Roy Noble OBE, DL, K.St.J

Mae Roy Noble yn frodor o Frynaman, Sir Gaerfyrddin, yn wreiddiol ond mae wedi byw ers blynyddoedd lawer yn Aberdâr, ar ôl cael ei ddenu yno gan ei wraig Elaine. Mae ganddyn nhw un mab, Richard, a chi o’r enw Dylan. Er iddo roi ei fryd ar ddod yn beilot â’r Llu Awyr Brenhinol, cafodd ei ymdrechion eu rhwystro gan glefyd y gwair, felly ymunodd â’r Royal Observer Corps yn lle hynny. O ganlyniad, mae’n dal i wybod lle mae byncer niwclear Gwaun Cae Gurwen wedi’i leoli, ond wrth gwrs ni allai byth ddatgelu ble. Roedd ei yrfa gynnar ym maes addysg ac, yn erbyn y diwedd, ef oedd Pennaeth dwy ysgol gynradd ym Mhowys. Enillodd sawl bwrsariaeth yn ogystal ag Ysgoloriaeth Page i astudio systemau addysg yn yr Almaen ac mewn wyth rhanbarth yn yr UDA. Ar ôl symud i fyd darlledu â’r BBC yng Nghymru bu’n gweithio fel cyflwynydd ar y radio a’r teledu, gan ennill Gwobr Sony am ei waith radio a Gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol fel Cyflwynydd Rhanbarthol y Flwyddyn am ei waith ar y teledu. Mae’n darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd yn gyd-gyflwynydd rhaglen deledu gylchgrawn i S4C bu’n actio iob o gymydog mewn cyfres gomedi lwyddiannus. Mae wedi bod yn gysylltiedig â’r BBC ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac, er ei fod yn cael ei gysylltu’n bennaf â’i raglenni radio hynod lwyddiannus, mae wedi cyflwyno llawer o raglenni dogfen difyr ar y teledu, gan gynnwys ‘Noble Trails, Noble Guides a Common Ground’. Mae’n siaradwr cyhoeddus poblogaidd ac mae wedi teithio’n eang fel siaradwr gwadd, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, megis i Gymdeithasau Cymru yn Hong Kong, Singapore a Thoronto. Mae’n meddu ar wybodaeth eang am Gymru, yn ddaearyddol ac yn hanesyddol, ac mae wedi cyhoeddi sawl llyfr, gan gynnwys ‘Roy Noble’s Wales’ a ‘Noble Ways – Laybys in my Life’. Mae hefyd wedi trosleisio llawer o hysbysebion teledu a rhaglenni dogfen. Mae wedi cadeirio nifer o gyrff a chynadleddau dylanwadol ac wedi cyflwyno llawer o ddigwyddiadau o fri. Mae’n ymwneud â llawer o elusennau, ar draws y sbectrwm cyfan o ofal ac angen, a hynny fel Noddwr, fel Llywydd neu fel Is-lywydd, ac mae wedi derbyn OBE am ei wasanaethau i elusennau ac i gymunedau Cymru. Ef yw Is-Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, mae’n farchog Urdd St. John, yn Gymrawd Paul Harris gyda Rotary International, yn Llysgennad Cymru ar gyfer yr RVS, yn Gymrawd o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn ddeiliad Medal y Canghellor ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn aelod o Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef oedd Noddwr canmlwyddiant Trychineb Mwyngloddio Senghennydd, gan y bu’n gweithio fel athro yn y pentref yn ogystal â chwarae i’r tîm rygbi lleol. Mae’n dod o deulu o lowyr, dros ddwy genhedlaeth, a lladdwyd ei daid yn Steer Pit, Gwaun Cae Gurwen. Mae ganddo atgof cryf o gorff ei daid yn cael ei ddwyn adref, er mai dim ond naw mlwydd oedd Roy ar y pryd. Ef oedd yn cyflwyno yn seremoni i ddadorchuddio’r Ddraig Goch Efydd yn Fflandrys, i anrhydeddu’r holl filwyr a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ganddo ddiddordebau amrywiol, gan gynnwys chwaraeon, bu’n ddyfarnwr rygbi a phêl-droed yn y gorffennol, meysydd brwydrau hanesyddol, y mae wedi ymweld â llawer ohonynt adre a thramor, teithio mewn ceir, yn enwedig ail-ymweld â mannau o’i orffennol a, coeliwch neu beidio, mae’n yrrwr bws cymwysedig hefyd.