Cafodd ei eni yn Ysbyty Milwrol Prydain yn Benghazi, Libya ym mis Hydref 1959 lle’r oedd ei dad yn swyddog gyda Bataliwn 1af The Welch Regiment. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eastbourne.
Ymunodd â’r Fyddin yn 1979 ac fe’i comisiynwyd i Gatrawd Frenhinol Cymru (Milwyr Troed y 24ain / 41ain) ym mis Rhagfyr 1979. Arweiniodd blatŵn o reifflwyr gyda’r Bataliwn 1af yn Aldershot ac yng Ngogledd Iwerddon, ac arweiniodd blatŵn hyfforddi yn y Infantry Junior Leaders Battalion yn Shorncliffe. Ef oedd Swyddog Gwybodaeth y Bataliwn yn yr Almaen yn ystod y Rhyfel Oer rhwng 1984-1986. Dychwelodd i’r DU a gwasanaethodd fel Dirprwy i’r TA Batallion (3RRW) yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i’r Bataliwn 1af fel Comander Cwmni Dros Dro yn Warminster a Hong Kong. Mynychodd Goleg Staff Camberley ym 1991.
Ar ôl gadael y Coleg Staff, ef oedd yr SO2 G1 / G4 Ops yn Is-adran HQ 3 (DU) ac yna bu’n gorchymyn C Company 1 RRW (yr un cwmni ac y bu ei Dad yn ei arwain 20 mlynedd cyn hynny) gan gwblhau tymor dyletswydd dwy flynedd o hyd yng Ngogledd Iwerddon. Ym 1996 symudodd i Aberhonddu fel Pennaeth Staff Canolfan Hyfforddi Milwyr Traed Cymru. Cafodd ei benodi’n Battalion Second in Command ar gyfer 1 STAFFORDS a chwblhaodd dymor arall yng Ngogledd Iwerddon yn ogystal ag ymarfer tramor yn Kenya. Dilynwyd hyn gan dymor 2 flynedd fel y SO2 Manning and Recruiting yn HQ Infantry. Ar ôl dyrchafiad i fod yn Is-Gyrnol yn 2002, treuliodd 8 mis ar secondiad yng Ngweinyddiaeth Amddiffyn Macedonia fel cynghorydd gwrth-wrthryfela cyn cael ei bostio am dymor dyletswydd 2 flynedd o hyd fel Prif Swyddog Personél a Logisteg Lluoedd y Cenhedloedd Unedig yng Nghyprus. Yn ystod y cyfnod hwnnw, helpodd i sefydlu grym y Cenhedloedd Unedig ym Murundi hefyd. Bu’n Gomander Recriwtio Rhanbarthol Yng Nghymru rhwng Hydref 2007- Hydref 2009. Rhwng mis Hydref 2009 a mis Mehefin 2010, ef oedd y Prif Swyddog Gwybodaeth Filwrol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ar gyfer Cenhadaeth y Cenhedloedd Unedig (MONCC). Fe’i penodwyd i HQ Joint Force Headquarters Brunssum fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Joint Operations Centre ym mis Mehefin 2010 a derbyniodd y Commander’s Commendation am ei waith yno. Ym mis Ionawr 2012, aeth ar dymor dyletswydd i HQ ISAF gan weithio’n uniongyrchol i’r Comander ISAF, Cadfridog USMC Allen. Yn 2013 bu’n llwyddiannus yn ei gais i fod yn Ysgrifennydd Catrodol nesaf y Cymry Brenhinol. Ymgymerodd â’r penodiad ym mis Ionawr 2014.
Mae’r Is-Gyrnol Colonel Kilmister yn briod â Suzanne ac mae ganddynt ddwy ferch sydd ill dwy yn y brifysgol. Mae ganddo ddiddordeb yn y rhan fwyaf o chwaraeon ac mae’n arddwr brwd iawn.
“Bûm yn ddigon ffodus i fod yn rhan o’r MPC ers 2000, yn gyntaf fel y SO2 Manning & Recruiting yn HQ Infantry ac yn ddiweddar fel Comander Rhanbarthol Recriwtio Cymru. Mae’r myfyrwyr y mae’r MPCT yn eu cynhyrchu fel rheol wedi paratoi yn dda, mae ganddynt gymhelliant, y gallu i wneud penderfyniadau, a phenderfynoldeb. Mae’r Cymry Brenhinol a’i gatrodau (RRW ac RWF) wedi derbyn nifer sylweddol o filwyr hyfforddedig gan MPCT. Buddsoddiad y Gatrawd yn y broses hon oedd penodi corporal gradd uchel neu siarsiant ifanc i fod yn Gydgysylltydd Milwrol mewn 2 neu 3 o’u canolfannau.
Bu’r Gwarchodlu Cymreig a Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines hefyd yn darparu cydgysylltwyr milwrol i ganolfannau eraill. Roedd hyn yn sicrhau bod ansawdd Myfyrwyr MPC yn parhau i fod yn uchel, ac roedd yn hyfforddiant gwerthfawr i’r NCO hefyd. Pan gafodd y cydgysylltwyr hyn eu tynnu yn sgil yr RPP, roedd y gostyngiad yn amlwg iawn.
Mae Myfyrwyr MPCT yn gwneud yn well yn y Ganolfan Ddethol, a chant eu trosglwyddo i hyfforddiant gyda dealltwriaeth glir o’r hyn sy’n ofynnol ganddynt ystod hyfforddiant sylfaenol. O’m profiad sylweddol o recriwtio, mae myfyrwyr MPCT yn gwneud yn well yn yr Hyfforddiant Sylfaenol o gymharu â recriwtiaid oddi ar y stryd.
Mae hwn yn sefydliad sy’n cyflogi hyfforddwyr a gweinyddwyr o safon, ac mae llawer ohonynt yn gyn-swyddogion milwrol, yn SNCOs neu Swyddogion Warant. Mae safonau MPCT yn uchel iawn ac mae eu hyfforddiant arloesol yn ysbrydoli ac yn ysgogi myfyrwyr. Mae hyn yn arwain at greu recriwt gwell a mwy cyflawn. Mae’r sefydliad hwn yn un o nifer a ddefnyddiwn i recriwtio, ond mae’n un hanfodol. Mae’r sefydliad angen ein cefnogaeth barhaus os yw’r Fyddin am lenwi ei rhengoedd”.