Mae’n anrhydedd cyflwyno ein pumed Llyfr Coffa, sydd wedi’i gyflwyno i bum cyn-ddysgwr MPCT a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu dros ein gwlad. Drwy ein gweithredoedd coffa, byddwn yn cadw eu cof yn fyw. Cyhyd ag y bydd MPCT yn bodoli, byddwn yn eu cofio.
- Private Craig Barber – 2nd Battalion The Royal Welsh
- Sapper Connor Ray – 33 Engineer Regiment
- Preifat Craig Barber – 2il Bataliwn Y Cymry Brenhinol
- Sapper Connor Ray – 33 Engineer Regiment
- Lance Cpl. Dane Elson – Bataliwn 1af Gwarchodlu Cymreig
- Preifat Kyle Adams – Parachute Regiment
- Preifat James Prosser – 2il Bataliwn Y Cymry Brenhinol
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn eithriadol o bwysig, nid yn unig i mi fy hun yn bersonol, ond i’n sefydliad cyfan. Mae Dydd y Cofio yn un cyfnod yn ystod y flwyddyn lle gallwn oll gymryd saib gyda’n gilydd i fyfyrio ar ein hatgofion o’r holl bobl sydd wedi gwneud yr aberth mwyaf. A ninnau heb allu cynnal rhaglen draddodiadol o ddigwyddiadau’r llynedd oherwydd y pandemig, mae eleni wedi bod yn arbennig o ingol. O ganlyniad, rwy’n hynod falch o weld ein dysgwyr yn arddangos eu parch mewn digwyddiadau ledled y wlad, ac mae’n fraint gallu rhannu eu profiadau gyda chi yn y llyfryn eleni.
I weld ein Llyfr Cofio, cliciwch yma.
Byddwn yn eu cofio.
Huw Lewis MBE
Prif Swyddog Gweithredol