Cath Possamai

Mae Cath wedi gweithio ym maes recriwtio a rheoli talent ers dros 20 mlynedd. Yn y cyfnod hwn, mae hi wedi arwain mewn swyddi ‘mewnol’ yn ogystal â fel partner ar gontractau allanol. Mae wedi gweithio ar draws y Gwasanaethau Ariannol, TG, Telco, y BPO ac Amddiffyn ac mae wedi hyrwyddo cydweithio agored a chadarnhaol rhwng sefydliadau er mwyn sbarduno llwyddiant busnesau ac i roi’r profiad mwyaf cadarnhaol posibl i ymgeiswyr.

Mae Cath yn angerddol am amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant, a thros feithrin cysylltiadau agosach rhwng diwydiant a’r sector addysg er mwyn helpu pobl ifanc i gael gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad iddynt. Oherwydd hyn, ei gwaith gydag MPCT oedd uchafbwynt ei chyfnod fel Prif Weithredwr Grŵp Recriwtio’r Fyddin Brydeinig (2018-21) ac roedd yn falch iawn o gael cynnig y cyfle i barhau â’r berthynas fel Noddwr.

Ar hyn o bryd, Cath yw Cyfarwyddwr Caffael Talent ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol, Affrica ac Awstralia ar gyfer Amazon Worldwide Operations. Pan fo ganddi amser sbâr mae’n mwynhau chwarae criced a hoci, beicio, sgïo a choginio a threulio amser gyda’i dau fab, sydd yn eu harddegau.