Mae Jonathon yn gweithio i Gorfforaeth Dinas Llundain fel Cyfarwyddwr Adeiladau a Gweithrediadau ar gyfer y Barbican Centre ac Ysgol Gerdd a Drama Guildhall. Mae Jonathon hefyd yn eistedd ar wahanol Fyrddau yn y Ddinas, gan gynnwys y Bwrdd Prosiectau Corfforaethol, y Bwrdd Categori, Bwrdd Cynghori Diogelwch y Ddinas, y Bwrdd Ynni a’r Bwrdd Rheoli Asedau Strategol.
Mae Jonathon wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi uwch eraill. Bu’n Cyfarwyddwr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, atyniad twristaidd mwyaf poblogaidd Cymru a chartref y Celfyddydau yng Nghymru, yng nghaeau ras Cas-gwent a Henffordd, y Grŵp MEM, lle bu’n rheoli grŵp o ddeg cwmni a oedd yn darparu gwasanaethau i gleientiaid Blue Chip gan gynnwys British Steel, Interbrew, British Airways ac L’Oreal, a bu hefyd yn gweithio yn SA Brain & Co., manwerthwyr annibynnol mwyaf Cymru gyda dros 200 o unedau manwerthu, safleoedd gweithgynhyrchu a depos logisteg, lle bu’n gweithio gyda’r Bwrdd ar uno a chaffael Crown Buckley.
Gwasanaethodd Jonathon tua 15 mlynedd yn y fyddin yn bennaf yng Nghatrawd Frenhinol Cymru, (fel mirwl arferol ac wrth gefn) ac bu’n gweithio pyliau gyda’r UOTC a’r UDR yng Ngogledd Iwerddon yn ogystal â’r Prince of Wales Division, lle bu’n gweithio ar gynllunio a gweithredu CSMR (Maes Llafur Milwrol Cyffredin – Recriwtiaid) cyntaf erioed y Fyddin.
Mae Jonathon hefyd wedi cynnal nifer o rolau anweithredol a gwirfoddol, gan gynnwys swyddi uwch yn St John Cymru, Clwb Busnes Caerdydd, Ymddiriedolaeth Theatr Dawns Cymru Cyf, Amgueddfeydd Brenhinol Cymru, yr Academi Sgiliau Genedlaethol (Sgiliau Creadigol a Diwylliannol) a phwyllgorau amrywiol ar gyfer Cyngor Caerdydd. Mae hefyd wedi gweithredu fel Asesydd Busnes (Ymgynghorydd) i Gyngor Celfyddydau Cymru ar nifer o brosiectau gweithredu ac adeiladu, gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau Pontio newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Derbyniodd wobr Cyfarwyddwr y Flwyddyn gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr (Menter Gymdeithasol, Cymru) a gwobr Cymrawd Siartredig y Flwyddyn gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (Cymru). Mae’n gymrawd oes o’r Sefydliad Materion Cymreig ac yn Aelod Ardystiedig o’r Sefydliad Rheoli Cyfleusterau yn y Gweithle. Mae Jonathon hefyd yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Cymry Llundain.
Ganed Jonathon yn y Fenni, ac fe’i magwyd yn Llanwytherin a Thyndyrn yn Nyffryn Gwy. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Bechgyn Trefynwy, PDC a’r Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst. Mae’n briod ag Amanda, sy’n Bennaeth Cynorthwyol mewn Ysgol Merched, ac mae ganddynt ddwy ferch, ill dwy yn gweithio yn y sector ariannol.