Ganwyd Pat yn Solihull ac aeth i’r ysgol a’r brifysgol yn y De Ddwyrain.
Mae Pat wedi dysgu mewn gwahanol ysgolion a cholegau yn y De-ddwyrain a’r De-orllewin ac yn Neo Liosia, Athen. Penodwyd Pat yn uwch reolwr yng Ngholeg Ynys Wyth yn 1990, gan gefnogi’r paratoadau ar gyfer Ymgorffori. Penodwyd Pat yn Enwebai’r Coleg a pharatôdd y coleg ar gyfer ei arolygiad cyntaf gan y Cyngor Cyllido Addysg Bellach (FEFC). Yn ystod y cyfnod hwn, hyfforddodd fel arolygydd FEFC rhan-amser. Cwblhaodd Pat ei chymwysterau Meistr mewn Gweinyddu Busnes ac IPD yn llwyddiannus.
Gwnaeth Pat gais llwyddiannus i fod yn Bennaeth Staff a Gwasanaethau Ansawdd yng Ngholeg Bridgwater, Gwlad yr Haf yn ystod mis Ionawr 1996. Rhwng 1996-2003 enillodd y coleg statws Beacon ac fe’i cydnabuwyd yn genedlaethol fel un o’r sefydliadau addysg bellach mwyaf llwyddiannus yn Lloegr. Penodwyd Pat yn Enwebai’r Coleg a pharatôdd y coleg ar gyfer arolygiad yn 2002 a arweiniodd at raddau rhagorol ym mhob maes. Roedd y ei rolau eraill yn cynnwys Clerc Archwilio, Adolygydd Sefydliadol ar gyfer dau adolygiad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Sgoriodd y ddau adolygiad QAA 23 allan o uchafswm o 24 pwynt.
Yn ystod mis Ionawr 2004, gwnaeth Pat gais am swydd Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg South Devon, gan ymateb i’r heriau o baratoi ar gyfer arolygiad OFSTED a symud i amgylchedd dysgu ysbrydoledig newydd. O dan ei harweiniad hi, a chyda chefnogaeth uwch dîm Rheoli eithriadol, symudodd Coleg South Devon o statws ‘anfoddhaol’ i ‘da’ ac yna ‘rhagorol’ ym mis Rhagfyr 2008. Penodwyd Pat yn Ddirprwy Bennaeth a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol yn 2009.
Mae Pat wedi arwain y Coleg at wobrau a llwyddiannau eraill, gan gynnwys:
2014 Treialu Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd llwyddiannus Ofsted
2011 a 2014 Hyrwyddwr a Statws Aur Buddsoddwyr mewn Pobl
2-11 Statws STEM Assured
2010 a 2013 Safon Matrix ar gyfer gwybodaeth/cyngor ac arweiniad
2010 Gwobr Sports Focus College
2007 a 2010 Safon Ansawdd Hyfforddiant
2007 i 2014 8 Gwobr Beacon
2009 Statws Beacon
2008 a 2009 Statws BECTA Technology Exemplar
Mae Pat yn arolygydd OFSTED sydd wedi’i hyfforddi’n llawn ac mae wedi cynnal arolygiadau o wahanol golegau a sefydliadau addysgol.
Dyfarnwyd OBE i Pat yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2012 am ei Gwasanaethau i Addysg Bellach. Mae gan Pat ddau o blant ac mae’n mwynhau cerdded a bod â’i theulu.
Mae Pat wedi cael y fraint o weithio’n agos gyda Huw Lewis MBE, ei staff a’i fyfyrwyr yn MPCT ers 2011. Mae hi’n falch o fod yn Noddwr.
Yn dilyn ymddeoliad cynnar ym mis Awst 2015, mae Pat yn parhau i gefnogi a gweithio â sefydliadau addysgol i wella ansawdd a phrofiad dysgwyr ymhellach. Ym mis Hydref 2015 daeth Pat yn Gyfarwyddwr Cwmni PRTD LTD. Mae hi bellach yn cynghori ac yn cefnogi uwch dimau rheoli i weithredu strategaethau gwella yn llwyddiannus.
Gwasanaethodd Pat fel Is-Bennaeth dros dro Dysgu ac Ansawdd yng Ngholeg Highbury, Portsmouth cyn cael ei phenodi’n Is-Bennaeth New College, Swindon yn 2021.
“Rwy’n falch iawn o fod yn Noddwr MPCT. Ar ôl cwrdd â llawer o’r dysgwyr, y staff a’r rheolwyr yn MPCT, mae eu cymhelliant a’u hymroddiad i gyflawni wedi creu argraff fawr arnaf erioed. Mae MPCT yn sefydliad rhagorol sy’n sicrhau bod pob dysgwr yn dysgu sgiliau newydd, yn gwella eu sgiliau Mathemateg a Saesneg, ac yn cyflawni eu potensial llawn bob amser. Nid llwyddiant â chymwysterau yw’r unig fesur o lwyddiant, mae angen ystyried pen y daith i’r dysgwr hefyd. Mae MPCT yn gosod pob dysgwr ar lwybr clir tuag at ddyfodol llwyddiannus. Mae’r ethos cryf o ddisgwyliadau uchel yn gyson ar draws y sefydliad.
Mae boddhad dysgwyr yn uchel iawn ac mae’n amlwg bod dysgwyr a rhieni/gwarcheidwaid yn cael eu hysbrydoli gan y profiad dysgu yn MPCT. A minnau wedi arsylwi ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu, mae ysfa’r timau i wella wastad yn gwneud argraff arnaf. Mae’r tîm arweinyddiaeth rhagorol yn sicrhau bod strategaeth glir yn cael ei rhoi ar waith a bod cynllun hunanasesu trwyadl yn cael ei ddefnyddio i gynnal perfformiad uchel. Mae MPCT yn sefydliad hynod lwyddiannus a fydd yn parhau i dyfu ac ymateb i’r newid yn y tirlun addysgol”.