Stephen Hughes

Stephen fu’n gyfrifol am arwain Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgol Cymru. Y mae wedi gweithio sawl apwyntiad staff, gan gynnwys yng Nghyd-bencadlys Parhaol y DU, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Pencadlys NATO AFNORTH gynt yn Norwy, yr Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst, a Phencadlys y Fyddin. Cwblhaodd dymhorau gweithredol yng Ngogledd Iwerddon, ym Mosnia gyda’r Cenhedloedd Unedig yn gyntaf ac yna gyda’r UE bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, a’r ymgyrch dan arweiniad NATO yn Kosovo, a bu’n arwain Tîm Ad-drefnu Taleithiol Eingl-Nordig yn Afghanistan a oedd yn cynnwys milwyr o Norwy, Y Ffindir, a Phrydain ynghyd â dinasyddion.

Yn ystod ei flynyddoedd olaf â’r Fyddin cwblhaodd MSc rhan-amser mewn Cydnerthedd ym Mhrifysgol Cranfield, gradd sefydliadol amlddisgyblaethol wedi’i gosod yng nghyd-destun argyfwng a risg. Mae Stephen yn briod a chanddo ddwy ferch. Mae’n mwynhau celf, paentio, ffotograffiaeth a beicio.

Erbyn hyn, Stephen yw Dirprwy Brif Weithredwr Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid yng Nghymru, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae ei bortffolio’n cynnwys hyrwyddo’r agenda Ieuenctid a’r sefydliad Cadetiaid tri Gwasanaeth. Mae’n Ymddiriedolwr gyda Chyngor Gwasanaeth Ieuenctid Gwirfoddol Cymru. Mae hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Cymdeithas Comrades Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru ac yn Llywydd ar Gangen Blaenau Ffestiniog. Mae hefyd yn hyrwyddwr MPCT.