Tom McClean

Mae gyrfa Tom yn adlewyrchu ei allu eithriadol i lwyddo er gwaethaf pob disgwyl. Magwyd gwytnwch ynddo gan blentyndod anodd mewn cartref plant amddifad a 9 mlynedd o wasanaethu â’r Gatrawd Parasiwt, lle’r oedd yn rhan o ymgyrchoedd milwrol yn Aden, Malaya a Borneo, yn ogystal â gwasanaeth gweithredol yn y Gatrawd S.A.S. Tua diwedd ei wasanaeth milwrol, ac yntau’n 26 oed, penderfynodd rwyfo ar ei ben ei hun ar draws gogledd yr Iwerydd, o Ganada i Iwerddon. Ar ei fordaith epig, rhwyfodd trwy rew, gwelodd forfilod, a goroesodd sawl storm â thonnau 50 troedfedd o uchder, cyn cyrraedd Iwerddon yn ddiogel, gwlad ei enedigaeth. Ei benderfynoldeb llwyr a berodd iddo i gynllunio a chyflawni hyn, a dyma’r gyntaf o sawl antur iddo fentro arni. Cwblhaodd ei fordaith trwy lywio gyda secstant, ac ef oedd y person cyntaf mewn hanes i rwyfo ar draws Gogledd yr Iwerydd ar ei ben eu hun, o’r Gorllewin i’r Dwyrain, a hynny gan osod record byd newydd o 70 diwrnod. Ar ôl y daith, gadawodd Tom y Gatrawd i sefydlu ei Ganolfan Awyr Agored ei hun, gan ganfod y lleoliad perffaith ym Mae Ardintigh, lleoliad gwyllt ar lannau Loch Nevis, ger Mallaig. Pan ddaeth i Ardintigh yn gynnar yn 1970, cododd babell mewn hen adfail cyn mynd ati i godi adeiladau a datblygu’r Ganolfan sydd bellach wedi bod ar agor ers 1973.  Dros y blynyddoedd, teg dweud bod bron pob math gwahanol o uned filwrol wedi bod yn Ardintigh Highland Outdoor Centre. Mae Tom hefyd yn croesawu llawer o Oedolion a Grwpiau Ieuenctid i’r Ganolfan, ac mae’n fodel rôl i’r grwpiau o bobl ifanc ddifreintiedig a heriol y mae’n eu harwain a’u hannog. Ei arwyddair yw “Os ydych chi’n meddwl y gallwch chi, fe fyddwch”. Ers gadael y fyddin, a rhwng rhedeg ei Ganolfan Awyr Agored yn y West Highlands, mae Tom wedi cyrraedd penawdau hyd a lled y byd gyda’i gampau rhyfeddol, sy’n cynnwys pum mordaith rwyfo epig ar draws yr Iwerydd mewn cychod anarferol, gan gynnwys y cwch hwylio lleiaf y byd, sydd dim ond 7′ 9″ o hyd. Taith unigol oedd un o’i anturiaethau eraill hefyd, bu Tom yn byw ar Rockall (pinacl o graig yn yr Iwerydd) am 40 diwrnod i gadarnhau hawliau Prydain i’r graig a’r cyfoeth o olew a mwynau gerllaw. Prosiect presennol Tom yw’r cwch a helpodd i adeiladu, sydd ar ffurf morfil sberm ac â’r enw Moby, Prince of Whales; Bwriad Tom yw gwella ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol drwy ddefnyddio Moby fel llwyfan marchnata. Mae Tom a chriw’r llong wedi cwblhau mordaith 2,000 milltir o amgylch arfordir Prydain, gan angori mewn 50 harbwr ar y ffordd. Mae’n briod â Jill a chanddynt dau fab, James a Ryan, a dwy wyres hefyd. Mae teulu Tom yn rhan o’r criw, gan roi cefnogaeth logistaidd a phersonol, cefnogaeth sy’n hanfodol i’w ddiogelwch a’i lwyddiant.