Mae’r MPCT yn ddarparwr dysgu annibynnol arobryn sydd â dyfarniad Rhagorol gan Ofsted.

Sefydlwyd yr MPCT ym 1999 gan y Prif Swyddog Gweithredol, Huw Lewis MBE. Mae’r MPCT yn ddarparwr dysgu annibynnol arobryn sydd â dyfarniad Rhagorol gan Ofsted.

MPCT yw’r 7fed darparwr dysgu annibynnol mwyaf yn y DU o ran eu contract â’r Asiantaeth Cyllid Addysg a Sgiliau (ESFA), ac maent yn gweithredu o fewn 7 o 9 rhanbarth Swyddfa’r Llywodraeth yn Lloegr. Mae’r cwricwlwm, sy’n cefnogi Lefel Mynediad hyd Lefel 2, yn canolbwyntio ar ddatblygu cyflogadwyedd a sgiliau gwaith o fewn cyd-destun milwrol, gyda darpariaeth ac asesiadau Mathemateg, Saesneg a sgiliau digidol i gefnogi. Yng Nghymru, mae gan MPCT is-gontract i ddarparu rhaglenni a phrentisiaethau addysgol fel rhan o rwydwaith partner ACT, yn ogystal â darpariaeth cyn-16 sylweddol. Mae MPCT yn defnyddio dull ymarferol o ymdrin ag iechyd a lles dysgwyr, sy’n seiliedig ar gydymffurfiaeth a chymorth rhagorol o ran diogelu dysgwyr.

Mae MPCT yn sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn 2019, dyfarnwyd gwobr Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP) i MPCT, achrediad ISO Integredig 9001, 14001 a 27001 a’r Matrix Standard ar gyfer addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd. Mae MPCT wedi cael cydnabyddiaeth gan Wobrau Addysg Bellach The Times Educational Supplement, gan ennill Darparwr Hyfforddiant y Flwyddyn ym mis Chwefror 2017.

Gweledigaeth MPCT yw darparu rhaglenni addysg o ansawdd rhagorol ym mhob rhanbarth o’r Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn helpu pob dysgwr i gyrraedd eu potensial ac i gyrraedd eu llwybr gyrfa neu ddysgu dewisol. Mae’r cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddatblygu dysgwyr â dull holistig ac ymgysylltiol, sy’n seiliedig ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd drwy gyflwyno astudiaethau academaidd a chymhwyso sgiliau ymarferol.

Mae gan MPCT ymagwedd eangfrydig o ran mentrau cynhwysiant cymdeithasol, ymgysylltu â rhieni, cynnwys y gymuned a chyfleoedd i gasglu arian i elusennau. Ym mis Ebrill 2020, comisiynodd MPCT raglen ymchwil i werthuso effeithiolrwydd y rhaglen addysgol a’i gwerth ariannol i’r wladwriaeth. Cynhaliwyd yr ymchwil gan yr Institute for Social Innovation and Impact (ISII) ym Mhrifysgol Northampton. Mae’r ymchwil yn honni bod y rhaglen yn cael effaith gymdeithasol flynyddol o dros £4.8 miliwn y flwyddyn, gyda gwerth effaith gydol oes pob carfan flynyddol o ddysgwyr dros £31 miliwn. Mae’r prosiect ymchwil academaidd sylweddol hwn yn dilysu effaith darpariaeth MPCT, ac yn amlygu’r gwelliant a wneid i hunaneffeithiolrwydd dysgwyr yn enwedig.

Mae MPCT wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog ac yn 2019 dyfarnwyd Safon Aur iddynt gan y Defence Employers Recognition Scheme (ERS) am eu hymrwymiad i gyflogi cyn-filwyr a chefnogi’r gymuned amddiffyn. Mae dysgwyr yn mwynhau ac yn elwa o’r cyfoeth o brofiad a gwybodaeth am y diwydiant a gynigir gan y 70 o gyn-filwyr a’r milwyr wrth gefn a gyflogir mewn rolau addysgu, rheoli ac arwain. Mae gan MPCT bartneriaethau MOU presennol gyda’r Fyddin, y Llynges, a’r RAF, yn ogystal â nifer o sefydliadau addysg.

Ymddiriedolaeth Cymhelliant a Dysgu

Yr Ymddiriedolaeth Cymhelliant a Dysgu (MLT) yw sefydliad elusennol MPCT, a gweledigaeth yr MLT yw cefnogi, datblygu a gwella cyfleoedd bywyd i ddysgwyr MPCT – rhai’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae’r MLT yn casglu ac yn gweinyddu cyllid er mwyn cynnig cymorth i bobl ifanc mewn argyfwng ac i hwyluso cyfleoedd addysgol pwrpasol, ysbrydoledig a fydd yn sicrhau eu bod yn dod yn aelodau ystyrlon sy’n cyfrannu o fewn cymdeithas. Mae MPCT yn darparu cymorth drwy’r Gronfa Bwrsariaeth 16-19 i’r dysgwyr hynny sydd angen cefnogaeth ac arweiniad ariannol.

EWCH I’R WEFAN

ddysgwyr yn dweud bod y cymorth y maent yn ei gael i symud ymlaen yn rhagorol neu'n dda.

ddysgwyr yn dweud eu bod yn cael eu trin yn deg.

Gwerthoedd Craidd MPCT

Cred MPCT yw bod ymgorffori’r gwerthoedd hyn bob dydd, ac annog y dysgwyr i ddilyn yr un eisiampl, yn arwain at feithrin perthnasoedd cryf a chanlyniadau ystyrlon. Mae’r gwerthoedd craidd hyn i’w gweld ym mhopeth a wnawn.

Mae Gwerthoedd Craidd MPCT yn defnyddio’r acronym PRIDE.

Rydym yn falch o’n gwaith, yn falch yn ein hunain, a’n falch o’n coleg.

Iechyd Corfforol a Meddyliol

Byddwn yn canolbwyntio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol ein hunain, fel y gallwn gael cyrff a meddyliau heini.

Parch

Byddwn yn parchu’r rheini o’n cwmpas ac yn meddu ar rinweddau personol sy’n ennyn parch pobl eraill.

Uniondeb

Byddwn yn gwneud yr hyn sy’n iawn, waeth beth fo’r ymdrech bersonol.

Ymroddiad

Byddwn yn rhoi ein hymrwymiad a’n brwdfrydedd yn llwyr.

Empathi

Byddwn yn cydnabod profiadau’r rhai o’n cwmpas, fel y gallwn weithio gyda hwy mewn modd cynhyrchiol.

Ofsted: Dyfarnwyd safon ragorol ym mhob maes

Mae MPCT yn gweithio gyda llawer o bobl ifanc bob blwyddyn ar draws eu holl gyrsiau er mwyn sicrhau eu bod yn fwy heini, yn gryfach, yn fwy hyderus ac, bwysicaf oll, yn barod i weithio ym mha bynnag faes neu yrfa’r ant iddo yn y dyfodol.

Fel darparwr hyfforddiant Gradd 1 Ofsted, cewch sicrwydd bydd ein myfyrwyr yn ‘Rhagorol’ hefyd. Rydym hefyd yn falch o’r nifer fawr o noddwyr clodwiw sy’n cefnogi gwaith MPCT.

Gweld ein hadroddiad Ofsted

ddysgwyr yn nodi bod y sesiynau y maent yn eu mynychu yn rhagorol neu'n dda.

ddysgwyr yn nodi bod eu gwaith yn cael ei asesu'n rheolaidd.

Cwricwlwm a Chyrff Dyfarnu

Mae MPCT yn parhau i dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith gyda dysgwyr a’r gymuned.

Eleni, mae MPCT wedi cadw’r dyfarniadau a’r safonau canlynol ar gyfer cydymffurfio a rhagoriaeth. Mae arolygiadau ansawdd ac archwiliadau’r sefydliadau isod wedi cydnabod bod MPCT yn ddarparwr rhagorol.

Astudiaeth Effaith Gymdeithasol

Mae MPCT wedi comisiynu Prifysgol
Northampton i gynnal astudiaeth academaidd ar
eu heffaith ariannol a chymdeithasol
ar gymdeithas yn y Deyrnas Unedig.

DARLLEN YR ADRODDIAD YN EIN ADOLYGIAD BLYNYDDOL

GWOBRAU A SAFONAU ANSAWDD

Mae MPCT yn ymdrechu i gynnig rhagoriaeth i’n myfyrwyr a’n gweithwyr, ac rydym wedi ennill nifer o wobrau ym maes rhagoriaeth mewn hyfforddiant a chyflogaeth.

DARLLEN MWY