Huw Moores
Llyfryn Cyflwyno

Ces fy ngeni ym mis Ionawr 1966 yn Hannover, yr Almaen, gan fod fy nhad yn gwasanaethu dramor gyda’r Fyddin. Treuliais yr 16 mlynedd nesaf yng nghanol y bwrlwm a’r amrywiaeth cymdeithasol sy’n rhan o fywyd plentyn milwr sy’n symud o amgylch y byd.

Ymunais â’r Fyddin yn 16 oed yng Ngholeg Prentisiaid y Fyddin yng Nghas-gwent, a chwblhau fy Mhrentisiaeth fel gwneuthurwr weldio. Datblygais y sgiliau hyn dros y blynyddoedd ac yn y pen draw cyrhaeddais frig y maes trwy gymhwyso fel weldiwr arbenigol â chod. Bues ddigon ffodus i gael fy newis i hyfforddi darpar weldwyr arbenigol y Peirianwyr Brenhinol yn y Royal School of Military Engineering, ac i drosglwyddo’r profiad a’r sgiliau yr oeddwn wedi’u meithrin yn y swydd. Yn ystod fy ngyrfa â’r Fyddin, bûm yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith o fewn y Peirianwyr Brenhinol, gan gynnwys Brwydro, Aer Symudol, Cymorth Awyr, Amffibiaidd, Arfog ac Ymosodiadau Awyr, a hynny mewn amgylcheddau gweithredol gwahanol ledled y byd.

Parodd fy ngyrfa â’r Fyddin am bron i 30 mlynedd, a’m swydd olaf oedd Swyddog Warant Dosbarth 1 (WO1) i Dîm Cynghori Recriwtio’r Frigâd, sy’n gyfrifol am baratoi a darparu hyfforddiant, monitro safonau recriwtio a rhoi cymorth MIS i’r fframwaith recriwtio rhanbarthol ledled Cymru.

Ar ôl ymddeol o wasanaeth milwrol llawn amser yn 2011 roeddwn yn falch iawn o gael fy nghyflogi gan MPCT, a thros y 10 mlynedd ganlynol rwyf wedi mwynhau’r heriau o adeiladu, datblygu a meithrin y berthynas fasnachol a phroffesiynol rhwng MPCT a’n partneriaid presennol. Yn 2019, ymunais â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (SLT), ac yn fy ngwaith fel Cyfarwyddwr Datblygu Partneriaethau rwy’n gyfrifol am gynnal a datblygu cydweithredu strategol, ymgysylltu a chyfleoedd gyda phartneriaid presennol a darpar bartneriaid yr MPCT. Ar hyn o bryd rwyf hefyd yn cynrychioli ein Hymddiriedolaeth Elusennol (Yr MLT) fel un o’r Ymddiriedolwyr.

Fy niddordebau yw Golff, Rygbi ac rwy’n parhau i chwarae, hyfforddi a dyfarnu gemau Sboncen, sef fy mhrif ffocws chwaraeon dros y blynyddoedd. Ar hyn o bryd rwy’n un o’r Dyfarnwyr Cenedlaethol sydd â’r anrhydedd i gynrychioli Cymru fel swyddog yn nigwyddiadau Sboncen y Byd ac Ewrop.

Rwyf wedi bod yn briod â Karen ers 1992, a ni yw rhieni balch iawn Rhianydd, Alys a Bertie (y Cockapoo).