Uwch-frigadydd David Wilson CB CBE

Mae David yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun sy’n arbenigo mewn arweinyddiaeth strategol a rheoli argyfyngau. Mae’n gysylltiedig â nifer o wahanol sefydliadau ymgynghori, ac mae’n rhannu ei amser rhwng darparu rheolaeth frys o fewn y sector niwclear a gweithio gyda chleientiaid sy’n awyddus i wella eu harweinyddiaeth gorfforaethol.

Cyn 2009 bu’n gweithio dramor ar aseiniad tair blynedd gyda’r Cenhedloedd Unedig yn Afghanistan, lle bu’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr ar gyfer rhaglen ddiogelwch a sefydlogi ledled y wlad, gan canolbwyntio ar ddiarddel a diddymu grwpiau arfog anghyfreithlon. Roedd wedi ymgymryd â gwaith ymgynghori o’r blaen ar ran Swyddfa Cymorth Cyfansoddiadol y Cenhedloedd Unedig, lle rhoddodd gyngor i Lywodraeth Interim Irac ar agweddau sifil/milwrol i’w cynnwys yn y Cyfansoddiad newydd.

Fodd bynnag, treuliwyd y rhan fwyaf o’i yrfa yn y Lluoedd Arfog, yn amlach na pheidio yn arwain, hyfforddi neu’n cefnogi lluoedd confensiynol ac anghonfensiynol (milwrol a’r heddlu, cenedlaethol a rhyngwladol) ar draws y byd mewn gweithrediadau a hyfforddiant sy’n wleidyddol sensitif ac yn aml yn beryglus. Mae’n ymwneud yn rheolaidd â’r gwaith o reoli’r ymateb cenedlaethol i argyfyngau, yn ogystal â gweithrediadau wrth gefn, boed hynny gartref neu dramor, ac mae’n gyfarwydd iawn â llunio a darparu cyngor polisi ar lefel weinidogol, i benaethiaid llywodraeth dramor, ac ar lefel uwch gorfforaethol.

Mae ganddo brofiad helaeth ym maes polisi diogelwch, bu’n Cynrychioli’r DU yn rheolaidd ar weithgorau a seminarau gwrth-derfysgol rhyngwladol, bu’n cyd-gadeirio Pwyllgor Diogelwch Kosovo ac fel dinesydd daeth yn aelod parhaol o Bwyllgor Rheoli Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn Kabul, Afghanistan.

Roedd ei benodiadau gwasanaeth uwch yn cynnwys: Pennaeth Staff yng Nghyd-bencadlys NATO’r Gogledd, Uwch Gynghorydd Milwrol Prydain i’r US Central Command, Comander Lluoedd Amffibiaidd y Deyrnas Unedig a’r Commandant General y Môr-filwyr Brenhinol. Bu hefyd yn gorchymyn y Special Boat Service, y 45 Commando Group, y 3 Commando Brigade, a Llu Amffibiaidd y Deyrnas Unedig/Iseldiroedd.

Bu’n Gyfarwyddwr Personél ac yn Llywydd ar yr Admiralty Interview Board, roedd yn siaradwr gwadd rheolaidd yn Ysgol NATO yn Oberammergau a, cyn iddo adael y Gwasanaeth, fe’i henwebwyd gan staff Pennaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig i ymuno â Rhaglen Mentor Uwch a Datblygu Cysyniad NATO. Ar hyn o bryd mae’n dal y swydd gynrychiadol o Colonel Comandant ar y Môr-filwyr Brenhinol.

Y mae wedi bod yn briod â Leslie am dros ddeugain mlynedd, ac mae’n dad ac yn dad-cu bellach, mae ei ddiddordebau’n cynnwys pobl, hanes ac unrhyw beth sy’n ymwneud â dŵr neu fynyddoedd.

“Dyma sefydliad sydd â photensial di-ben-draw ar gyfer arallgyfeirio ac ehangu (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol), sefydliad sy’n deall ei gylch gwaith yn glir, yn cyflawni ei addewidion ac yn cynrychioli buddsoddiad cadarn. Dyma dîm sy’n argyhoeddi, sydd ag arweinyddiaeth dda, sy’n llawn cymhelliant, ac sydd wastad yn mireinio a gwella’r ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith.

Mae’r MPCT yn hynod fedrus ac effeithlon o ran yr hyn y mae’n ei wneud, gan wneud cyfraniad gwirioneddol a thrawiadol i’r gymdeithas yn gyffredinol, ac i bobl ifanc yn enwedig Mae’n annog gwell dinasyddiaeth, yn hyrwyddo’r gwerthoedd a’r rhinweddau sy’n arwain at lwyddiant ac, o ganlyniad, mae’n helpu pobl ifanc i ddod yn fwy hyderus, gan eu galluogi i wynebu heriau bywyd a chyflawni eu disgwyliadau. Mae hyn i gyd yn ymwneud ag ennyn hunangred.

Mae’r apêl ar gyfer rhanddeiliaid yn amlwg iawn: unigolion sy’n fwy heini, sy’n ddisgybledig, sy’n ymroddedig, sydd â ffocws, ac sy’n fwy tebygol o lwyddo yn y broses ddethol a’r hyfforddiant dilynol o ganlyniad i’w profiad yn MPCT.

Nid dadl gwerth am arian yw hyn yn unig (er bod hynny ynddo’i hun yn dipyn o gymhelliant), mae’n ymwneud â manteisio ar ansawdd graddedigion MPCT i helpu i godi safonau cyfunol”.