Mrs Elizabeth Singer DL SRN

Cafodd Elizabeth Singer (Liz) ei geni a’i magu yn Henffordd. Mae hi’n nyrs gymwysedig a dderbyniodd ei hyfforddiant yn Queen Elizabeth Hospital, Birmingham. Rhoddodd ei gyrfa i’r neilltu er mwyn magu ei thri mab ac mae bellach yn canolbwyntio ar wneud gwaith elusennol. Mae hi wedi casglu arian yn wirfoddol i’r elusen plant Barnardo’s ers blynyddoedd lawer a hi yw Gadeirydd Cenedlaethol y Bwrdd Cynghori ar Apeliadau (AAB) sy’n cynrychioli’r gwirfoddolwyr sy’n casglu arian.

Hi oedd Uchel Siryf Morgannwg Ganol yn 2014/15, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n gefnogol o’r gwaith a wnaed gan Invisible Walls Wales yng Ngharchar y Parc Pen-y-bont ar Ogwr, elusen sy’n rhoi cymorth i deuluoedd carcharorion. Ei nod oedd gwella ymwybyddiaeth o’r prosiect a chasglu arian i ganiatáu i’w gwaith barhau. Gwnaeth hyn drwy drefnu Cystadleuaeth Tynnu Rhaff i Enwogion, a chasglodd dros £30,000 yn ei blwyddyn o wasanaeth. Yn y cyfnod hwnnw daeth yn ymwybodol o MPCT hefyd. Penodwyd hi’n Ddirprwy Raglaw gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, ac yn y swydd hon gall fod yn gynrychiolydd y Frenhines mewn digwyddiadau.

“Des yn ymwybodol o MPCT am y tro cyntaf pan oeddwn yn Uchel Siryf Morgannwg Ganol, a hynny mewn seremoni wobrwyo. Does gen i ddim profiad milwrol fy hun, ond yr wyf wedi bod yn ymwneud â Barnardo’s ers dros 40 mlynedd ac mae gan lawer o’r dysgwyr yn MPCT gefndiroedd tebyg i’r rhai y mae Barnardo’s yn gweithio gyda nhw. Maent yn eu galluogi i newid eu bywydau, i gyflawni eu potensial ac i ddod yn ddinasyddion da. Mae MPCT yn eu dysgu i weithio fel tîm, i barchu eu hunain, ac i fyw

bywydau iach a heini. Roeddwn wrth fy modd o gael gwahoddiad i fod yn noddwr, ac rwy’n hapus i’w cefnogi pryd bynnag y gallaf. Hoffwn ddweud hefyd fod gan y sefydliad sgiliau cyfathrebu rhagorol”.