Ganwyd yr Arglwyddes Bathhurst ym Marlborough, Wiltshire yn 1965, i Christopher a Marguerite Chapman, a magwyd hi a’i brawd hŷn Mark yn Lyme Regis, Dorset, ar ôl i’w rhieni symud i fod yn agosach at ‘HQ’ y teulu yn Nwyrain Dyfnaint pan oedd hi’n fychan. Cafodd addysg breifat a magwraeth mewn cartref gwladgarol â gwerthoedd hen ffasiwn, magwraeth a feithrinodd ysbryd elusengar a chydwybodol ynddi yn ogystal â dos swmpus o annibyniaeth. Yr annibyniaeth yma a’i hanogodd i fentro ymhellach oddi cartref, ac ar ôl gadael yr ysgol, yn hytrach na dilyn yr un cwys a’i chyfoedion a derbyn swydd fwy traddodiadol yn Llundain, penderfynodd y byddai antur dramor yn cynnig mwy o her. Teithiodd i’r Unol Daleithiau, gan setlo yn Chicago yn 1986. Bu’n byw yn yr Unol Daleithiau am bum mlynedd, yn crwydro cymaint o’r wlad ag y gallai, a chael modd i fyw yn cefnogi ei hun drwy weithio mewn rolau amrywiol, gan gynnwys cyfnod â chyfreithiwr o fri yn Chicago. Mae gan yr Arglwyddes atgofion melys o’i chyfnod yn America, a gwerthfawrogiad enfawr gan iddi enill ‘gwerth oes a mwy o brofiadau a gwybodaeth’. Ar ôl dychwelyd i’r DU yn 1991 aeth i weithio fel partner ym musnes y teulu, cadwyn o siopau llyfrau annibynnol yn y De Orllewin, a dychwelodd i Lyme Regis am gyfnod i redeg y brif gangen. Cwrddodd â’i gŵr Allen, yr Arglwydd Apsley ar y pryd, yn 1993, a phriododd y ddau dair blynedd yn ddiweddarach a symud i’r Cotswolds – roedd hi wastad wedi dweud ei bod am briodi ffermwr! Ers hynny mae hi’n treulio ei hamser yn cadw’r tŷ ym Mharc Cirencester, yn cefnogi ei gŵr, ac yn ymwneud â chymuned Swydd Gaerloyw mewn nifer o rolau, yn bennaf ag elusennau ledled y sir. Ers marwolaeth ei thad-yng-nghyfraith, yr 8fed Iarll Bathurst, mae’r Arglwyddes wedi dod yn Llywydd a’n Noddwr i lawer mwy o elusennau a chymdeithasau lleol. O blith ei diddordebau niferus, mae ei chŵn, cefn gwlad a ffermio yn arbennig o annwyl iddi.