Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau / MPCT yn dod yn rhan o’r Grŵp Learning Curve

MPCT yn dod yn rhan o’r Grŵp Learning Curve

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod, o heddiw ymlaen, yn dod yn rhan o Learning Curve Group.

Darparwr hyfforddiant cenedlaethol yn parhau â’u twf trawiadol trwy gaffael MPCT

Mae’r darparwr hyfforddiant cenedlaethol Learning Curve Group (LCG) yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi caffael MPCT yng Nghaerdydd, gan ategu ei ddarpariaeth academi bresennol.

Bydd LCG, sydd eisoes ag academïau gwasanaethau mewn lifrai ar draws Swydd Efrog, yn ychwanegu 30 lleoliad arall a 180 o weithwyr ledled Lloegr a Chymru fel rhan o’r caffaeliad, a nhw fydd y sefydliad hyfforddiant milwrol mwyaf y tu allan i’r Weinyddiaeth Amddiffyn eu hunain.

Sefydlwyd MPCT yn 1999 gan gyn-Swyddog y Fyddin Huw Lewis MBE ac mae wedi helpu degau o filoedd o blant sydd wedi gadael yr ysgol i ennill y sgiliau ymarferol ac academaidd y maent eu hangen ar gyfer gyrfaoedd sifil a milwrol. Mae hefyd wedi derbyn nifer o wobrau, gan ennill gwobr ‘Darparwyr Hyfforddiant y Flwyddyn’ gan y Times Educational Supplement (TES), a chyrraedd safle 13 yn rhestr Top 100 Companies to Work For y Sunday Times yn ogystal â chyrraedd Gradd 1 Rhagorol yn eu harolygiad Ofsted diweddaraf.

Mae’r caffaeliad yn cadarnhau safle’r Learning Curve Group fel un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf ac sy’n ehangu gyflymaf yn y wlad. Byddant yn awr yn darparu hyfforddiant o dros 50 o leoliadau ledled Cymru a Lloegr, gan ychwanegu at eu darpariaeth bresennol a ariennir gan y Gyllideb ar gyfer prentisiaethau, addysg gymunedol ac addysg oedolion.

Dywedodd Brenda McLeish, Prif Swyddog Gweithredol y Learning Curve Group:

‘Rydym wrth ein boddau y bydd MPCT a’u holl staff anhygoel yn dod yn rhan o deulu’r Purple People yma yn LCG. Mae’n hanfodol bod unrhyw sefydliad sy’n ymuno â’r Learning Curve Group yn rhannu’r un gwerthoedd a diben, a chredaf fod MPCT yn gwneud hynny’n union.

Maent yn fusnes gwych sydd wedi derbyn nifer o wobrau, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r timau wrth i ni gychwyn ar ein cam nesaf o dwf.’

Dywedodd Huw Lewis MBE, sylfaenydd a Phrif Weithredwr MPCT:

‘Fel ninnau, mae’r Learning Curve Group yn credu’n gryf mewn addysg drawsnewidiol ac y bydd alinio ethos a dull ar y cyd o hyfforddi pobl ifanc yn dod â manteision enfawr, nid yn unig i ddysgwyr ond i gyflogwyr ar hyd a lled y DU.

Gyda’n gilydd byddwn yn gallu dod â’n modelau arobryn i ddalgylch llawer ehangach nag sy’n bosibl ar hyn o bryd, yn ogystal ag elwa ar ehangiad o ddarpariaeth.’

Yn ôl i’r erthyglau newyddion

Gwobr Etifeddiaeth Diana

Llongyfarchiadau i Mr Alex Anderson, sydd wedi mynd o nerth i nerth ers gadael MPCT, ar ennill Gwobr Etifeddiaeth Diana

Darllen Mwy

Ymdrechion Cymunedol MPC Sunderland

Y mis hwn, ymunodd MPCT Sunderland â Chlwb Pêl-droed Sunderland i helpu i wirio pasbortau Covid y dorf wrth iddynt

Darllen Mwy

Taith gerdded Elusen MLT

This term saw MPCT Sports Academy walk from Channel View leisure centre, Cardiff to Pontypridd via the Taff Trail Y

Darllen Mwy