Colonel (Wedi Ymddeol) Hugh Purcell OBE, Prif Weithredwr RFCA ar gyfer Llundain Fwyaf

Hugh yw Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid (RFCA) ar gyfer Llundain Fwyaf. Ganwyd Hugh yn Nulyn, ac mae ei wasanaeth i’r fyddin wedi cynnwys arwain bataliynau a gweithio i sawl adran o’r llywodraeth, gan gynnal a chreu partneriaethau gyda 35 o wledydd.

Mae gan Hugh nifer o rolau cysylltiedig, gan gynnwys Dirprwy Raglaw Llundain a Chadeirydd Sefydliadau Ieuenctid mewn Lifrau (YOU London).  RMae YOU London yn bartneriaeth o 10 sefydliad ieuenctid mewn lifrai profiadol yn Llundain sydd ag aelodaeth gyfunol o fwy na 75,000 o bobl ifanc.

Mae ymgysylltu â phobl ifanc a’r oedolion sy’n gyfrifol amdanynt yn waith cwbl hanfodol os yw’r genhedlaeth bresennol am feddu ar y sgiliau y maent eu hangen i fod yn rhan o fyd gwaith sy’n newid yn barhaus.

Mae Hugh hefyd yn Glerc y Grŵp Seneddol Hollbleidiol y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid, yn aelod o Rwydwaith Lluoedd Arfog y GIG yn Llundain, yn rhan o Bwyllgor Addysg Filwrol Prifysgol Llundain, Tîm Llundain, y bwrdd cynghori cenedlaethol Cofiwch y Rhyfel Byd Cyntaf, Fforwm Ymchwil Ieuenctid, a’n llysgennad ‘Soldier On’ ac ymddiriedolwyr elusennol.