Prif amcan MPCT yw diogelwch a lles ei Ddysgwyr. Eu gweledigaeth gyson yw cefnogi a datblygu pobl ifanc i gyflawni eu nodau a’u dyheadau. Rydym yn cyflawni hyn gyda chyfuniad o astudio a gweithgareddau corfforol milwrol.

Er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud hyn mewn amgylchedd diogel, mae MPCT wedi buddsoddi’n sylweddol yn y gwaith o ddiogelu ei Ddysgwyr ac mae gennym brosesau cadarn a manwl i sicrhau ein bod yn diogelu’r Dysgwyr sydd yn ein gofal.

Rydym yn gwneud hyn drwy sicrhau bod ein holl staff wedi’u hyfforddi i ymdrin ag unrhyw bryder diogelu posibl. Fe’u cefnogir gan arweinwyr diogelu pwrpasol ym mhob maes a chant eu cydgysylltu’n genedlaethol gan Swyddog Diogelu Arweiniol.

Mae MPCT yn meithrin perthynas waith agos â Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth diogelu cyd-destunol sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau’r coleg lleol.

Rydym yn meithrin diwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw gan annog pob Dysgwr i ymgysylltu’n llawn â staff MPCT, ac i fod â’r hyder i ddatgelu unrhyw bryderon sydd ganddynt. Mae’r holl ddatgeliadau a wneir gan Ddysgwyr yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn cael sylw priodol i sicrhau eu bod yn ddiogel trwy’r adeg.

Mae gan MPCT brosesau i ganiatáu i bryderon diogelu gael eu hadrodd drwy lwybrau amgen pan nad oes gan yr unigolyn yr hyder i siarad yn uniongyrchol â Hyfforddwr. Mae’r rhain yn cynnwys:

E-bost diogelu pwrpasol keepmesafe@mpct.co.uk

Llinell Diogelu Bwrpasol gyda’r gallu i adael neges llais 02921 675537

Y person sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelu yn MPCT yw’r Swyddog Diogelu Arweiniol (LSO) Richard Erskine, ac ef fydd yn ymdrin â’r pryderon a ddaw trwy’r llwybrau cyfathrebu hyn. Mae’r LSO yn annibynnol o’r colegau a bydd yn cymryd cyfrifoldeb personol os oes unrhyw bryderon uniongyrchol yn cael eu gwneud yn erbyn hyfforddwr neu aelod arall o MPCT. Mae Richard yn gyn-Swyddog Heddlu gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y gwasanaeth. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio o fewn yr amgylchedd diogelu, a bu’n rheoli, yn datblygu a’n gweithredu Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol (MASH) gyntaf Cymru, sydd hefyd wedi ymgorffori’r newid i’r gofynion cyfreithiol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Gellir cysylltu’n ddienw ag unrhyw un o’r elusennau cenedlaethol isod i roi gwybod am bryderon diogelu hefyd. Mae MPCT wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’r sefydliadau hyn i sicrhau yr ymdrinnir â phob pryder yn briodol.

Childline: 0800 1111 www.childline.org.uk

NSPCC: 0808 800 5000 www.NSPCC.org.uk

STEVE WILLIAMS
Cyfarwyddwr Rheoli Risg
Richard Erskine
Pennaeth Diogelu a Chydymffurfiaeth Weithredol

DIOGELWCH AR-LEIN

Yn MPCT rydym yn ceisio sicrhau bod ein staff a’n myfyrwyr wastad yn ymwybodol o’r risgiau y maent yn eu hwynebu yn y gymuned ar-lein, yn enwedig gwefannau cyfryngau cymdeithasol.

Dyna pam rydym yn weithredol wrth annog rhieni i gymryd rhan ac i’n helpu i gyflawni’r amcan hwn yn y cartref, a hynny trwy fod yn ymwybodol o safleoedd cyfryngau cymdeithasol a sut mae eu plant yn eu defnyddio.

Gallwch ymweld â’r gwefannau hyn i gael rhagor o wybodaeth am e-ddiogelwch a gallwch roi gwybod yn uniongyrchol am gamdriniaeth drwy glicio ar fotwm report abuse CEOP.

CWYNION

Mae MPCT wedi ymrwymo i ddelio’n effeithiol â chwynion. Ein nod yw egluro unrhyw faterion nad ydych yn siŵr amdanynt.

Os yw’n bosibl, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau a wnaed gennym a byddwn yn ymddiheuro. Ein nod yw dysgu o’n camgymeriadau ac i ddefnyddio’r profiad hwnnw i wella’r hyn a wnawn.

Gweler ein Polisi Cwynion isod.