Dickie Davis CB CBE

Mae’r Uwch-frigadydd (ymddeoledig) Dickie Davis CB CBE yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni Nant Enterprises Cyf, yn un o Gyfarwyddwyr Terrain Clothing Cyf, ac yn Gadeirydd Anweithredol i Water to Go Cyf. Ers gadael y Fyddin Brydeinig yn 2015 ar ôl 32 mlynedd o wasanaeth bu hefyd yn gynghorydd arbennig i Sefydliad Brenthurst, yn Affrica Is-Sahara yn bennaf. Yn ystod ei yrfa filwrol, gwasanaethodd yn helaeth ar weithrediadau yn y Balcanau (1995-2002) ac Afghanistan (2003-2010). Yn y DU, bu’n Gyfarwyddwr Cynlluniau ar gyfer y Lluoedd Tir (2007-2009), yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Recriwtio a Hyfforddi’r Fyddin (2011-2013) ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Personél (2013-14). Mae’n Is-lywydd Sefydliad y Peirianwyr Brenhinol, yn Gadeirydd Amgueddfa’r Peirianwyr Brenhinol, a bu’n Golonel Anrhydeddus ar Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy (milisia) (2014-2019). Mae ganddo radd gyntaf mewn peirianneg sifil, gradd Meistr mewn Technoleg Amddiffyn, ac mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig a Sefydliad y Peirianwyr Brenhinol. Ef yw un o gyd-awduron Making Africa Work (Tafelberg 2017), ynghyd â Greg Mills, Jeff Herbst ac Olusegun Obasanjo, yn ogystal â A Great Perhaps? Colombia: Conflict and Convergence (Hurst, 2015) gyda David Kilcullen, Greg Mills a David Spencer. Mae’r ddwy gyfrol yn seiliedig ar waith maes helaeth yn Affrica Is-Sahara ac America Ladin.