Marsial yr Awyrlu Syr Dusty Miller KBE

Ymunodd Syr Dusty Miller â’r Awyrlu brenhinol ym 1967, gan gwblhau prentisiaeth 2 flynedd a chymhwyso fel gosodwr fframiau aer. Aeth ymlaen i fod yn beilot, gan hedfan awyrennau Jet Provost, Hunter, Jaguar a Tornado. Daliodd sawl apwyntiad staff a derbyniodd hyfforddiant staff uwch yn y Joint Services Defence College, Greenwich. Bu’n gwasanaethu gyda NATO o fewn rheolaeth ymgyrchol yn Sarajevo, ac yn ddiweddarach fel Air Component Commander ar gyfer Lluoedd y DU yn Afghanistan, a derbyniodd CBE am hyn yn 2002. Cafodd ei ddyrchafu i fod yn Farsial yr Awyrlu ac ef oedd Dirprwy Gomander yr Allied Joint Force Command Naples NATO, a chafodd ei urddo’n farchog yn 2007. Ar ôl oddeutu 40 mlynedd, ymddeolodd o’r Awyrlu Brenhinol ym mis Ionawr 2008 ac mae bellach yn dal comisiwn fel lefftenant hedfan o fewn RAFVR(T). Mae’n Gyfarwyddwr ar yr Honourable Company of Gloucestershire, mae’n Llywydd Cangen y Cheltenham Royal Air Forces Association, yn Is-noddwr RAF Halton Apprentices Association, ef yw Llywydd Anrhydeddus Tangmere Military Aviation Museum, Llywydd Anrhydeddus y Gloucestershire Outward Bound Association, a Llywydd Anrhydeddus 125 (Cheltenham) Squadron Air Training Corps. Yn olaf, mae’n un o Noddwyr ‘fly2help’ yn Staverton, ac yn Noddwr ac yn gapten gwirfoddol gyda’r elusen hwylio ‘Turn to Starboard’ yn Falmouth, elusen sy’n cefnogi personél y Lluoedd Arfog sydd wedi’u heffeithio gan weithrediadau milwrol. Yn ddiweddar, daeth yn un o Noddwyr yr MPCT.