Ein Darpariaethau

Mae MPCT yn falch o gynnig amrywiaeth o ddarpariaethau penodol sy’n cefnogi pobl ifanc o bob oed a demograffeg ledled y DU. Mae ystod a chwmpas dysgwyr MPCT yn enfawr, a’r darpariaethau hefyd yn yr un modd, ond mae gan bob un ohonynt nod cyffredin; i sicrhau ein bod yn creu dinasyddion gwell.

Y Coleg Paratoi Milwrol

Gydag arweinyddiaeth ac addysgu rhagorol, gall pawb gyflawni eu nodau.

Mae’r Coleg Paratoi Milwrol (MPC) wedi cael ei arolygu gan Ofsted a chael dyfarniad “rhagorol” ym mhob maes, gan gynnwys: canlyniadau i ddysgwyr, dysgu ac asesu, arweinyddiaeth a rheolaeth, ac ansawdd yr addysgu. Mae pob hyfforddwr yn y coleg wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ac mae pob un yn fodelau rôl cryf a chyson i’w myfyrwyr. Yn ystod eu gwasanaeth, gwnaeth ein hyfforddwyr dderbyn hyfforddiant eithriadol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth, gan olygu bod ein myfyrwyr yn dysgu gan y gorau. Mae’r ymdeimlad o falchder y mae ein staff yn ei deimlo wrth ddatblygu, hyfforddi a chefnogi ein myfyrwyr hefyd wedi cael ei gydnabod yn rhestr The Times 100 Best Companies to Work For 2017. Mae cyn-ddysgwyr o’r rhaglen sy’n penderfynu ymuno â’r Lluoedd Arfog yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus na’r rhai sy’n ymgeisio’n uniongyrchol. Bydd y dysgwyr hynny sy’n penderfynu dilyn opsiynau gyrfa eraill yn meddu ar sgiliau craidd sy’n cefnogi eu llwyddiant. Gyda’r set newydd hon o sgiliau a chymwysterau, mae drysau a fu gynt ar gau bellach yn llydan agored.

Ysgolion MPCT

Mae Ysgolion MPCT yn ddarparwyr hyfforddiant o fri sy’n gweithredu ledled y DU, a phrif sylfaen eu gwaith yw addysg a dysg.

Rydym yn cefnogi ysgolion partner ac awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr i sicrhau cymwysterau galwedigaethol achrededig, a hynny trwy ddefnyddio ethos milwrol fel ein mecanwaith ymgysylltu.

  • Cefnogi cymwysterau ysgol a pherfformiad cyrhaeddiad.
  • Datblygu sgiliau dysgu unigryw i gefnogi perfformiad academaidd yn yr ysgol.
  • Sicrhau dilyniant personol ac academaidd cadarnhaol.

Mae’r ddarpariaeth yn ategu cwricwlwm presennol yr ysgol trwy wella mesurau perfformiad a gweithredu rhagor o amrywiaeth a dyfnder yn y cwricwlwm a gynigir. Mae’r addysgeg MPS yn seiliedig ar ddysgu gweithredol, o fewn gwersi academaidd, yn ogystal â chymhwyso sgiliau ymarferol.

Y Coleg Chwaraeon

Mae'r Coleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi bod yn darparu cyrsiau chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd ers nifer o flynyddoedd yng Nghymru.

Mae’r Coleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed sy’n dymuno ennill cymwysterau a phrofiadau i’w galluogi i ddilyn gyrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden egnïol. Rydym yn cynnig cymwysterau Lefel 1 a 2, a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ein myfyrwyr. Mae amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gael i ddysgwyr, gan gynnwys cyflwyniadau, hyfforddiant a mentora gan chwaraewyr proffesiynol ac arbenigwyr yn y diwydiant. Mae’r Coleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn ymfalchïo yn y berthynas ysbrydoledig rhwng ein hyfforddwyr a’u myfyrwyr. Yn wahanol i golegau eraill sy’n rhoi cyfres o diwtoriaid i’w dysgwyr, yma mae ganddynt hyfforddwr penodol ar gyfer y cwrs cyfan, ym meysydd theori ac ymarferol. Mae hyn yn darparu amser a gofod i’r cydberthnasau cadarnhaol hyn esblygu.

Prentisiaethau

Rhaglenni hyfforddi seiliedig ar waith yw Prentisiaethau, maent wedi’u cynllunio i fodloni anghenion cyflogwyr a gweithwyr ac maent yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Maent yn ffordd wych i fusnesau ddatblygu sgiliau allweddol o fewn gweithluoedd. Mae pob prentisiaeth yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Cymhwyster cymhwysedd priodol ar o leiaf Lefel 2 o’r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF).
  • cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (os oes eu hangen).
  • Cymhwyster gwybodaeth dechnegol, megis Hyfforddiant Personol neu Hyfforddi Chwaraeon (sy’n berthnasol i’r Brentisiaeth benodol).
  • Cymwysterau neu ofynion eraill sy’n ofynnol gan alwedigaeth benodol, megis Beicio Dan Do (Spin) a Chodi Pwysau.

Arweinwyr Ifanc MPCT

Mae maes llafur addysg cymeriad unigryw Arweinwyr Ifanc MPCT yn cefnogi ysgolion cynradd ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r ddarpariaeth barhaus a blaengar a gyflwynir yn yr ysgol dan arweiniad hyfforddwyr yn cynnig cyfleoedd gwych i ehangu ac i wahaniaethu o fewn eu cwricwlwm. Mae Arweinwyr Ifanc MPCT yn cefnogi strategaeth ac ymagwedd yr ysgol tuag at addysg cymeriad. Mae ein hyfforddwyr cyfeillgar, sydd â chyfoeth o brofiad yn y sectorau milwrol ac addysg, yn tywys dysgwyr ar daith o chwilfrydedd a hunan-ddarganfod, gan ddatblygu sgiliau a phriodoleddau ehangach, boed yn feithrin gwydnwch neu feithrin rhinweddau, oll ar sylfaen o ethos milwrol meddal.