl drenau a buddsoddiad yn yr A27 \u2013 popeth a fydd yn helpu i ddatgloi potensial yr economi leol.<\/p>\n\n\n\n<p>Addysg sy\u2019n gyrru fy ngwaith fel AS. Roeddwn yn athrawes am 15 mlynedd a bydd fy arbenigedd yn helpu i godi safonau mewn ysgolion lleol \u2013 fel y gall pobl ifanc gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r GIG yn werthfawr i mi a&#8217;m teulu. Pan gafodd fy mab ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, doedd dim rhaid i ni feddwl sut y bydden ni&#8217;n talu am ei driniaeth &#8211; oherwydd bod nyrsys a meddygon lleol yno ar ein cyfer. Byddaf yn brwydro i sicrhau bod pawb yn ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n fraint cael cynrychioli fy etholaeth gartref ac rwy&#8217;n addo gwasanaethu fy nghyd-drigolion gyda brwdfrydedd a thosturi.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Fe&#8217;m gwahoddwyd gan MPCT i fod yn Noddwr y Coleg, anrhydedd mawr yr oeddwn yn falch o&#8217;i dderbyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Coleg Milwrol \u00e2 dyfarniad \u2018Rhagorol\u2019 gan OFSTED, ac mae ganddo record wych o ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc sydd \u00e2 dyheadau i wasanaethu yn y lluoedd arfog ac mewn rolau gwasanaeth ar draws cymdeithas. Rwy&#8217;n angerddol am y r\u00f4l y mae ein lluoedd arfog yn ei chwarae yn fy ardal, ac rwy&#8217;n falch bod gan yr MPCT ganolfan yn Eastbourne.<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn wrth fy modd o gael bod yn siaradwr gwadd mewn Seremon\u00efau Gwobrwyo dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gall yr MPCT fod yn falch iawn o&#8217;r r\u00f4l y mae&#8217;n ei chwarae wrth baratoi dysgwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, ac mewn rhai sefyllfaoedd gan newid bywydau.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth wrando ar dystiolaethau dysgwyr yn y Gwobrau hyn, ac o siarad yn ddiweddarach gyda&#8217;u ffrindiau a&#8217;u teuluoedd, mae&#8217;n anhygoel \u2013 yn deimladwy iawn mewn gwirionedd &#8211; cael gwybod beth yn union y mae&#8217;r Coleg wedi&#8217;i olygu i&#8217;r dynion a&#8217;r menywod ifanc hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ffocws y dysgwyr a&#8217;u hymroddiad i fod cystal ag y gallent fod wastad yn creu argraff; ar \u00f4l bod yn athrawes am flynyddoedd lawer cyn ymgymryd \u00e2&#8217;m sedd yn y Senedd, gwn mai gwydnwch, a pheidio \u00e2 rhoi\u2019r ffidil yn y to, yw\u2019r arwydd y bydd rhywun yn llwyddo, ac mae MPCT yn rhagori wrth adeiladu&#8217;r priodoledd hanfodol hwn&#8221;.<\/p>\n\n\n\n<p>Ewch i <a href=\"http:\/\/carolineansell.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Wefan Caroline<\/a><\/p>\n","protected":false},"featured_media":5011,"template":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5435"}],"collection":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron"}],"about":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/patron"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5435\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5549,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/patron\/5435\/revisions\/5549"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5011"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/headoffice.mpct.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5435"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}