Comisiynwyd Charles Vere-Whiting i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac yn ystod ei Ddyletswydd Gatrodol gynnar cafodd ei benodi i wasanaethu yn y DU, Gogledd Iwerddon, Canada, Kenya, Zimbabwe a Bosnia. Fel swyddog staff, bu’n gwasanaethu yng Nghyd-bencadlys Parhaol y DU (PJHQ) ac yn y Pencadlys Canolog yn yr UDA fel Cynorthwyydd Milwrol, bu ar secondiad i’r Gwasanaeth Diogelwch fel cynllunydd Gwrthderfysgaeth, fel cynllunydd Lluoedd Arbennig y DU yn PJHQ ac ym Mhencadlys y Fyddin fel arweinydd ar ddatblygu’r polisi ar gyfer hyfforddiant ac addysg Swyddogion ym maes Datblygu a Hyfforddi’r Llu. Yn ei Ddyletswydd Gatrodol, bu’n arwain Cwmni A Bataliwn 1af Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel rhan o’r Bataliwn 1af y Princess of Wales’ Royal Regiment Battle Group yn ystod Op TELIC 4 yn Nhalaith Maysan, Irac (a chafodd ei grybwyll yn y Dispatches) ac yna fel Uwch-gapten, Pennaeth Staff, ac yna Prif Swyddog dros dro gyda’r Royal Welsh Battle Group (fel Theatre Reserve Battalion ar gyfer Irac ac Affricanistan) ac fel rhan o’r 11 (Light) Brigade yn ystod Op HERRICK 11. Ymddeolodd Charles ar ei ddyrchafiad i Is-Gyrnol yn 2012, ac mae bellach yn gydberchennog ar ymgynghoriaeth arweinyddiaeth a chynghori busnes ffyniannus sy’n canolbwyntio ar gefnogi arweinwyr busnes i ddatblygu eu gallu i wneud penderfyniadau, eu strategaethau a’r prosesau a’r strwythurau sy’n cefnogi’r rhain. Mae’n byw ger Marlborough gyda’i briod â 2 o blant ifanc. Mae ei wraig, Julie, yn swyddog yn yr Army Reserve.