John O’Brien MBE

Mae John yn arbenigwr ar ddiben moesegol a chyfathrebu sy’n gweithio i Diversified Agency Services (DAS), rhan o’r cwmni cyfathrebu byd-eang Omnicom. Mae’n Uwch Bartner Ewrop i’r asiantaeth ddyngarol o’r UDA ‘Changing Our Word’; Mae’n un o Bartneriaid yr asiantaeth strategaeth a chyfathrebu ‘OneHundred’, ac yn arwain ym maes diben i’r Cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus byd-eang Porter Novelli.

Ef yw Cadeirydd y rhwydwaith o arweinwyr moesegol, Knot, ac mae’n noddwr, yn ymddiriedolwr ac yn gefnogwr amrywiaeth o fentrau dielw. Mae John yn gyn-swyddog Milwyr Traed y Fyddin Brydeinig, treuliodd ddegawd fel milwr, a bu’n gyfarwyddwr rhaglenni personol Tywysog Cymru o fewn rhwydwaith busnesau cyfrifol y Tywysog, BITC. Roedd yn un o sefydlwyr menter Mosaic y Tywysog; yn Gadeirydd ar Gronfa Adfer Pacistan Tywysog Cymru, ac yn gynrychiolydd arbennig ar ran y Tywysog ar y rhaglenni Youth United ac Industrial Cadet. Mae’n awdur a’n sylwebydd, yn gyn ynad a’n sylfaenydd sawl busnes, ymgyrch cymdeithasol a phartneriaeth.

Derbyniodd MBE am ei waith ar draws yr agendâu hyn yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2017.

Fel cyn-gyfarwyddwr rhaglenni Tywysog Cymru a chynrychiolydd arbennig ar amrywiaeth o fentrau ieuenctid ac effaith gymdeithasol, gallaf ddweud bod MPCT wedi creu argraff fawr arnaf i a’r Tywysog pan ymwelsom â mi. Roeddwn yn falch iawn wedi hynny o gael gwahoddiad i fod yn Noddwr, ac ers hynny rwyf wedi cael cipolwg pellach ar y gwaith. Mae MPCT yn sefydliad effeithlon sydd â ffocws crys, ac mae wedi cael effaith eithriadol ar fywydau llawer o bobl ifanc. Y mae wedi creu cnewyllyn o bobl ifanc ymgysylltiedig ac ysbrydoledig sy’n gallu cymryd rhan lawn mewn cymdeithas a bywyd cyhoeddus.