Yr Is-gadfridog Jonathon Riley CB DSO PhD MA

Mae gyrfa Filwrol nodedig yr Is-gadfridog Jonathon Riley yn rhychwantu dros 40 mlynedd. Mae’n awdur, yn ddarlithydd a’n hanesydd medrus â phrofiad a gwybodaeth helaeth, ac y mae wedi ysgrifennu 15 cyfrol hyd yma – gyda 3 arall i’w cyhoeddi eleni. Ei gyfraniad llenyddol diweddaraf yn “British Generals in Blair’s Wars” sy’n seiliedig ar ei brofiadau fel Swyddog Milwrol ar lefel uchel, ac mae’n gipolwg gwych ar wrthryfela a gwrthderfysgaeth yn ogystal â’r gweithrediadau heriol a newidiol a welodd yn ystod ei dymhorau yn Irac ac Afghanistacn. Cafodd ei fagu yn Swydd Efrog, a derbyniodd ei addysg Ngholeg Prifysgol Llundain, lle enillodd MA mewn Geomorffoleg, ym Mhrifysgol Leeds lle enillodd Radd Meistr mewn Hanes, ac yna ym Mhrifysgol Cranfield lle enilled PhD mewn Hanes Modern. Ymunodd â’r fyddin yn 1973, a chael ei gomisiynu i’r Queen’s Regiment flwyddyn yn ddiweddarach. Ar ôl esgyn trwy’r rhengoedd, ymunodd â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Cyflawnodd bum tymor dyletswydd ym Mosnia rhwng 1992-1999 lle’r oedd ei weithrediadau’n cynnwys bod yn Brif Swyddog y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig pan oedd dinas Goražd dan warchae yn 1995. Roedd ei dymhorau gweithredol yn cynnwys bod yn rhan o’r Stabilisation Force (SFOR) dan arweiniad NATO ym Mosnia a Herzegovina 1998-1999, llu a oedd yn cynnig presenoldeb milwrol hyblyg a allai ganolbwyntio ar feysydd critigol, a bu’n hyfforddi ac ailstrwythuro’r Lluoedd Arfog o fewn Cytundeb y Fframwaith Cyffredinol ar gyfer Heddwch, a oedd yn cynnwys nifer o arolygiadau rheolaidd o safleoedd storio arfau, monitro gweithgareddau hyfforddi a symud a gweithrediadau codi ffrwydron. Ac yntau wedi ennill medalau ymgyrch ym mhob un o’i safleoedd, yn 1995 derbyniodd yr Is-Gadfridog Riley DSO i gydnabod ei ddewrder a’i ymddygiad nodedig yn y Balcanau. Roedd yn un o’r ychydig Swyddogion Prydeinig a fu’n arwain Cyd-weithlu Tri-gwasanaeth yng ngweithrediadau Sierra Leone 2000-2001. Roedd Riley hefyd yn gyfrifol am 1st Mechanised Brigade ym Mosnia, bu’n Bennaeth Staff ar frigâd arfog ac ar is-adran arfog, ac yn Ddirprwy Gadfridog ar Is-adran Amlwladol yn Irac. Rhwng 2003 a 2004, bu Riley yn Ddirprwy Gadfridog yn y Coalition Military Advisory and Training Team. Ef oedd Uwch Gynghorydd Milwrol Prydain i Central Command yr UDA yn 2005, a Dirprwy Gomander lluoedd NATO yn Afghanistan yn 2007, lle bu ei brofiadau yn Affrica yn gymorth wrth arwain. Roedd hefyd yn Ddirprwy Gadfridog ISAF (Afghanistan) rhwng Medi 2007 a Rhagfyr 2008. Fe’i gwnaed yn Swyddog o Legion of Merit yr Unol Daleithiau America yn 2004; yn Gydymaith o Urdd y Baddon yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2008, a derbyniodd Fedal Gwasanaeth Rhinweddol NATO gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol yn 2009. Ar ôl cyfnod o addysgu yn Sandhurst, aeth Riley ymlaen i gwblhau taith yng Ngholeg Staff Camberley, lle bu’n addysgu fel Dirprwy Gommandant ac yn gyfrifol am y Cwrs Uwch-swyddogion a’r Uwch Staff. Yn ei flynyddoedd o wasanaeth, cwblhaodd y Is-gadfridog Riley chwe thymor dyletswydd yng Ngogledd Iwerddon, pum tymor yn y Balcanau, dau o weithredoedd yn Irac, un yn Afghanistan ac un yn Sierra Leone. Bu ar dymhorau dyletswydd heddychlon eraill dros y cyfnod hwnnw hefyd, gan gynnwys yn yng Nghyprus, Canada, Denmarc, yr Almaen, Kenya a’r UDA. Ymddeolodd o’r lluoedd arfog yn 2009, ond mae’n parhau â’i waith fel Cynghorydd Technegol Milwrol, fel arholwr allanol ym Mhrifysgol Cranfield ac fel darlithydd gwadd ar bynciau Hanes Milwrol ac Astudiaethau Ymgyrchu ac athro gwadd yn King’s College, Llundain. Ef yw Cadeirydd Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac mae’n un o Ymddiriedolwyr RUSI, (Royal United Services Institute). Yn 2011, derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth, a gyflwynwyd gan yr Athro Martin Alexander o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae’n un o’r saith Cymrawd a anrhydeddwyd gan Brifysgol Aberystwyth yn ystod Seremonïau Graddio 2011 (Newyddion Archifau’r Brifysgol). Erbyn hyn, mae Jonathon Riley ar Gofrestr Tystion Arbenigol y DU, ac mae ef, ynghyd â Huw Edwards y BBC, wedi dod yn noddwr o LINKS 6. Yn fwy diweddar, cafodd wahoddiad i ymuno â grŵp cynghori Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, o dan Syr Deian Hopkin, i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar y canmlwyddiant, a bydd hefyd yn Cadeirio grŵp y Fyddin Brydeinig a fydd yn cefnogi’r digwyddiadau hyn yng Nghymru. Mae hefyd wedi dod yn Noddwr i’r MPCT. Mae’r MPCT yn cael effaith enfawr ar recriwtio, gyda thros 500 o fyfyrwyr wedi ymuno â’r Cymry Brenhinol a 1750 wedi ymuno â’r Fyddin. Maent hefyd yn parhau i gyflogi staff o’r Fyddin yn unig, gyda thros 100 o aelodau staff yn Gyn-Filwyr. Gweler www.generalship.org am ragor o fanylion am yrfa a gwaith parhaus yr Is-gadfridog Jonathon Riley. “Yn fy marn i, mae MPCT yn newid bywydau pobl ifanc er gwell. Yr wyf wedi siarad â nifer o bobl ifanc ac maent oll yn dweud yr un peth: yr oeddent yn broblem, heb arweiniad na phwrpas, yn mynd o ddrwg i waeth. Ond ar ôl mis neu ddau yn MPCT, mae’r stori yn newid yn llwyr, a hyd yn oed os nad ydynt yn ymuno â’r lluoedd maent yn dod yn ddinasyddion da. O’r llu o filwyr yr wyf wedi cwrdd â hwy a fu’n ddisgyblion MPCT, teg dweud bod pob un ohonynt wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd. Mae sawl Prif Swyddog wedi dweud bod graddedigion MPCT yn fwy tebygol o lwyddo yn eu hyfforddiant, i ddod yn filwyr da ac i gael eu dyrchafu trwy’r rhengoedd. Mae’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig 1af wedi ennill gwerth cwmni cyfan o filwyr o ganlyniad i waith MPCT.”