Addysgwyd yr Uwch-frigadydd Roddy Porter yn Ysgol Sherborne, yn yr Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst ac ym Mhrifysgol Newcastle-upon-Tyne (lle enillodd gradd BA (Anrhydedd) mewn Almaeneg a Hanes Canoloesol). Ym mis Hydref 2011, ar ôl treulio 31 mlynedd yn y Fyddin Brydeinig, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer The Royal Over-Seas League (ROSL). Sefydlwyd ROSL yn 1910 ac mae’n sefydliad aelodau preifat dielw ar draws y Gymanwlad sydd â’r nod o gefnogi dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhyngwladol drwy weithgareddau cymdeithasol, cerddoriaeth, y celfyddydau a lles. Mae ROSL yn cynnig amrywiaeth o fanteision i’w aelodau gan gynnwys: clybiau preifat mewn lleoliadau canolog, gan gynnwys llety moethus â golygfa o Green Park yn Llundain a llety ar Princes Street yng Nghaeredin; trefniadau cyfatebol gyda thros 80 o glybiau ledled y byd; calendr cerddoriaeth, celf a digwyddiadau bywiog; a llawer mwy. Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn gyfrifol am reoli, arwain a marchnata pob agwedd ar ROSL yn effeithlon. Mae hefyd yn gyfrifol am gysylltiadau â chyrff cenedlaethol, y Gymanwlad a chyrff rhyngwladol. Comisiynwyd yr Uwch-frigadydd Porter i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn 1980, a bu’n gwasanaethu’n weithredol fel Arweinydd Platŵn, Dirprwy, Arweinydd Cwmni a Phrif Swyddog ar sawl tymor dyletswydd yng Ngogledd Iwerddon a chyda’r Cenhedloedd Unedig ym Mosnia. Gyda’r 4th Armoured Brigade bu’n gwasanaethu yn Rhyfel y Gwlff yn 1991 (Ymgyrch GRANBY/DESERT STORM) ac ym Mosnia yn 1993-94; lle derbyniodd MBE am ei wasanaeth. Y mae wedi dal tair swydd yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, a bu’n gyfrifol am Frigâd o Filwyr Troed yng Ngogledd Iwerddon. Ar ôl cael ei ddyrchafu’n Uwch-frigadydd yn 2008, gweithiodd flwyddyn ym Mhencadlys Aml-Genedlaethol y Llu yn Baghdad, Irac, yn atebol i’r Cadfridog Cyffredinol a’r Llysgennad Americanaidd am fentrau cymodi gyda’r milisia Shia a Sunni. Ei benodiad milwrol olaf oedd Prif Swyddog Staff (Datblygu Rhyfela Ar y Cyd) yn y Cyd-bencadlys Parhaol yn Northwood, lle bu’n gyfrifol am hyfforddiant gweithredol a pharodrwydd y tri gwasanaeth ac yn GOC ar ganolfannau milwrol y DU dramor (y Falklands, Gibraltar, Cyprus a Diego Garcia). Bu’n Gyrnol ar Gatrawd Y Cymry Brenhinol am chwe blynedd. Mae General Porter yn briod â Marianne, athro ieithoedd a cherddoriaeth, ac mae ganddynt dri mab. Mae’n mwynhau’r rhan fwyaf o chwaraeon, yn enwedig golff, criced, hwylio dingis a rygbi. Mae’n Ddirprwy Lywydd Undeb Rygbi’r Fyddin ac yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Dyfarnwyr Undeb Rygbi’r Fyddin a Ffederasiwn Dyfarnwyr Rygbi’r Gwasanaethau Cyfunol. Mae ganddo ddiddordeb mewn hanes hynafol, canoloesol a milwrol, darllen a cherddoriaeth; mae’n canu ac yn chwarae’r gitâr ac wedi dysgu’r ffidil a’r sacsoffon yn y gorffennol. Ef yw Llywydd Undeb Cristnogol y Lluoedd Arfog, mae’n Aelod Pwyllgor o’r Soldiers’ and Airmen’s Scripture Readers Association, yn Is-lywydd SANDES Soldiers’ and Airmen’s Centres ac yn Noddwr MPCT.