GWOBRAU AC ANRHYDEDDAU
Mae MPCT yn ymdrechu i gynnig rhagoriaeth i’n myfyrwyr a’n gweithwyr, ac rydym wedi ennill nifer o wobrau ym maes rhagoriaeth mewn hyfforddiant a chyflogaeth.
Yma fe welwch rai o’r anrhydeddau a’r gwobrau a dderbyniwyd, yn ogystal â’n hymdrechion parhaus i gynnal safonau uchel ym mhob maes.
TES: Darparwr Hyfforddiant y Flwyddyn 2017
Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill gwobr darparwr hyfforddiant y flwyddyn yng Ngwobrau TES FE 2017. Mae’r wobr hon yn cydnabod perfformiad eithriadol gan ddarparwyr dysgu annibynnol. Yn 2017, roedd y beirniaid yn teimlo bod gwaith MPCT ar y cyfan yn “drawiadol” ac yn sefyll allan.
Ers ei sefydlu ym 1999, mae MPCT wedi “ymroi i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc drwy hyfforddiant ac addysg”. Mae MPCT yn cynnwys nifer o leoliadau hyfforddi ar draws ysgolion, colegau a chyfleusterau chwaraeon yng Nghymru a Lloegr. Yn 2014, cafodd MPCT radd “rhagorol” gan Ofsted ym mhob maes. Ac yn 2016, cyrhaeddon 10,000 o gofrestriadau.
Drwy gydol y flwyddyn academaidd, mae MPCT yn arloesi’r defnydd o “lythrennedd corfforol” fel cyfrwng i gynnwys myfyrwyr mewn rhaglenni Saesneg a mathemateg. Mae MPCT wedi gosod meincnod ar gyfer darparwyr ledled y wlad gyda’u defnydd o lythrennedd corfforol, a bellach mae rhai prifysgolion wedi ymgorffori’r dull yn eu rhaglenni TAR hefyd.
Er mwyn sicrhau profiad cadarnhaol, rydym yn darparu cymorth arloesol a gweithredol a elwir yn “The MPCT Way” – dull holistig sy’n cyfuno dysgu gweithredol o fewn cyd-destun datblygiad corfforol a phersonol, ac mae’n cael effaith drawiadol ac wedi arwain at gyflawniadau eithriadol. Yn 2016, roedd y gyfradd o ran dilyniant yn 86%.
Dywedodd y beirniaid fod MPCT wedi sicrhau canlyniadau eithriadol i’w myfyrwyr, ac roeddent yn cydnabod nad oedd derbyn gradd “ragorol” gan Ofsted yn fater syml, gan ei yn ofynnol i’r darparwr ddangos lefelau rhagoriaeth a chysondeb ar draws ei holl safleoedd. “Enillydd teilwng,” yn eu geiriau hwy.
THE SUNDAY TIMES: 100 Best Small Companines to Work For
Nid dim ond ni sy’n dweud ein bod yn gwmni gwych i weithio iddo – mae nifer o gyrff dyfarnu allanol wedi ein cydnabod fel un o’r cwmnïau gorau i weithio iddynt!
Yn 2017, lwyddodd MPCT i gael lle ar restr 100 Best Small Companies to Work For y Sunday Times.
“Nid rhyw fudd ychwanegol yn unig yw cael diwylliant ysbrydoledig yn y gweithle. I’r cwmnïau sydd ar ein rhestr, dyma sydd wrth wraidd eu strategaethau wrth gystadlu a thyfu. Mae’r safon sy’n ofynnol er mwyn cyrraedd y 100 uchaf yn uwch nag erioed.”
SIain Dey, Golygydd busnes The Sunday Times
Mae rhestr y Sunday Times yn ddadansoddiad cynhwysfawr o farn, boddhad ac ymgysylltiad y gweithle yn y DU. Yn ogystal â chael lle ar y rhestr, mae MPCT hefyd wedi enill statws Achrediad 3 Seren ‘Best Companies’, sy’n arwydd o lefelau eithriadol o ran ymgysylltu.
Mae rhestr y Sunday Times yn ddadansoddiad cynhwysfawr o farn, boddhad ac ymgysylltiad y gweithle yn y DU. Yn ogystal â chael lle ar y rhestr, mae MPCT hefyd wedi enill statws Achrediad 3 Seren ‘Best Companies’, sy’n arwydd o lefelau eithriadol o ran ymgysylltu.
Sefydliad Rhyngwladol er Safoni
ISO 9001
“Sicrhau rhagoriaeth i bawb” – Datganiad Cenhadaeth MPCT
Ers ei sefydlu ym 1999, mae MPCT wedi ymrwymo i ddarparu rhaglenni addysg a hyfforddiant o’r ansawdd uchaf i bobl ifanc ledled y DU. Mae MPCT bob amser wedi ceisio datblygu a gwella’r holl brofiadau addysgol ac mae ein hardystiad ISO 9001 yn arwydd o’n hymrwymiad parhaus i reoli ansawdd.
Mae’r safon ISO yn disgrifio ‘System Rheoli Ansawdd (QMS)’ fel: “system reoli sydd wedi’i chynllunio i gyfarwyddo a rheoli sefydliad o ran ansawdd.”
Cwmpas QMS MPCT yw cynllunio a darparu addysg a hyfforddiant i fyfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau cymorth.
Mae hyn yn sicrhau bod pob agwedd ar weithrediadau MPCT, y rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag addysg a hyfforddiant, gan gynnwys gwasanaethau cymorth, yn rhan o System Rheoli Ansawdd (QMS) y coleg, ac felly’n destun gwerthusiad ac adolygiad. Caiff effeithiolrwydd y QMS ei fonitro drwy broses o archwilio mewnol, adborth gan fyfyrwyr, a dadansoddi’r adborth hwnnw a’r adolygiad rheoli. Mae adborth gan staff, sy’n rhan annatod o gymhwyso gwahanol elfennau’r QMS, yn rhybuddio’r Rheolwr Ansawdd am broblemau posibl, a gwneir diwygiadau priodol ac amserol i gywiro’r diffyg. Caiff meysydd nad ydynt yn cydymffurfio eu cywiro trwy wneud ceisiadau am gamau unioni, a rhoddir sylw i feysydd posibl sydd ddim yn cydymffurfio drwy gychwyn cais am gamau ataliol.
Matrix
Mae’r safon Matrix yn safon ansawdd unigryw a ddefnyddir gan sefydliadau i asesu a mesur eu gwasanaethau cyngor a chymorth, y gwasanaethau sydd, yn y pen draw, yn cefnogi unigolion yn eu dewis o yrfa, eu haddysg, eu gwaith a’u huchelgais mewn bywyd.
Mae’n hyrwyddo ansawdd uchel o ran y ddarpariaeth o wybodaeth, o gyngor a/neu arweiniad, a hynny trwy sicrhau bod sefydliadau’n adolygu, yn gwerthuso a’n datblygu eu gwasanaeth; yn meithrin datblygiad proffesiynol parhaus eu staff a’n eu hannog i geisio am gymwysterau a gydnabyddir yn broffesiynol.
Mae’r Safon yn cynnwys pedair elfen sy’n cyd-fynd â themâu busnes eich sefydliad. Y pedair elfen hyn yw:
1. Arweinyddiaeth a Rheolaeth
2. Adnoddau
3. Darparu Gwasanaethau
4. Gwella Ansawdd yn Barhaus
Yn MPCT rydym yn cydnabod y budd y mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad o safon yn ei roi i’n myfyrwyr a’n rhanddeiliaid. Mae gennym brosesau a gweithdrefnau cadarn ar waith i sicrhau bod ein systemau rheoli ansawdd yn ein galluogi i wella ansawdd popeth a wnawn yn MPCT yn barhaus.
Sefydliad Rhyngwladol er Safoni
ISO 0026
“Cyflawni rhagoriaeth i bawb” – Datganiad Cenhadaeth MPCT
Ers ei sefydlu ym 1999, mae MPCT wedi ymrwymo i ddarparu rhaglenni addysg a hyfforddiant o’r ansawdd uchaf i bobl ifanc ledled y DU. Mae MPCT wastad wedi ceisio datblygu a gwella’r holl brofiadau addysgol ac mae ein hardystiad ISO 9001 yn arwydd o’n hymrwymiad parhaus i reoli ansawdd.
Mae’r safon ISO yn disgrifio ‘System Rheoli Ansawdd (QMS)’ fel: “system reoli sydd wedi’i chynllunio i gyfarwyddo a rheoli sefydliad o ran ansawdd.”
Cwmpas QMS MPCT yw cynllunio a darparu addysg a hyfforddiant i fyfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau cymorth.
Ym mis Rhagfyr 2018, cafodd MPCT ardystiad o’r safonau canlynol; (gellir gweld tystysgrifau ar gyfer pob safon drwy glicio arnynt)
- ISO 9001:2015 – Systemau Rheoli Ansawdd (QMS)
- ISO 14001:2015 – Systemau Rheoli Amgylcheddol (EMS)
- ISO 27001:2013 – Systemau Rheoli Diogelwch Gwybodaeth (ISMS).
Mae’r ardystiad o’r safonau hyn yn dangos ymrwymiad MPCT i sicrhau bod ein gwybodaeth a’n systemau rheoli yn ddiogel. Mae’n dangos ymrwymiad MPCT i arferion amgylcheddol da wrth wneud y gorau o effeithlonrwydd y busnes.
Cyber Essentials Plus
Defence Employer Recognition Award Gold
Braint yw derbyn y wobr hon gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae’r Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) yn gwobrwyo ac yn cydnabod cefnogaeth ac ymrwymiad cyflogwyr y DU i ddiogelu. Mae’r cynllun yn cyflwyno gwobrau efydd, arian ac aur i sefydliadau sy’n gwneud ymrwymiad a’n cefnogi amddiffyn a chymunedau’r Lluoedd Arfog ac sy’n alinio eu gwerthoedd â Chyfamod y Lluoedd Arfog.
Mae MPCT wastad wedi’i alinio â gwerthoedd milwrol ac mae wedi ymrwymo i gyflogi a chefnogi cyn-filwyr. Mae pob aelod gweithredol o staff MPCT yn gyn-filwr. Mae llawer o’r staff hefyd yn Gyllidwyr.
Mae MPCT wedi derbyn gwobr Arian bob blwyddyn ers 2014. Yn 2017, yn ogystal â derbyn gwobr, MCPT a noddodd y Wobr Ieuenctid a Datblygu. Mrs Barbara Hemmings enillodd y categori hwnnw am ei gwaith gyda gweithgareddau Ieuenctid sy’n canolbwyntio ar Dechnoleg Peirianneg. Rydym bellach yn derbyn gwobr AUR.
Gwobr Platinwm IIP
Ym mis Mai 2019, cawsom ddyfarniad Platinwm yn ein hachrediad Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP). Dyma’r dyfarniad uchaf posibl, dyfarniad a ddelir gan 70 o gwmnïau yn unig yn y DU, neu 1% o’r 8,300 o’r holl gwmnïau sydd ag achrediad IIP o ryw fath.
Mae safonau’r IIP yn achrediadau â chydnabyddiaeth ryngwladol a ddelir gan dros 10,000 o sefydliadau ledled y byd. Maent yn defnyddio methodoleg a fframweithiau asesu trwyadl i osod meincnodau ar gyfer rheoli pobl yn well. Mae’r IPP yn diffinio’r hyn sy’n angenrheidiol i arwain, i gefnogi ac i reoli pobl mewn ffordd sy’n cynhyrchu canlyniadau cynaliadwy.
Er mwyn ennill y dyfarniad Platinwm mae’n rhaid i gwmnïau gyrraedd safon ‘perfformiad uchel’ mewn o leiaf saith o’r naw dangosydd asesu. Drwy wneud hynny, mae cwmnïau’n dangos bod eu diwylliant a’u prosesau wedi’u seilio ar anghenion y sefydliad, a bod y ddwy agwedd yn cael eu deall, eu parchu, eu mabwysiadu a’u mewnoli gan bob aelod o’u busnes, o aelodau’r bwrdd i’r staff iau.
Gwobrau SOA 2020: Busnes y Flwyddyn – Effaith Gymunedol
Ym mis Hydref 2020, cafodd MPCT yr anrhydedd o gael eu cynnwys yn rownd derfynol categori Busnes y Flwyddyn – Effaith Gymunedol yng ngwobrau Soldiering On.
Mae’r Wobr Busnes y Flwyddyn – Effaith Gymunedol – a noddir gan Cisco,
yn anrhydeddu busnesau a gychwynnwyd gan unigolion sy’n gysylltiedig â’r lluoedd arfog, ac sydd wedi cael effaith wirioneddol o fewn Cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae Gwobrau Soldiering On (SOA) yn rhoi cydnabyddiaeth i lwyddiannau’r rhai sydd wedi gwasanaethu dros eu gwlad, a’r holl bobl a’r grwpiau amrywiol sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog. Eu nod yw meithrin cefnogaeth i’r gymuned hynod hon drwy ddathlu llwyddiannau’r bobl, y timau a’r busnesau sy’n rhan ohoni.
Achrediad 3 Seren ‘o’r Radd Flaenaf’ Best Companies
Mae achrediad Best Companies yn dangos bod ymgysylltu yn y gweithle yn cael ei drin fel mater o bwys, gan gynhyrchu amgylcheddau ‘da iawn’, ‘rhagorol’ ac ‘o’r radd flaenaf’.
Ar gyfer 2021, cyrhaeddodd MPCT ei safle uchaf erioed, 791 allan o 900, sydd yn yr haen uchaf tair seren.
Mae’r achrediad yn rhagori ar y ddwy seren a gafodd MPCT yn 2020, ac mae’n arbennig o arwyddocaol gan fod yr arolwg wedi’i gynnal tra bod cyfyngiadau’r cyfnod clo ar waith.
Dangosodd yr arolwg fod 99 y cant o’r staff yn cytuno bod MPCT yn awyddus i helpu pobl o gefndiroedd difreintiedig, a dywedodd 93 y cant eu bod “wrth eu bodd yn gweithio i’r sefydliad hwn”.