Cymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa fel hyfforddwr ffitrwydd gyda’r cwrs rhan-amser AM DDIM hwn!

Mae MPCT yn falch iawn o gynnig y cwrs rhan-amser hwn, sydd ar gael i unrhyw un 16+ oed nad ydynt mewn addysg amser llawn ar hyn o bryd.

Mae MPCT mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd y Fro yn cynnig cyfle i ddysgwyr gwblhau Cymhwyster Tystysgrif Hyfforddi Campfa Lefel 2 YMCA Awards.

Wedi’i gyflwyno mewn cyfleuster hamdden o’r radd flaened, David Lloyd yng Nghaerdydd, mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n awyddus i gael gyrfa yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd fel hyfforddwr ffitrwydd yng nghyd-destun ymarfer yn y gampfa. Mae’r cwrs yn cael ei gynnig mewn bloc pythefnos o hyfforddiant dwys, ond mae opsiynau eraill ar gael yn seiliedig ar eich anghenion unigol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar y cwrs, nodwch eich manylion drwy glicio yma neu ddilyn y ddolen isod, a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi, neu gallwch ffonio 0330 111 3939 i siarad â’n Tîm Cymorth i Ddysgwyr a fydd yn ateb eich holl gwestiynau ac yn eich cofrestru ar y cwrs.

Merch yn ymarfer yn y gampfa gyda chymorth hyfforddwr personol

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Anatomeg a ffisioleg
  • Sut i gynnal iechyd, diogelwch a lles mewn amrywiaeth o amgylcheddau ffitrwydd, gan gynnwys diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed
  • Sut i raglennu ymarfer corff diogel ac effeithiol ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid, manteision iechyd gweithgarwch corfforol a phwysigrwydd bwyta’n iach
  • Sut i gyfathrebu â chleientiaid yn effeithiol, ac ysgogi cleientiaid i lynu wrth raglen ymarfer corff
  • Y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a pharatoi rhaglen ymarfer corff yn y gampfa gydag oedolion sy’n ymddangos yn iach – ar gyfer unigolion a grwpiau. Gall hyn gynnwys pobl ifanc yn yr ystod oedran 14-16, ar yr amod eu bod yn rhan o grŵp oedolion mwy. Trafodir grwpiau cleientiaid eraill hefyd, gan gynnwys oedolion hŷn, cleientiaid cyn ac ôl-enedigol a chleientiaid anabl ar yr amod bod y gwrtharwyddion perthnasol a’r canllawiau diogelwch allweddol yn cael eu harsylwi.

Llwybrau dilyniant posibl:

Cymhwyster Tystysgrif Hyfforddi Campfa Lefel 3 YMCA.

Ar hyn o bryd mae gennym leoedd ar gael, a chan mai cwrs dwys byr yw hwn, gallech ennill eich cymhwyster o fewn ychydig wythnosau. Felly peidiwch ag oedi, cysylltwch â ni heddiw i ddysgu mwy!

Cwpl ifanc athletaidd gyda rhaff frwydr yn gwneud ymarfer corff mewn campfa hyfforddiant ffitrwydd