Learner recruitment

Partneriaid MPCT

Mae gweithio gyda chyflogwyr yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu’n fawr ac rydym yn awyddus i gysylltu ag unrhyw sefydliad a hoffai wybod mwy am ansawdd ein Dysgwyr a sut y gallent ychwanegu gwerth at eich sefydliad.

Maent oll yn dymuno ychwanegu gwerth i’w cymunedau, a chanfod gwaith yw eu prif ddyhead. Byddem yn falch iawn o allu archwilio cyfleoedd i gydweithio ymhellach.

Partneriaethau MPCT

Partneriaethau Addysg Bellach MPCT

Ein partneriaethau a’n dull cydweithredol wrth gefnogi cyfleoedd ein Dysgwyr yn y dyfodol yw ein Blaenoriaeth Strategol Rhif 3.

  • I greu partneriaethau arloesol a chryf, sy’n cefnogi recriwtio a Dilyniant Dysgwyr.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda nifer o Bartneriaid sy’n cefnogi ein Dysgwyr i baratoi ar gyfer y gweithle, i ddatblygu ac i gyfoethogi eu hunain. Daw’r cymorth hwn ar sawl ffurf wahanol, boed yn hyfforddiant hwylio cyffrous, yn dechnegau cyfweliad, ysgrifennu CV a mynd ar leoliadau gwaith.

The JST’s vision is about offering equal opportunities to all through sailing experiences on board Tenacious. She’s the only tall ship in the world to be designed, built and sailed by a mixed ability crew – which means she is fully accessible and can be crewed regardless of physical ability or experience on the water. We’ve seen groups of young people change through their experiences and given them valuable life skills which they then use to progress their goals, whether that is in confidence, or developing leadership ability. The partnership with the MPCT is perfect for us as we share that vision of inclusion and encouragement.

Patrick Fleming
CEO, Jubilee sailing trust

PARTNERIAID MEMORANDWM CYD-DDEALLTWRIAETH MPCT

MPCT YN GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH Â

Partneriaid Addysg Bellach MPCT

Bwriad y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r bartneriaeth arfaethedig yw darparu amodau ar gyfer gwaith cydweithredol rhagorol rhwng sefydliadau, gan arwain at brofiad dysgu cyfoethocach i ddysgwyr a chyfleoedd dilyniant gwell.

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn hwyluso perthnasoedd cadarnhaol, yn hyrwyddo gweithio cydweithredol, ac yn ysbrydoli ymddiriedaeth ar bob lefel. Yr allbwn fydd creu cysyniad pwrpasol o elfennau cyflawnadwy a chymorth, rhai sy’n diwallu anghenion a gofynion y ddau sefydliad. Y nod yw cael cydnabyddiaeth arfer gorau gan Estyn ac Ofsted.

PARTNERIAID ADDYSG BELLACH MEMORANDWM CYD-DDEALLTWRIAETH MPCT

Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â sefydliad o fri fel MPCT sydd wedi cael dyfarniad rhagorol gan Ofsted.

Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â sefydliad o fri fel MPCT sydd wedi cael dyfarniad rhagorol gan Ofsted. Rydym eisoes yn gweld llawer o fanteision mawr i’n cydweithrediad ers dechrau’r flwyddyn academaidd hon. Rydym yn rhannu llawer o’r un gwerthoedd a blaenoriaethau craidd, a dyna pam yr ydym wedi dewis llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chryfhau ein partneriaeth.

Mae rhannu ein hadnoddau o fudd i ddysgwyr y ddau sefydliad, ac mae’n eu helpu i wireddu eu hamcanion addysgol a gyrfaol yn y dyfodol. Mae ein partneriaeth ag MPCT yn ein helpu i feithrin ein perthynas â’r Lluoedd Arfog, a’r Llynges Frenhinol yn enwedig. Mae’r cysylltiadau ag MPCT hefyd yn golygu bod y corff myfyrwyr ehangach yn elwa o gael mynediad at siaradwyr gwadd gwych. Mae myfyrwyr MPCT hefyd wedi cefnogi mentrau coleg a chymunedol, gan gynnwys ein canolfan brofi Covid, digwyddiadau agored, a gweithgareddau codi arian.

Un o’n blaenoriaethau allweddol yw dilyniant dysgwyr, ac mae myfyrwyr MPCT yn cael mynediad at ein gwasanaeth gyrfaoedd, ac at gyngor ac arweiniad, sy’n golygu eu bod yn gallu parhau â’u haddysg gan ddefnyddio’r sgiliau a enillwyd yn MPCT, hyd yn oed os ydynt wedi penderfynu nad yw gyrfa yn y Lluoedd Arfog yn iawn iddyn nhw. Mae hyblygrwydd cyrsiau MPCT hefyd wedi golygu y gall Highbury letya a chyfeirio myfyrwyr rhwng ein dau sefydliad.

Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein partneriaeth ag MPCT yn y blynyddoedd i ddod, ac yr wyf yn siŵr y bydd llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ein helpu i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu o ansawdd uchel, yn ogystal â bod o fudd i’r gymuned ehangach yn ei chyfanrwydd.

Diolch.

PENNY WYCHERLEY
PENNAETH DROS DRO & PRIF WEITHREDWR
SWYDDOG HIGHBURY COLLEGE

Awdurdodau Lleol

Rydym yn bwriadu cydweithio ag Awdurdodau Lleol ledled Cymru a Lloegr i sicrhau bod ein darpariaeth yn hysbys i bobl ifanc ac ar gael iddynt.

Rydym yn cydnabod bod gweithio gydag Awdurdodau Lleol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gallu a’n canlyniadau yn eich galluogi i gyfeirio’r bobl ifanc yn eich cymunedau at y cymorth a gynigiwn.

Bywyd ar ôl MPCT

Gofynnodd Ed Saville, Rheolwr Cyffredinol Newport Galvanizers Ltd ac un o Ymddiriedolwyr MLT, ychydig o gwestiynau i Kurt Adams, un o gyn-ddysgwyr MPCT sydd â gyrfa addawol mewn diwydiant o’i flaen.

Beth wnaeth dy ddenu i ymuno â MPCT?

“Yn wreiddiol, roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar yrfa gyda’r heddlu. Fodd bynnag, cysylltais â Gyrfa Cymru ac fe sonion nhw am MPC. Roedd yn swnio’n dda, felly fe wnes i roi cynnig arni.”

Beth wnes di ei fwynhau fwyaf yn ystod dy amser gydag MPCT?

“Fe wnes i fwynhau tasgau’r tîm a’r agweddau ffitrwydd yn fawr iawn. Enillais gymhwyster BTEC mewn Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd, ynghyd â TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.”

Pa sgiliau wnes di eu hennill yno?

“Ces fwy o hyder, mae hynny’n bendant, pan ymunais doeddwn i ddim yn hoff o siarad o flaen eraill ac ati. Trwy’r tasgau tîm, gwelais fy mod yn gallu gwneud mwy o bethau nag oeddwn wedi’i feddwl. Roeddwn i hefyd yn llawer mwy heini.”

Beth yw dy atgof melysaf o dy amser yn MPCT?

“Efallai bod hyn yn ymddangos yn od, ond mae yna fryn ar y llwybr ymarfer corff, maen nhw’n ei alw’n Heartbreak Hill gan ei fod mor serth. Roeddwn i’n hoffi’r her o geisio cyrraedd y copa’n gyflymach bob tro. Mae’n syndod i mi, ond gwnes fwynhau’r ddisgyblaeth yn y coleg, a hynny am ei fod yn gwneud i chi deimlo’n rhan o dîm. Os bydd rhywun yn gadael ei hun i lawr, maen nhw’n gadael y tîm cyfan i lawr hefyd. Mae hyn yn dod â phawb ynghyd rhywsut, am eich bod eisiau i bawb lwyddo.”

Pa sgiliau wyt ti wedi’u hennill ers dechrau gweithio yng Nghasnewydd Galvanizers Ltd?

“Rwyf wedi cymhwyso fel gyrrwr forklift. Rwyf wedi gweithio yn y rhan fwyaf o rannau o’r ffatri ac yn aml wedi mentora eraill. Rwy’n anelu at ennill trwydded gyrrwr HGV Dosbarth 2 gyda’r cwmni, i ehangu fy sgiliau.”

Ym mha ffyrdd y mae dy fywyd wedi newid ers gadael MPCT a dechrau gweithio?

“Mae wedi bod yn wych cael ennill cyflog i brynu pethau fel ceir a gwyliau. Mae gan fy nghariad a minnau ferch fach 6 mis oed, Nova Mae, ac rydym yn hapus iawn.”

A fyddet yn argymell MPCT i bobl ifanc eraill sy’n ystyried ymuno?

“Yn bendant: maen nhw’n groesawgar a chyfeillgar iawn, maen nhw’n eich helpu i wireddu eich amcanion ac yn eich cefnogi i’w cyflawni.”

MPCT helped us to positively change the demographic age of our workforce. Some of these young people have had experience well beyond their years and this will pay dividends for us in the future. More importantly, MPCT changed our minds about employing young adults and I would advocate the MPCT to other employers seeking to do the same.

Ed Saville
General manager, Newport galvanizers

Byddem yn croesawu’r cyfle i sefydlu cyswllt addas a pharhaus gyda’ch tîm, ein Cyfarwyddwr Datblygu Partneriaeth, Huw Moores sydd yn y safle gorau i sicrhau ein bod yn cydweithio er budd y bobl ifanc.

Os hoffech drafod neu archwilio’r cyfle o sefydlu partneriaeth, cysylltwch â ni:

huwmoores@mpct.co.uk

0330 111 3939