Yr Is-Gyrnol (Wedi Ymddeol) Colin Martin OBE FCMI MCIPD Siartredig

“Pan ofynnodd Huw Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr MPCT, i mi a fyddwn yn fodlon dod yn noddwr i’w sefydliad ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddwn yn teimlo’n freintiedig ac yn ffodus i fod yn rhan o’r prosiect hynod ysbrydoledig a gweledigaethol hwn. Ers hynny, mae llwyddiant a chanlyniadau cadarnhaol rhaglen Coleg sy’n ennyn brwdfrydedd ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu eu galluoedd a’u priodoleddau i’r eithaf wedi creu argraff fawr arnaf. Er bod MPCT wedi’i sefydlu a’i gynllunio’n bennaf i baratoi pobl ifanc 16-19 oed ar gyfer gyrfa yn y lluoedd arfog, maes lle bu’n hynod lwyddiannus, mae eu Rhaglen Dysgu Sylfaen unigryw hefyd wedi galluogi eu dysgwyr i fagu hunanhyder i ymdopi â’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y byd ehangach. Heb os, mae MPCT wedi cyflawni ei genhadaeth “i ymgysylltu, ysgogi ac addysgu er mwyn cael rhagoriaeth i bawb”. Mae llawer o’i lwyddiant yn deillio o broffesiynoldeb, ymroddiad a chymhelliant ei Reolwr Gyfarwyddwr ac aelodau’r staff sy’n gweithio’n ddiflino ac yn anhunanol i ysbrydoli, i gymell ac i ysgogi grŵp amrywiol o bobl ifanc, yn aml o gartrefi difreintiedig ac anodd. Pan wahoddwyd fy ngwraig a minnau i fynychu un o Seremonïau Gwobrwyo’r Rhaglen MPCT, gwnaeth hyder, hunan-barch a’u penderfynoldeb y Dysgwyr ifanc argraff fawr arnom; at hynny, gwych oedd eu gwylio’n gweithio gyda’i gilydd fel grwpiau cystadleuol yn yr heriau meddyliol a chorfforol a arddangoswyd, a phob un yn gweithio er budd y tîm. Nid yw’n syndod bod llawer o’r Dysgwyr hyn, o ganlyniad, wedi llwyddo i gyflawni eu nod o basio’r broses ddethol recriwtio ar gyfer y lluoedd arfog a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae Grŵp Recriwtio’r Fyddin (RG) yn sicr wedi elwa ar raglen ddatblygu’r MPCT, ac mae’r MPCT yn parhau i fod mewn sefyllfa unigryw i gynorthwyo yn hyn o beth. Mae’r MPCT yn parhau i gynnig cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu hystwythder corfforol a meddyliol ac i fod cystal ag y gallent fod. Mae Huw Lewis a’i sefydliad yn haeddu cydnabyddiaeth a chlod llawn am alluogi’r cyfle hwn i lawer o ddysgwyr o gefndiroedd anodd na fyddent wedi cyflawni eu nodau a’u huchelgeisiau fel arall; Rwy’n eu canmol am wireddu canlyniadau trawiadol”.