Phil Jones, Prif Weithredwr – Busnes mewn Ffocws

Cyn ymgymryd â’r rôl arweinyddiaeth hon gyda Busnes mewn Ffocws, roedd gan Phil rolau arweiniol yn y sector milwrol ac elusennol. Bu’n gwasanaethu yn y Fyddin Brydeinig am dros 26 mlynedd gyda’r Cymry Brenhinol, lle’r oedd ei brofiad yn bennaf mewn rolau gweithredol a hyfforddiant, yn ogystal â chudd-wybodaeth a gweithrediadau seicolegol. Gorffennodd Phil ei amser yn y fyddin gyda chynlluniad a chyflwyniad y Cyfathrebu Strategol ar gyfer rhan y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Ngemau Olympaidd 2012, ar gyfer yr ymyriad yn Libya ac ar gyfer nodi 30 mlynedd ers rhyfel y Falklands.

Ers gadael y fyddin yn 2012, bu Phil yn arwain y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru, cyn ymgymryd â’i rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru ym mis Mai 2016.

Mae Phil wrth ei fodd gyda’r her o arwain, ac mae dwy egwyddor sylfaenol i’w agwedd tuag at arweinyddiaeth – ymddiriedaeth a grymuso, ac mae’n credu bod diwylliant wastad yn curo strategaeth.

Y tu allan i’r gwaith mae Phil yn mwynhau gwleidyddiaeth a materion cyfoes, mae’n cefnogi Cymru yn y Rygbi a Phêl-droed, a’n cefnogi tîm criced Lloegr. Mae’n cerdded a’n beicio i gadw’n heini, ac ynghyd â dramâu gwleidyddol dwys neu raglenni dogfen mae hefyd yn hoff iawn o ‘Strictly’.