CEO Welcome

Huw Lewis MBE

Ers 1999, mae MPCT wedi bod yn helpu pobl ifanc o ystod o gefndiroedd gwahanol i gyflawni eu huchelgeisiau gyrfa.

Mae gennym angerdd dros ddileu’r rhwystrau sy’n atal llwyddiant ac i ysgogi ein Dysgwyr i ddechrau taith newydd a bod cystal ag y gallent fod, waeth beth fo’u profiad addysg yn y gorffennol.

Huw Lewis MBE
MPCT Prif Swyddog Gweithredol

Mae ein dull gweithredu yn syml. Rydym yn trin pob Dysgwr fel unigolyn ac yn eu gosod ar lwybr dysgu a datblygu ysbrydoledig a fydd yn eu helpu i gyrraedd eu potensial.

Mae pob un o’n hyfforddwyr wedi gwasanaethu â Lluoedd Arfog Prydain. Maent wedi’u hyfforddi’n dda, yn llawn cymhelliant ac yn ymfalchïo yn y canlyniadau y maent yn eu cael o’u Dysgwyr. Rydym wedi cael y radd Platinwm uchaf gan Buddsoddwyr mewn Pobl, rydym wedi’n cynnwys yn rhestr The Times 100 Best Companies to Work For, ac yn wedi’n dyfarnu’n ‘World Class’ gan Best Companies. Mae hyn yn dangos bod ein staff wrth eu bodd â’r hyn y maent yn ei wneud ac mae hynny’n eu gwneud yn fodelau rôl gwych ar gyfer pobl ifanc.

Gwyddom y gall pawb gyflawni eu nodau pan fo arweinyddiaeth ac addysgu rhagorol yn cael ei ddarparu yn yr amgylchedd cywir. Yn ein harolygiad Ofsted diweddaraf cawsom ddyfarniad Rhagorol ym mhob maes, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, canlyniadau i Ddysgwyr ac arweinyddiaeth a rheolaeth. Cawsom gydnabyddiaeth gan TES hefyd, a’n henwi’n Ddarparwr Hyfforddiant y Flwyddyn 2017 i gydnabod y canlyniadau eithriadol i’n Dysgwyr.

Gyda chwricwlwm wedi’i deilwra’n arbennig, un sy’n cyfuno chwaraeon a chynnwys corfforol cryf â dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, ac oll yn cyd-fynd â chyflymder anghenion pob Dysgwr, mae MPCT yn unigryw. Mae’r ymdeimlad o berthyn a’r amgylchedd diogel, gofalgar, cadarnhaol a chefnogol, yn golygu y byddai 97% o Ddysgwyr yn argymell MPCT i’w ffrindiau, ac mae dros 90% o Ddysgwyr yn symud ymlaen tuag at gyflawni eu hamcanion mewn cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg bellach.

Mae ymgeiswyr i’r Lluoedd Arfog yn fwy tebygol o lwyddo ar ôl mynychu MPCT o gymharu â mynediad uniongyrchol. O ran y Dysgwyr sy’n dewis llwybr gyrfa gwahanol, mae’r sgiliau, y cymwysterau a’r hyder y maent yn eu hennill yn MPCT yn agor drysau at ddyfodol na fyddent erioed wedi’i ystyried yn bosibl o’r blaen.