Ar 23 Ar 23 Tachwedd, gwahoddwyd MPC Birmingham ac MPC Walsall i ymweld ag RAF Cosford, wedi’i drefnu gan Flight Lieutenant Katie Sheppick. Dyma’r cyfle cyntaf i ymweld â lleoliad yr Awyrlu Brenhinol ers cryn dipyn o amser. Gwelodd y dysgwyr yr holl gyfleoedd gwych a oedd ar gael iddynt pe byddent yn dewis gyrfa gyda’r RAF. Dechreuodd y diwrnod gyda llun o’r grŵp cyfan a chafwyd cyflwyniad gan Gatrawd yr RAF, RAF Regimental PT, gan gynnwys llusgo anafusion, gweithgareddau cylched a gorffen gyda her achub anafusion. Ymdrechodd y dysgwyr yn galed, gan fwynhau rhyngweithio a chael cefnogaeth gan Gatrawd yr RAF drwyddi draw. Yna, cyflwynwyd rhai anrhegion symbolaidd i bob dysgwr. Gwnaeth gwydnwch ac ymrwymiad ein dysgwyr drwy gydol y sesiwn argraff fawr, a dywedwyd mai dyma un o’r grwpiau mwyaf ymgysylltiedig sydd wedi cymryd rhan yn y sesiwn heriol hon.
Yn dilyn hyn, gwahoddwyd pob dysgwr am bryd o fwyd yn y Cookhouse ar ôl eu gwaith caled. Roedd y bwyd yn flasus iawn, ac roedd y dysgwyr yn gwerthfawrogi’r ddarpariaeth. Cawsant gyfle hefyd i siarad â Chatrawd yr RAF a staff eraill y Llu Awyr am eu gyrfaoedd.
Yn y prynhawn ymwelodd y dysgwyr â 4 maes masnach penodol yr RAF, gan gynnwys Technegwyr Arfau, Peirianneg ac Afioneg, a chafwyd cyfle i eistedd mewn awyrennau ac i ddysgu sut maen nhw’n gweithio. Un o’r uchafbwyntiau oedd ymweliad â’r tîm goroesi, gan edrych ar yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir gan beilotiaid sefyllfaoedd goroesi a chael cyfle i eistedd mewn rafft oroesi a rhoi cynnig ar barasiwtau. Gwnaeth y Rheolwr Gweithrediadau Luke Seal fanteisio ar y cyfle i eistedd mewn jet ymladd hyd yn oed.
At ei gilydd, yr oedd yn ymweliad gwych, ac yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr ymweliadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer MPC Wolverhampton, MPC Stoke on Trent, MPC Wrecsam ac MPC Bangor.
Dywedodd Pete Leak, Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol y rhanbarth Canolog, “Am gyfle gwych i’n dysgwyr ar ddigwyddiad prysur iawn a hynod ddiddorol. Hoffwn ddiolch i holl bersonél y Llu Awyr Brenhinol am eu hamser a’u proffesiynoldeb i gynnal digwyddiad mor wych a llawn gwybodaeth i’n dysgwyr. Roedd yn anhygoel!”
Yn ôl i’r erthyglau newyddion