CEFNOGI MPCT

Cwrdd â’n Noddwyr

Mae’r Noddwyr MPCT yn ffrindiau a phartneriaid gwerthfawr sy’n rhannu ein cenhadaeth a’n gwerthoedd craidd.

Mae MPCT yn ffodus o gael cefnogaeth Noddwyr amrywiol a thalentog, ac mae pob un ohonynt â gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau arbenigol sy’n gwella ein gallu i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.

Mae ein Noddwyr yn gweithredu fel llysgenhadon ar gyfer MPCT. Maent yn helpu i wella ymwybyddiaeth o waith rhagorol MPCT, maent yn ein cyflwyno i bartneriaid a chefnogwyr newydd, ac yn darparu cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol i’n myfyrwyr. Rydym yn falch iawn o gael y gefnogaeth barhaus ein noddwyr, y rhai hen a’r newydd.

Er bod anogaeth ac arweiniad eu rhieni yn ddigon i alluogi’r mwyafrif llethol o bobl ifanc i ddatblygu’n oedolion ifanc hapus, mae yna leiafrif sylweddol sydd angen llawer mwy o gymorth a chefnogaeth er mwyn datblygu’r hunanhyder a’r cymhelliant y maent eu hangen i adnabod ac i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n o’u cwmpas.

Oherwydd profiadau fy mhlentyndod, amser maith yn ôl rhaid cyfaddef, rwy’n teimlo’r ysfa i helpu pobl ifanc i lywio’r dyfroedd, cythryblus o bryd i’w gilydd, sy’n arwain o blentyndod i fod yn oedolyn. Ers ymddeol ar ôl gyrfa gwerth chweil gyda’r RAF rwyf wedi ymgymryd â nifer o rolau gwirfoddol, a’r rhan fwyaf ohonynt â phwyslais ar ddatblygu ieuenctid a phobl ifanc.

A finnau wedi gweld gwaith yr MPCT â’m llygaid fy hun, ni allwn wrthod y gwahoddiad hael i fod yn Noddwr, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda thîm mor frwdfrydig, proffesiynol a gofalgar.”

Marsial yr Awyrlu Syr Graham Anthony “Dusty” Miller KBE

Mae’r Ymddiriedolaeth Cymhelliant a Dysgu yn darparu cymorth a goruchwyliaeth glir a chyson i’r elusen.

Mae’r ymddiriedolwyr yn cynnwys urddasolion, cyflogwyr, academyddion, arweinwyr busnes ac aelodau o staff MPCT. Llongyfarchiadau i bawb a gafodd gydnabyddiaeth yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines. Hoffai MPCT gynnig ei longyfarchiadau i bawb sydd wedi derbyn yr anrhydedd fawreddog, yn enwedig Noddwr MLT, Syr Tyrone Urch KBE, sydd wedi cael ei urddo’n farchog i gydnabod ei rôl fel Standing Joint Commander, yn gyfrifol am arwain cyfraniad y fyddin i frwydr y DU yn erbyn COVID-19.

Helo, fy enw i yw Syr Tyrone Urch KBE FICE, rwy’n un o noddwyr yr Ymddiriedolaeth Cymhelliant a Dysgu ac yn ffrind agos iawn i bawb yn y MPCT.

Rwyf am eich llongyfarch ar 21 mlynedd eithriadol, ac i ddweud pa mor falch ydwyf o’ch cyflawniadau a’ch gwaith anhygoel ers 1999. Byddai’n dda gennyf pe gallwn fod yno’n bersonol, ond mae’r neges yr un mor gryf o’i danfon yn rhithwir fel hyn. Rwy’n hynod ddiolchgar i holl staff yr MPCT am osod esiampl mor gadarnhaol i’r holl Ddysgwyr, ac am eu gwaith eithriadol a’r ysbrydoliaeth y maent yn ei rhoi i’n pobl ifanc.

Rydych wedi adeiladu ethos tîm cryf ac wedi meithrin amgylchedd iach a chynhyrchiol, ac mae hynny wedi caniatáu i’r MPCT gyflawni cymaint mwy na’r disgwyl. Felly, diolch i chi, mae’r MPCT bellach yn cael ei gydnabod fel arweinydd o fewn y diwydiant ac mae’n cael effaith anhygoel ar y gymuned, yn ogystal â helpu ein pobl ifanc i fagu hyder i ffynnu – yn bersonol ac yn broffesiynol – o fewn ein cymdeithas.

Mae COVID-19 a’i effeithiau dros y misoedd diwethaf wedi ein herio ni i gyd, ond mae’r teulu MPCT wedi llwyddo i addasu; rydych wedi gweithredu technoleg a systemau gwaith newydd i ganiatáu i’n dysgwyr barhau i elwa o’r gwasanaeth y mae ein colegau’n ei ddarparu.

Rydych wedi dangos cadernid mewn cyfnod anodd ac ansicr, ac wedi parhau i ymdrechu trwy gydol y cyfyngiadau, a gwn fod hyn wedi bod yn werth enfawr i’r dysgwyr.

Mae agwedd gadarnhaol a’r angerdd gwirioneddol y mae pob aelod o staff yn ei gynnig i’r tîm a’n pobl ifanc a’u teuluoedd yn drawiadol. Mae 21 mlynedd yn garreg filltir anhygoel, ac un na fyddai wedi’i chyrraedd oni bai am eich ymrwymiad diwyro i helpu pobl ifanc i gyflawni eu huchelgeisiau mewn bywyd.

Diolch yn fawr iawn.

  • MPCT Patrons celebrate MPCT’s 21st Anniversary

    Marking MPCT’s 21st anniversary, Patrons and Trustees of MPCT and the Motivation & Learning Trust take time to reflect on our milestone, we hear from Shaun Bailey AM, Felicity Ladbrooke and Hugh Purcell as they pay tribute to the great work our staff and organisation do towards changing the lives of young people.

  • MPCT Patrons celebrate MPCT’s 21st Anniversary

    Our esteemed Patrons and Trustees, take time to reflect on our 21st Anniversary. Tom McClean, Pat Denham OBE, Liz Singer, Charles Vere Whiting and Chair of MLT, Manny Manfred acknowledge the hard work of all our staff past and present.

  • MPCT Patron Paul Nanson CB CBE

    MPCT Patron, Paul Nanson CB CBE, who joined us for our virtual MPCT Resilience Awards this year was asked why he thought our awards ceremony was particularly important this year, and how he has coped with the challenges of the Covid-19 pandemic. He also told us what it means to him to be a Patron of MPCT, and the value of PRIDE – the acronym that represents MPCT’s core values.

  • MPCT Patron Roy Noble OBE

    One of our esteemed Patrons, Roy Noble OBE celebrates MPCT’s 21st anniversary and pays tribute to the work MPCT does for Young People across the UK.